Miloedd heb drydan dros Gymru yn sgil tywydd garw Storm Austen

Adeilad y Derfynfa ForolFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adeilad y Derfynfa Forol wedi cael ei ddifrodi ym Mhorth Amlwch, Ynys Môn

GanGwydion Edwards a Nia Tudur
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl wedi bod heb drydan am gyfnodau ddydd Gwener wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro Cymru.

Am 14:40 roedd y Grid Cenedlaethol, dolen allanol yn adrodd bod dros 3,000 o gartrefi heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.

Roedd dros 500 o gartrefi wedi colli pŵer yn ardal Clunderwen, 344 yng Nglyneath, 244 yn Llanrhidian, 234 yn Mhenfro, 174 yng Nghaerfyrddin, 166 ym Mynyddygarreg, 165 yn Llangadog a 159 yn Llanarfan.

Dywedodd y Grid Cenedlaethol bod cyflenwadau wedi eu hadfer i gannoedd o gartrefi, gan gynnwys dros 500 yn ardal Aberteifi.

Yn y gogledd roedd cartrefi'n cael eu heffeithio ym Meddgelert, Glyn Ceiriog, Gwespyr, Y Fflint a Chilcain.

Yn gynharach roedd cymunedau ym Mhwllheli, Bontnewydd, Llanidloes, Bodelwyddan, Bae Cinmel a Phrestatyn wedi eu heffeithio meddai SP Energy Networks, dolen allanol.

Mae dau rybudd melyn am dywydd garw mewn grym ar draws y wlad ar hyn o bryd.

Daeth y cyntaf i rym nos Iau am 22:00, gan effeithio ar ran helaeth o dde Cymru, a rhan fach o'r gogledd orllewin sy'n cynnwys Pen Llŷn ac Ynys Môn. Mae disgwyl iddo barhau tan 17:00 brynhawn Gwener.

Mae'r ail rybudd melyn yn effeithio gweddill Cymru, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r gogledd a'r canolbarth, a rhan fach o'r de ddwyrain. Mae disgwyl i'r rhybudd hwnnw bara tan 21:00 nos Wener.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd i fod yn barod am lifogydd, dolen allanol.

ConwyFfynhonnell y llun, BBC WEATHER WATCHERS/Jonathan Cain
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Llandudno ddydd Gwener

Mae cwmni Stena wedi canslo rhai o'u fferïau rhwng Caergybi a Dulyn ddydd Sadwrn, yn ogystal â'r fordaith am 16:00 ddydd Gwener.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud bod adeilad sy'n cael ei adnewyddu ym Mhorth Amlwch wedi cael ei ddifrodi gan y storm.

"Mae'r prosiect i adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol ym Mhorth Amlwch wedi'i atal dros dro ar ôl i Storm Austen achosi difrod i drawst newydd yn y to.

"Mae ein contractwyr wrthi'n gwneud y safle'n ddiogel," medd llefarydd.

"Er mwyn diogelwch, cynghorir trigolion i osgoi'r ardal hyd nes y rhoddir rhybudd pellach."

Ychwanegodd y cyngor fod y gwaith adnewyddu yn "rhan o'r rhaglen adfywio ehangach ar gyfer Amlwch".

Disgrifiad,

Mae bwyty Tafell a Tân yn Llangrannog wedi gorfod cau oherwydd bod cymaint o dywod wedi chwythu oddi ar y traeth gan orchuddio blaen yr adeilad

Yn Llangrannog, mae bwyty Tafell a Tân wedi gorfod cau oherwydd bod cymaint o dywod wedi chwythu oddi ar y traeth tuag at y pentref gan orchuddio blaen yr adeilad.

Wrth siarad â rhaglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru dywedodd y perchennog Huw Reed nad oedd yn cofio golygfa debyg.

"Sai'n cofio fe'n bod fel hyn ers sbel, os eriod.

"Jest oherwydd bod cymaint o tywod ar y traeth ar y funud, smo ni wedi cael y stormydd i olchi'r tywod bant to, a wedyn mae'r gwynt wedi codi'r cwbl lot a jest rhoi e lawr y maes parcio.

"Dim ond ochr ni rili, mae'r ochr lle mae'r cychod a'r Pentre Arms wedi safio'r tywod.

"Mae cymaint o tywod ochr ni o'r traeth, mae o fel bo chi'n mynd drwy sandblaster ar y ffordd mewn i'r caffi, felly mae'n amhosib agor y drws hyd yn oed heb cael covering o tywod drwy'r caffi i gyd."

Mae'r giatiau llifogydd yn Aberaeron wedi cael eu cau, meddai Cyngor Ceredigion, gan gynghori pobl i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio, ac i gadw draw o arfordiroedd gwyntog.

Maen nhw hefyd yn cynghori trigolion i gadw llygad ar y rhagolygon y tywydd, yn enwedig cyn dechrau taith.

Ychwanegodd y cyngor bod angen "cymryd gofal arbennig o amgylch coed a strwythurau a allai gael eu heffeithio gan wyntoedd cryf".

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, dolen allanol.

Coeden wedi disgynFfynhonnell y llun, Neighbours to Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae coeden wedi disgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân

Mae'r tywydd yn achosi rhywfaint o drafferthion i deithwyr gydag oedi sylweddol yn bosib mewn mannau.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru mewn datganiad ei bod hi'n bosib y bydd gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Amwythig yn cael eu canslo, neu eu gohirio hyd at awr ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân.

"Rydyn ni'n ymwybodol fod coeden ar y lein yng Nghwmbrân. Am resymau diogelwch ni fydd gwasanaethau trên yn gallu teithio drwy'r ardal," meddai'r cwmni.

"Mae Network Rail/Amey Infastructure yn ymwybodol o'r broblem ac mae staff ar eu ffordd i geisio datrys y sefyllfa."

Maen nhw'n cynghori teithwyr i wirio eu gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig