Menyw'n datgelu ymosodiad rhyw honedig gan fynach rannodd luniau noeth o'i hun

- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ymosodiad rhyw honedig gan fynach tra'r oedd hi'n aros ar ynys breifat yn Sir Benfro.
Yn ogystal mae'r Brawd Titus Keet, 78, yn wynebu honiadau iddo aflonyddu ac ymosod yn rhywiol ar gyn-weithiwr ar Ynys Bŷr, a rhannu lluniau noeth ohono'i hun gyda menywod.
Mae'n gwadu'r holl honiadau ond mae'n dweud ei fod yn ystyried ei ymddygiad.
Er i Heddlu Dyfed-Powys ymchwilio i'r cwynion, ni chafodd camau pellach eu cymryd.
'Nid rhywbeth ysbrydol oedd hyn'
Mae'r honiadau wedi'u datgelu mewn podlediad newydd y BBC, Dark Island.
Mae Ynys Bŷr yn eiddo i grŵp o fynachod Sistersaidd ac mae degau o filoedd o ymwelwyr yn teithio yno o Ddinbych-y-pysgod.
Ers dechrau 2000 bu Natalie Roberts yn treulio'i gwyliau'n rheolaidd ar yr ynys gyda'i meibion.
Dywedodd wrth y podlediad fod y Brawd Titus wedi rhoi lluniau noeth ohono'i hun iddi, gan gynnwys delweddau a dynnwyd ar draethau'r ynys.

Byddai'r Brawd Titus Keet yn tynnu lluniau ohono'i hun yn noeth mewn gwahanol leoliadau ar Ynys Bŷr
Yn ôl Ms Roberts, digwyddodd yr ymosodiad rhyw honedig yn 2016 yn ystod taith gerdded rhwng Ynys Bŷr ac Ynys St Margaret gerllaw.
Dywedodd iddi gael ei synnu pan ymddangosodd y mynach ar y daith, ac mae'n honni iddo gyffwrdd â hi dros ei dillad wrth gerdded y tu ôl iddi ar y llwybr creigiog.
"Roeddwn i mor ddig oherwydd roeddwn i'n gwybod mai ymyrraeth lwyr oedd hyn," meddai.
"Nid rhywbeth ysbrydol oedd hyn. Dyma oedd ei gyfle."
Dywedodd nad oedd wedi ymateb ar y pryd gan ei bod yn credu y byddai'r honiad yn cael ei wadu ac y gallai hi gael ei heithrio o'r gymuned ar yr ynys.
Mae'r Brawd Titus yn gwadu'r honiad. Dywedodd fod Ms Roberts wedi troi'n "faleisus" tuag ato ar ôl iddo wrthod ei hymdrechion i'w ddenu.
Ond ychwanegodd Ms Roberts bod y mynach mewn sefyllfa o "rym sylweddol" a'i fod wedi ceisio ei thanseilio.
Honiadau pellach
Yn ogystal mae honiadau pellach bod y Brawd Titus wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at gyn-weithiwr dros gyfnod o flynyddoedd.
Yn ôl yr honiadau bu'n cyffwrdd â hi'n amhriodol, gwnaeth sylwadau am ei chorff a dangos lluniau noeth ohono'i hun ac o fenywod eraill iddi, er iddi ofyn iddo roi'r gorau iddi.
Honnir hefyd iddo ddweud wrthi ei bod yn "ffodus" o gael ei sylw a bygwth y gallai golli ei swydd pe bai'n cwyno.
Yn ôl y son fe gafodd ymddygiad y Brawd Titus ei herio ar y pryd, ond dywedodd nad oedd cyfraith y DU yn berthnasol iddo gan ei fod yn ddinesydd yr Iseldiroedd.
Dywedodd hefyd y gallai wneud fel yr oedd yn dymuno gan ei fod ar ynys breifat, a honnir iddo alw'r gweithiwr yn "rhy sensitif".

Byddai'r Brawd Titus yn ysgrifennu llythyrau neu gerddi i gyd-fynd â'i ffotograffau noeth
Mae'r Brawd Titus yn gwadu'r cyhuddiadau hyn hefyd. Dywedodd fod y gweithiwr wedi creu'r honiadau ar ôl gadael yr ynys, ac awgrymodd ei bod wedi ceisio sicrhau iawndal gan yr abaty.
Wrth ymateb i'r honiadau, dyfynnodd o'r Beibl.
Dywedodd hefyd bod y lluniau a rannodd yn rhai artistig yn hytrach na rhywiol, er iddo ychwanegu y byddai'n ystyried ei ymddygiad.
Bellach mae'r Brawd Titus wedi gadael Ynys Bŷr. Yn ôl yr abad presennol, cafodd gais i adael yn 2024 ac nid oes ganddo ganiatâd i ddychwelyd.
Dywedodd yr abad eu bod nhw wedi delio â chwynion yn unol â'u gweithdrefnau diogelu.
Yn flynyddol mae dros 50,000 o bobl yn ymweld â'r ynys yn ystod y gwanwyn a'r haf.
Gall ymwelwyr aros dros nos mewn gwesty neu fythynnod sy'n eiddo i'r mynachod.
Yn ogystal mae tua 30 o bobl lleyg yn byw yno hefyd.

Mae Abaty Ynys Bŷr wedi bod yn gartref i fynachod Sistersaidd ers i grŵp symud yno o Abaty Scourmont yng Ngwlad Belg yn 1929
Yn y gorffennol roedd Ynys Bŷr yn cael ei hystyried fel mangre ddiogel, ond yn 2017 fe gafodd chwe menyw iawndal ar ôl iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol fel plant gan y mynach, Thaddeus Kotik.
Daeth adolygiad annibynnol i'r casgliad yn 2024 fod rhai dioddefwyr wedi cael eu trin mewn ffordd "ddidostur, elyniaethus a chreulon".
Dywedodd yr adolygiad hefyd fod pryderon wedi eu codi dro ar ôl tro dros y blynyddoedd, ond nad oedd yr awdurdodau wedi cael gwybod.

Bu farw Thaddeus Kotik, a oedd wedi byw ar Ynys Bŷr ers 1947, yn 1992
Roedd Kotik wedi gallu cam-drin plant am ddegawdau.
Mae cwestiynau hefyd wedi'u codi ynglyn â phobl eraill fu'n aros ar yr ynys.
Yn eu plith oedd un dyn fu'n byw yno am flynyddoedd dan enw ffug cyn cael ei garcharu am fod â delweddau o gam-drin plant.
Mae cyn uwch-swyddog Heddlu Dyfed-Powys, Steve Wilkins, wedi galw am ymchwiliad newydd i gamdriniaeth ar yr ynys.
Dywedodd y dylai ymchwiliad o'r fath edrych nid yn unig ar weithredoedd Kotik, ond hefyd ar sut y bu troseddwyr eraill yn gallu byw neu aros ar yr ynys.
Mewn ymateb, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi dilyn y trywydd priodol mewn achosion blaenorol ac nad oedd unrhyw ymchwiliadau newydd ar y gweill.
Troseddwr rhyw wedi ffoi i Abaty Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
Cyfaddef camgymeriadau dros honiadau Abaty Ynys Bŷr
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
Mae abad presennol Ynys Bŷr, y Tad Jan Rossey, wedi cydnabod methiannau'r gorffennol ac wedi ymddiheuro i'r rhai a gafodd eu niweidio.
Yn ôl yr abad, mae trefniadau diogelu'r ynys wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ychwanegodd eu bod nhw wedi ymrwymo i wrando ar ddioddefwyr ac i weithredu holl argymhellion yr adolygiad annibynnol er mwyn sicrhau na fydd methiannau tebyg yn digwydd eto.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.