CPD Wrecsam yn prynu tafarn enwog The Turf yn 'newyddion gwych' i gefnogwyr

The TurfFfynhonnell y llun, PA
  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol tafarn eiconig The Turf yn Wrecsam wedi cael ei sicrhau a'i holl hanes a diwylliant wedi ei ddiogelu, yn ôl un sydd wedi rhedeg y dafarn ers 20 mlynedd.

Daw sylwadau Wayne Jones yn dilyn y newyddion bod y grŵp sy'n berchen ar Glwb Pêl-droed Wrecsam wedi prynu'r dafarn gan Admiral Taverns.

Mae'n golygu y bydd y clwb, stadiwm y Cae Ras a The Turf i gyd dan berchnogaeth Wrexham Holdings, gyda'r gobaith y bydd hyn "yn caniatau rhagor o fuddsoddiad i brofiadau cefnogwyr ar ddiwrnodau'r gemau".

"Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i wella'r ardal bresennol i gefnogwyr (y fan zone) a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â chefnogwyr yn yr ardal drws nesaf i The Turf ar Ffordd Wyddgrug."

Dywedodd Wayne Jones ei fod yn "edrych ymlaen at barhau i redeg The Turf a dod â'i gyfuniad unigryw o hanes, awyrgylch ac, weithiau, ychydig o sêr Hollywood, i'r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr Wrecsam ac i'r bobl leol".

Esboniodd fod y dafarn "yn hŷn na'r clwb, ac mae cofnodion yn awgrymu bod y clwb ei hun wedi cael ei sefydlu yn y dafarn".

"Mae [The Turf] wedi chwarae rhan allweddol yn hanes y clwb ers hynny," meddai. "Roedd y chwaraewyr arfer newid yn y dafarn cyn rhedeg allan i'r Cae Ras... ac mae'n parhau i fod yn ganolbwynt i gefnogwyr ar ddiwrnodau gemau ac ar ddiwrnodau eraill hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.