Medal arian i Zoe Backstedt ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd

Zoe Backstedt yn gwenu wrth ddal ei medal arian yn ystod y seremoni ar ddiwedd y ras yn MontrealFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth llwyddiant y seiclwr 21 oed o Bont-y-clun wrth iddi gystadlu yn y ras elît i fenywod yn hytrach nag yn y categori dan-23

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Zoe Backstedt wedi ennill medal arian yn y ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd.

Daeth y seiclwr 21 oed o Bont-y-clun yn ail yn y ras yn Montreal fel rhan o dîm Prydain Fawr ar ôl cofnodi amser o 51:04.

Hi yw'r drydedd fenyw Brydeinig yn unig i ennill medal yn y ras arbennig yma.

Fe benderfynnodd i gystadlu yn y ras elît eleni yn hytrach na cheisio amddiffyn y teitl dan-23 oed a enillodd y llynedd.

Roedd ei pherfformiad yn ddigon i roi braw i'r pencampwr o'r Swistir Marlen Reusser, a lwyddodd i gadw'i theitl ar ôl cofnodi amser o 50:24.

Backstedt oedd y seiclwr cyflymaf wrth wirio'r amseroedd ar y ddau achlysur cyntaf ar hyn o cwrs 39.2 cilomedr o hyd ond fe gododd Reusser gêr yn ystod ail hanner y prawf.

Franziska Kock o'r Almaen oedd yn y drydedd safle.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig