Cyflwr rhai o adeiladau campws prifysgol yn Llanbed yn 'dorcalonnus'

Pafiliwn Criced sydd wedi dirywio
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr y pafiliwn chwaraeon, adeilad rhestredig gradd II, yn "dorcalonnus", yn ôl rhai

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael eu beirniadu am beidio â pharchu rhai o'r adeiladau ar eu campws yn Llanbedr Pont Steffan.

Yn ôl Maer y dref, mae cyflwr rhai o adeiladau'r brifysgol yn Llanbed yn "dorcalonnus".

Gydag astudiaethau israddedig wedi dod i ben yno'r llynedd, mae pryder fod y "campws gwag" yn denu rhagor o sylw at gyflwr yr adeiladau.

Dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant eu bod yn "archwilio'n weithredol cyfleoedd ariannu i gefnogi adnewyddu ac ailddatblygu rhannau allweddol o'r ystâd".

Mae'r brifysgol wedi bodoli yn nhref Llanbed ers 1822, gan ei wneud y sefydliad academaidd hynaf yng Nghymru.

Mae'r campws wedi cael ei ddefnyddio ers dros 200 mlynedd, ond mae rhai'n teimlo nad yw'r adeiladau yn cael eu gwarchod yn ddigonol.

"Mae sawl adeilad, yn enwedig ochr draw yr afon dulas, yn dechrau dangos eu dannedd," meddai perchennog siop a Maer y dref, Gabrielle Davies.

Gabrielle Davies, Perchennog siop a Maer tref Llanbed yn gwenu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Gabrielle Davies yn teimlo bod rhai o adeiladau'r brifysgol yn cael eu parchu

Wrth ddisgrifio'r pafiliwn criced yn benodol, dywedodd ei fod yn "cael ei dorri mewn iddo, plant yn gwybod falle bod neb o gwmpas, chwarae drygioni…

"Mae e'n dorcalonnus i fod yn onest. Mae e'n grade II listed, mae'r fencing rownd e, mae graffiti, mae e wedi cael ei board'o lan, a mae e jest yn pydru…"

Ynghyd â'r pafiliwn ar gae chwarae'r brifysgol, mae'n dweud fod adeiladau arall ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant hefyd yn achosi pryder iddi.

"Mae'r hen student's union, mae'r adeiladau le oedd y myfyrwyr yn aros, mae un man, sef y willows, fi'n gwybod bod hwnnw wedi bod yn mynd [am i lawr] ers sawl blwyddyn, ond achos bod dim byd yn cael ei wneud," meddai.

"Pan mae adeilad yn wag, mae e'n gwaethygu yn gloi ontife?"

"Dy'n nhw ddim yn edrych yn dda i'r dref a dwi'n meddwl bod gyda nhw [y brifysgol] duty of care i Lanbed."

Mae Cymdeithas Llanbedr Pont Steffan, sef cymdeithas o gyn-fyfyrwyr, hefyd yn dweud iddyn nhw godi pryderon am gyflwr rhai o'r adeiladau gyda'r Brifysgol yn ddiweddar.

Yn ôl Jane Nicholas o'r gymdeithas, mae'n "warthus" bod y Brifysgol wedi gadael i rai o'r adeiladau fynd cynddrwg, "yn enwedig y pafiliwn".

"Mae e'n ddyletswydd arnyn nhw oherwydd bod e'n adeilad hanesyddol," meddai.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 3, Pafiliwn Criced/Rygbi yng nghae chwarae y brifysgol, "Mae rhywun yn llusgo traed," meddai Maer y dref, Gabrielle Davies

Llynedd, cafodd darpariaeth Dyniaethau ei adleoli o Lanbed i gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

Daeth hyn â 200 mlynedd o addysgu israddedig i ben ar y safle yn nhref Llanbed.

Yn ôl y Maer, nid yw'r adleoli wedi gwneud ffafr â rhai o adeiladau'r campws.

"Falle bod y sylw yn cael ei dynnu yn fwy ato fe o achos bod y lle yn wag, ond mae e wedi gwneud gwahaniaeth yn y flwyddyn ddiwethaf," meddai. "Mae e'n edrych bach yn derelict."

Aeth ymlaen i ddweud y dylai'r Brifysgol fod wedi edrych ar ôl yr adeiladau yn rheolaidd dros amser.

"Mae e jyst yn teimlo bod nhw ddim yn cael eu parchu," meddai.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau bod adeilad y pafiliwn yn cael ei fonitro ar hyn o bryd "fel rhan o fater gorfodi cynllunio parhaus".

Yn ôl Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae'r Brifysgol "yn archwilio'n weithredol cyfleoedd ariannu i gefnogi adnewyddu ac ailddatblygu rhannau allweddol o'r ystâd, gan gynnwys yr adeiladau hanesyddol sy'n rhan annatod o ddyfodol hirdymor y campws".

"Er bod cryn dipyn o waith paratoi wedi'i wneud, mae'n bwysig bod cynlluniau'n gadarn ac yn gynaliadwy yn ariannol cyn i gyhoeddiadau pellach gael eu gwneud."

Arwydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 200 mlynedd o addysgu israddedig i ben ar gampws Llanbed yn 2025

Wedi'r cyhoeddiad am yr adleoli'r llynedd, fe gyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gynlluniau newydd ar gyfer dyfodol y campws, sef i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 yno.

Ar y pryd, fe ddywedon nhw mai eu bwriad oedd "darparu amrywiaeth o gyrsiau a rhaglenni byddai'n seiliedig ar sgiliau" a hynny "dros y tair blynedd nesaf" - cyrsiau megis amaethyddiaeth, garddwriaeth, gastronomeg ac adeiladu.

'Mae rhywun yn llusgo traed'

Dros flwyddyn ers y cyhoeddiad, mae'r Maer a Chymdeithas Llanbedr Pont Steffan yn cwestiynu pam nad oes datblygiad wedi bod.

"Mae rhywun yn llusgo traed," meddai Gabrielle Davies. "Dyna shwt mae e i'w weld i ni. Fi'n gwybod mae pethau yn mynd ymlaen tu ôl i'r scenes ond faint mor hir mae pethau yn cymryd?"

Ategodd Jane Nicholas drwy ddweud: "'Dan ni'n poeni bod pethau ddim wedi symud ymlaen a 'dan ni'n ofni bod rhywbeth arall falle ar y gweill 'dyn ni ddim yn gwybod am achos mae tipyn o dawelwch wedi bod o ran y brifysgol a 'dan ni wedi bod yn pwyso am atebion a ddim wedi cael llawer o gyfathrebu," meddai.

Adeilad Dewi Sant ar gampws Prifysgol yn Llanbed
Disgrifiad o’r llun,

Y dyhead yn ôl y Cyngor Sir yw cyflwyno'r cyntaf o'r cyrsiau ym mis Medi 2027

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol: "Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau dyfodol bywiog a chynaliadwy ar gyfer campws Llanbedr Pont Steffan sy'n darparu manteision addysgol, economaidd a chymunedol i'r dref a'r rhanbarth ehangach."

Ychwanegodd eu bod yn "parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion a phartneriaid rhanbarthol i ddeall y cwricwlwm galwedigaethol sy'n cael ei ddarparu yng Ngheredigion ar hyn o bryd".

Wrth symyd ymlaen maen nhw'n addo "parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid" ac "yn darparu diweddariad pellach wrth i'r cynigion ddatblygu a phan fo'n briodol i wneud hynny".

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion: "Mae cyrsiau prentisiaeth amaethyddol eisoes wedi cychwyn ar Fferm Llettytwppa, ond ni fydd y ddarpariaeth hyfforddiant galwedigaethol ôl-16 ar gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cychwyn mis Medi hwn.

"Fodd bynnag, mae dyhead i gyflwyno'r cyntaf o'r cyrsiau hyn ym mis Medi 2027.

"Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ystod y flwyddyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.