Disgwyl i Gyngor Gwynedd oedi penderfyniad ar gyflwyno ardoll ymwelwyr

PorthmadogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dadansoddiad cychwynnol o'r data yn awgrymu bod 68.5% o ymatebion yng Ngwynedd yn gwrthwynebu'r ardoll, gyda 22.7% yn gefnogol o'r syniad

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd oedi gwneud penderfyniad ar gyflwyno ardoll ymwelwyr yn dilyn "ymateb sylweddol" i'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae dadansoddiad cychwynnol o'r data yn awgrymu bod gwrthwynebiad cryf i'r mesur ymhlith busnesau ac ymwelwyr, tra bod trigolion lleol wedi eu hollti ar y mater.

Ar ôl derbyn bron i 7,000 o ymatebion, mae'r awdurdod lleol bellach yn dweud eu bod angen mwy o amser i asesu'r manylion yn llawn.

Mae disgwyl i'r cyngor drafod yr ardoll ymwelwyr mewn cyfarfod llawn ddydd Iau.

Ers i reolau newydd ddod i rym yng Nghymru, mae gan gynghorau'r dewis i gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.

Roedd cynghorau sir Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gyd wedi cytuno i ddechrau proses ymgynghori.

Os yn cael ei gymeradwyo, gallai ymwelwyr sydd yn aros dros nos yn yr awdurdodau dan sylw dalu hyd at £1.30 bob noson, sydd ddim yn cynnwys treth ar werth.

Mae Cyngor Caerdydd eisoes wedi cadarnhau eu bod am gyflwyno ardoll ymwelwyr yn y ddinas, gyda'r ffi newydd yn dod i rym yno y flwyddyn nesaf.

CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod wedi derbyn mwy o ymatebion i'r ymgynghoriad na'r disgwyl

Daeth y broses ymgynghori yng Ngwynedd i ben ar 26 Gorffennaf a'r disgwyl oedd y byddai'r cyngor yn cyflwyno adroddiad i Awdurdod Cyllid Cymru ddiwedd mis Medi yn nodi eu penderfyniad.

Ond o ganlyniad i nifer uchel yr ymatebion, a'r ystod o faterion sydd wedi codi, mae adroddiad y cyngor yn dweud "nad ydyn nhw ar hyn o bryd mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniad".

"Rydyn ni wedi derbyn cyngor cyfreithiol clir yn awgrymu na allwn ni fwrw ymlaen gyda phenderfyniad ar yr ardoll ym mis Medi 2026... gan nad yw hi wedi bod yn bosib dadansoddi, prosesu ac ystyried yr holl ymatebion," noda'r adroddiad.

Mae'r ddogfen hefyd yn dweud bod yr ymateb i'r ymgynghoriad wedi bod yn "sylweddol" ac yn "fwy na'r disgwyl".

Roedd yr 6,856 o ymatebion i'r ymgynghoriad yng Ngwynedd yn cymharu â 2,000 yn Ynys Môn a 1,300 yng Nghonwy.

Mae dadansoddiad cychwynnol o'r data yn awgrymu bod 68.5% o ymatebion yng Ngwynedd yn gwrthwynebu'r ardoll, gyda 22.7% yn gefnogol o'r syniad.

Beth yw'r ardoll ymwelwyr?

Os yn cael ei gymeradwyo, bydd y rhai sy'n ymweld ag ardaloedd sydd wedi dewis gweithredu'r ardoll ac sy'n aros dros nos yn talu'r canlynol:

Maes gwersylla pebyll a hosteli - 75c + TAW (y person, y noson)

Pob math arall o lety gwyliau (carafán, cartref modur, hunan-ddarpar, gwely a brecwast, gwesty) - £1.30 + TAW (y person, y noson)

Bydd eithriadau mewn lle, gan gynnwys i bobl o dan 18 oed sydd yn gwersylla mewn pabell neu yn aros mewn hostel.

Petai'n dod i rym, bwriad sawl cyngor ydy ailfuddsoddi'r arian sydd yn cael ei godi gan yr ardoll newydd yng ngwasanaethau y sir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig