
Kaia Schmid, Zoe Backstedt a Linda Riedmann yn dangos eu medalau ar ddiwedd y seremoni
Mae'r Gymraes Zoe Backstedt wedi ennill ras ffordd y merched iau ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd yng Ngwlad Belg.
Cafodd y seiclwr 17 oed o Bont-y-clun y gorau ar yr Americanes, Kaia Schmid ar ddiwedd y cwrs 75 cilomedr yn Leuven, i gipio'r fedal aur.
Roedd hi eisoes wedi ennill medal arian yn y bencampwriaeth ddechrau'r wythnos yn y ras yn erbyn y cloc.
Enillodd ei chwaer hŷn - Elynor, sy'n 19 - fedal efydd yn yr un ras yn 2018 a 2019.
Mae'r llwyddiant yng Ngwlad Belg yn adeiladu ar y fedal aur yr enillodd Zoe Backstedt yng Nghwpan y Byd Ieuenctid Cyclocross yn gynharach eleni.
Mae ei thad, Magnus Backstedt, wedi ennill cymalau yn y gorffennol yn y Tour de France a'r Giro d'Italia ynghyd â ras enwog Paris-Roubaix yn 2004.
Cystadlodd ei mam, Megan, ar ran Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur yn 1998.