Llywodraeth Cymru yn ail-frandio cynllun gofal plant Dechrau'n Deg

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gynghorau ail-frandio'r ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant dwy oed, gan gael gwared â'r enw Dechrau'n Deg.
Yn y canllawiau, dywedodd gweinidogion wrth awdurdodau lleol i ddechrau defnyddio'r term "gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru".
Fodd bynnag, bydd gwasanaethau eraill Dechrau'n Deg – fel ei ddarpariaeth ymwelwyr iechyd – yn cadw'r un enw, yn ôl y canllawiau.
Roedd y cynllun yn bolisi blaenllaw o dan y weinyddiaeth Lafur flaenorol. Mae Llafur wedi dweud y byddai ei ddiddymu yn llinell goch mewn trafodaethau ynglŷn â'r gyllideb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi cyfathrebu "clir a chyson".
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, fod 'na "lawer iawn o ddryswch" gan fynnu am "atebion" gan y llywodraeth ynghylch dyfodol y cynllun.
Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?
- Cyhoeddwyd20 Mai
Lansio cwrs gofal plant Cymraeg i 'lenwi bwlch' am weithwyr dwyieithog
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
Mae'r canllawiau – a gafodd ei adrodd gyntaf gan bodlediad Senedd Sources – yn dilyn dadl wleidyddol ar ôl i weinidog yn Llywodraeth Cymru fethu â diystyru torri neu newid y rhaglen Dechrau'n Deg.
Mae angen cymorth o leiaf un wrthblaid ar Lywodraeth Cymru i basio eu cyllideb fis Mawrth nesaf, ac mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda nifer o bleidiau.
Lansiwyd rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru yn 2006/07.
Mae'n weithredol ym mhob awdurdod lleol ers 2007/08, a'i nod yw gwella canlyniadau ar gyfer plant yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae'n cynnwys 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed, ac mae'n cael ei ehangu ledled Cymru fel rhan o nod polisi llywodraeth Plaid Cymru i ddarparu 20 awr o ofal plant cyffredinol am ddim i blant rhwng naw mis a phedair oed.
Ers etholiad mis Mai, mae'r llywodraeth newydd wedi bod dan bwysau i egluro sut y mae'n bwriadu ariannu ei phrif bolisi gofal plant.
Amcangyfrif diweddaraf Llywodraeth Cymru yw y bydd angen rhwng £250m a £500m o gyllid ychwanegol y flwyddyn, yn dibynnu ar faint o rieni sy'n manteisio ar y cynllun.

Mae Plaid Cymru yn addo ehangu gofal plant i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, i blant o naw mis oed i bedair oed
Mae'r canllawiau'n nodi bod y llywodraeth yn datblygu brand newydd ar gyfer yr holl ddarpariaeth gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cynnig profiad sy'n "hawdd ei adnabod".
"Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer y newid hwn a sicrhau bod rhieni a gofalwyr ledled Cymru yn cael gwybodaeth glir a chyson, mae angen i chi ddechrau defnyddio'r term 'gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru' yn hytrach na 'gofal plant Dechrau'n Deg' wrth gyfeirio'n benodol at ehangu'r ddarpariaeth o 12.5 awr o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed," noda'r canllawiau.
"Nid yw'r canllawiau hyn yn cynrychioli newid i raglen graidd Dechrau'n Deg.
"Er bod ehangu darpariaeth gofal plant a ariennir i blant dwy oed yn cael ei gyflawni drwy Dechrau'n Deg, mae ein hymchwil yn awgrymu bod rhieni yn fwy tebygol o ddeall a chwilio am wybodaeth gan ddefnyddio'r term 'gofal plant wedi'i ariannu' neu 'gofal plant sy'n cael ei ariannu gan y llywodraeth' yn hytrach na therminoleg sy'n benodol i'r rhaglen."
'Llawer iawn o ddryswch'
Mae Llafur Cymru wedi galw am eglurder y bydd elfennau Dechrau'n Deg sydd ddim yn ymwneud â gofal plant yn parhau, ac mae ganddyn nhw gwestiynau ynghylch sut y caiff cynnig gofal plant Plaid Cymru ei ariannu.
Dywedodd Mr Skates: "Mae llawer iawn o ddryswch ac maen nhw wedi cyfrannu ato."
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru nad oedd yn poeni am enw'r cynllun, ac y "gallen nhw ei alw'n bethau eraill os y dymunant nhw".
"Yr hyn rydych chi'n ei gynnig i bobl mewn gwirionedd sy'n cyfrif. Dyna'r hyn rydym angen atebion arno gan lywodraeth Plaid."
"Maen nhw wedi bod yn glir iawn bod rhaid gwneud toriadau er mwyn iddyn nhw gyflawni eu haddewidion maniffesto, a hyd yn hyn yr unig beth sydd wedi'i grybwyll o ran toriadau yw Dechrau'n Deg," ychwanegodd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ein cynnig blaenllaw newydd ar gyfer gofal plant yw'r un fwyaf hael unrhyw le yn y DU, a bydd yn adeiladu ar y model presennol sy'n cael ei ddarparu drwy Dechrau'n Deg, ac yn mynd ymhellach nag ef.
"Mae ein cynnig estynedig yn golygu y bydd gofal plant yn fwy hygyrch ac yn fwy fforddiadwy i bob teulu.
"Rydym yn gwybod pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i deuluoedd, i gydraddoldeb rhyw, i ganlyniadau plant ac i economi Cymru."
Ychwanegodd fod y canllawiau i gynghorau yn argymell defnyddio'r term "gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru", ac nad yw hynny'n cynrychioli newid i raglen graidd Dechrau'n Deg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.