Cyn-athro fu'n rhan o gyfres ddogfen yn cyfaddef ymosod yn rhywiol ar ferch

Gareth RitterFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Ritter wedi ymddangos fel athro ar gyfres Educating Cardiff ar Channel 4, ac roedd hefyd yn aelod blaenllaw o fandiau pres

  • Cyhoeddwyd

Mae athro fu'n rhan o gyfres ddogfen Educating Cardiff ar Channel 4 wedi cyfaddef ymosod yn rhywiol ar ferch 17 oed.

Roedd Gareth Ritter, 44, o Fryngwyn yn Sir Fynwy ynghanol rhoi tystiolaeth yn yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Merthyr, pan ofynnodd ei fargyfreithiwr am roi'r cyhuddiad iddo eto.

Fe safodd Ritter, oedd hefyd yn aelod blaenllaw o nifer o fandiau pres, ar ei draed yn y llys gan bledio'n euog i'r cyhuddiad.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Tachwedd.

Llys y Goron Merthyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Ritter ynghanol rhoi tystiolaeth yn yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Merthyr pan newidiodd ei ble

Yn ystod yr achos, roedd Ritter wedi gwadu cyffwrdd y ferch yn rhywiol heb ei chaniatâd pan oedd yn ei 30au.

Roedd y rheithgor wedi clywed bod Ritter wedi cynnig gyrru'r ferch 17 oed gartref ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd, ond ei fod wedi stopio mewn fflat oedd yn eiddo iddo ym Mae Caerdydd, a'i gwahodd i mewn.

Dywedodd y ferch iddo gyffwrdd â'i phen-ôl ac yn ddiweddarach ei chusanu heb ei chaniatâd.

Clywodd y llys fod Ritter wedyn wedi gyrru'r ferch adref, gan ofyn dro ar ôl tro a oedd hi'n mynd i ddweud wrth unrhyw un am yr hyn oedd wedi digwydd.

Roedd y ferch wedi penderfynu rhoi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl i ffôn Ritter gael ei archwilio gan dditectifs am fater arall "oedd ddim yn gysylltiedig, ac a ddaeth i ben heb gyhuddiadau".

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i ddelweddau preifat o ferch ifanc oedd o dan 18 oed.

Pan wnaeth swyddogion ddod o hyd i'r ferch yn y delweddau, yr un ddynes oedd hi a'r un wnaeth ddweud i Ritter ymosod yn rhywiol arni.

Clywodd y llys bod y delweddau wedi cael eu cymryd gyda'i chaniatâd, yn ystod sgwrs fideo breifat rhyngddi hi a dyn arall.

Cafodd y delweddau eu storio wedyn ar ddyfais oedd yn eiddo i'r dyn - ond fe gafodd rhai oedd yn byw gyda'r dyn fynediad at y delweddau ac fe'u rhannwyd. Cafon nhw eu darganfod yn ddiweddarach ar ffôn Ritter.

Dywedodd y ferch iddi benderfynu sôn wrth yr heddlu am y digwyddiad ar ôl deall bod delweddau ohoni wedi cael eu darganfod ar ffôn Ritter.

Clywodd y llys bod Ritter, pan gafodd ei holi gan yr heddlu ym mis Rhagfyr 2022 wedi gwadu gwybod am y fflat ym Mae Caerdydd, a gwadu mynd â'r ferch yno.

Roedd hefyd wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd wedi rhoi lifft adref i'r ferch.

Flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei holi gan yr heddlu eto.

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi rhoi darlun gonest yn ei gyfweliad cyntaf, fe ddywedodd 'na'.

Ar ôl pledio'n euog ddydd Iau, cafodd Ritter ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 4 Tachwedd.

Cafodd rybudd ei fod yn debygol o wynebu cyfnod o garchar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig