'Colli'n ffrind gorau ar y mynydd - ond ry'n ni'n dal i ddringo'

Mae tri dyn ifanc mewn siacedi gaeaf coch, llwyd a glas yn sefyll ar gopa mynydd wedi'i orchuddio â chymylau
Disgrifiad o’r llun,

Jack Carne, ar y chwith yn y siaced goch, oedd y person a gyflwynodd ei ffrindiau Matty a Brandan i fyd dringo mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ffrind o ogledd Lloegr yn dweud, er y siom, nad yw colli eu ffrind gorau ar fynydd yn Eryri yn eu hatal rhag dringo eto.

Bu farw Jack Carne, oedd yn 23 oed, ar ôl cwympo ar fynydd Glyder Fawr ym mis Chwefror 2023 wrth ddringo gyda'i ffrindiau gorau Matty Belcher a Brandan Smith.

Dywedodd y ddau fod taith yn ôl i'r mynydd gyda thad Jack wedi bod o gymorth iddyn nhw ddechrau anturio gyda'i gilydd eto.

Ers hynny maen nhw wedi dringo mynyddoedd ar draws y byd er cof am Jack ac wedi gwasgaru ei lwch ar gopa Tryfan.

Mae dyn gyda het glas tywyll a siaced lwyd yn gwenu ar y camera. I'w chwith mae dyn mewn siaced goch, gyda sach gefn. Y tu ôl iddyn nhw mae mynydd llwyd creigiog a llyn glas yn y dyffryn islaw.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brandan a Matty na fyddan nhw byth yn rhoi'r gorau i ddringo er cof am eu ffrind Jack Carne

Roedd y tri ffrind wedi teithio o sir De Efrog i ogledd Cymru am benwythnos o wersylla a dringo pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd Brandan a Matty fod y daith wedi dechrau "fel pob antur arall" yr oedden nhw wedi'i gwneud gyda Jack.

Ond tua 10 metr o gopa Glyder Fawr daeth carreg yr oedd Jack wedi gafael ynddi'n rhydd.

Cyn i'w ffrindiau allu ymateb roedd Jack wedi disgyn.

Dau ddyn mewn siacedi du a glas a hetiau yn sefyll yn gwenu gyda'u breichiau o amgylch ei gilydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brandan, ar y dde, fod Jack wedi ei annog i fynd allan i archwilio'r mynyddoedd

Galwodd y ddau am gymorth achub mynydd, ond doedd dim modd achub Jack.

Bu'n rhaid i'r ddau adael y mynydd heb eu ffrind y noson honno, cyn i wirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ddod i gludo ei gorff drannoeth.

Dywedodd Chris Lloyd o'r tîm achub fod y ddamwain yn "drasiedi lwyr".

"Roedd y bois wedi paratoi'n dda ac wedi trefnu'n dda," meddai.

"Mae'n effeithio arnon ni hefyd - rydyn ni gyd yn fynyddwyr, ac mae'n dangos bod un camgymeriad yn gallu arwain at drychineb."

Mae grŵp o ddynion mewn siacedi coch, glas, oren a du yn sefyll gyda'u breichiau o amgylch ei gilydd o dan fynydd llwyd creigiog
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Brandan, Matty a thad Jack, Rich, ar y dde, yn ystod y daith pan ddaethon nhw o hyd i gap Jack

Dywedodd Matty a Brandan na fuon nhw erioed yn ystyried rhoi'r gorau i ddringo ar ôl colli eu ffrind.

Wythnos ar ôl y ddamwain fe aethon nhw'n ôl i Glyder Fawr gyda thad Jack, Rich, a gwirfoddolwyr y tîm achub mynydd.

Dywedodd Matty fod Rich eisiau gweld yr union fan lle digwyddodd y ddamwain ac wrth ddychwelyd i'r safle fe ddaethon nhw o hyd i gap Jack yn agos i'r man lle wnaeth e ddisgyn.

Dywedodd y ddau fod y daith honno wedi dechrau pennod newydd yn hytrach na dod â'r stori i ben.

Mae tri dyn mewn cotiau yn sefyll ar ben crib greigiog wedi'i orchuddio ag eira gyda chopa mynydd y tu ôl iddyn nhw
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brandan a Matty fod treulio amser gyda thad Jack, Rich, fel "dod â rhan ohono fe" gyda nhw

Yn ôl Brandan, dechreuodd tad Jack fynd ar anturiaethau gyda nhw yn rheolaidd wedi hynny.

"Mae mynd allan gyda'i dad jyst fel mynd allan gyda Jack.

"Rydyn ni wastad yn chwerthin ac yn mwynhau bod gyda'n gilydd, mae'n wych."

"Rydyn ni wastad yn cynllunio ac yn dewis ein teithiau nesaf," ychwanegodd Matty.

Mae pedwar dyn yn gwenu ar y camera wrth iddyn nhw gysgodi rhag y tywydd o dan graig fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Jack, Rich, ar y chwith, a'i bartner Andy, ar y dde, wedi bod yn rhan o'r anturiaethau hefyd

Dywedodd Matty na fyddai Jack "erioed wedi dymuno" iddyn nhw roi'r gorau i ddringo mynyddoedd.

"Nawr rydyn ni'n dringo gyda'i dad hefyd, felly mae fel petai rhan ohono fe dal gyda ni," meddai.

Pedwar dyn mewn dillad dringo, yn dal pigau iâ a ffyn cerdded, wedi'u hamgylchynu gan eira a chymylau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp wedi bod yn dringo copaon ar draws y byd er cof am eu ffrind

Ers marwolaeth Jack mae Brandan a Matty wedi bod yn teithio o gwmpas y byd, gan gynnwys yr Alpau yn y Swistir a Mynydd Toubkal ym Morocco, gan fynd â Rich a'i bartner Andy gyda nhw ar gyfer llawer o'u hanturiaethau.

"Yn anffodus chawson ni mo'r cyfle i wneud y pethau yma gyda Jack, felly rydyn ni'n dal ati ac yn ticio nhw oddi ar y rhestr wrth fynd."

Mae blodau gwyn, pinc a glas yn gorwedd wrth ymyl llyn clir ymhlith mynyddoedd
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliodd teulu a ffrindiau Jack wasanaeth coffa iddo yn Nyffryn Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Wrth feddwl beth fyddai Jack yn ei wneud o'r ffaith fod ei ffrindiau gorau bellach yn treulio penwythnosau yn cerdded mynyddoedd gyda'i dad, dywedodd Brandan y byddai'n "debyg o feddwl ei fod e braidd yn rhyfedd".

"Ond mae mynd allan gyda'i dad jyst fel mynd allan gyda Jack," meddai.

"Mae fel petasen ni'n ffrindiau gorau iddo fe."

Pedwar dyn yn sefyll ar ben creigiau llwyd mawr yn dal baner sy'n nodi 'RIP Jack Carne', a 'forever adventuring'
Disgrifiad o’r llun,

Dringodd y grŵp gopa Tryfan cyn gwasgaru llwch Jack yno

Ond dywedodd Brandan mai'r daith bwysicaf oedd dringo Tryfan, sef mynydd yr oedd Jack wastad eisiau ei ddringo.

"Yn anffodus digwyddodd y ddamwain cyn i ni allu gwneud hynny," ychwanegodd Matty.

"Felly ar ôl yr angladd aethon ni i fyny Tryfan gyda thad Jack - ac fe wasgaron ni ei lwch ar y brig yno.

"Roedd yn deimlad arbennig ein bod ni o'r diwedd wedi gwneud e gyda'n gilydd," meddai Matty.

Mae tri dyn mewn siacedi coch ac oren yn sefyll yn gwenu ar ei gilydd o dan ochr mynydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brandan a Matty wedi ffurfio cyfeillgarwch newydd gyda Chris Lloyd ac aelodau'r tîm achub a'u helpodd y diwrnod hwnnw

Yn ogystal â dod o hyd i bartneriaid dringo newydd yn nhad Jack a'i bartner Andy, mae'r ddau hefyd wedi ffurfio cyfeillgarwch agos gyda'r criw achub mynydd a'u helpodd y diwrnod hwnnw.

"Ers y diwrnod hwnnw rydyn ni wastad yn galw heibio," meddai Brandan.

Dywedodd y ddau eu bod yn aml yn gofyn cwestiynau i'r tîm am ddringo, offer neu hyd yn oed y llwybrau beicio gorau yn yr ardal.

"Rydyn ni'n mynd am goffi neu gacen gyda nhw hefyd," meddai Matty.

"Rydyn ni hyd yn oed wedi bod allan am bryd o fwyd gyda rhai ohonyn nhw.

"Maen nhw wastad mor barod i helpu, a does dim byd yn ormod o drafferth.

"Mae'n teimlo fel ein bod ni wedi ennill ffrindiau newydd."