Plaid Cymru i gyhoeddi cynllun 'beiddgar' wrth lansio maniffesto

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth yn addo "tegwch" ac "uchelgais" petai'n brif weinidog

GanTeleri Glyn Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Byddai Plaid Cymru'n cynnig "arweinyddiaeth newydd" sy'n pwysleisio "tegwch" ac "uchelgais", meddai Rhun ap Iorwerth cyn lansio maniffesto ei blaid.

Yn Wrecsam ddydd Iau mae disgwyl i'r blaid amlinellu eu gweledigaeth "beiddgar" ar gyfer Cymru "decach, mwy uchelgeisiol".

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd y blaid: "Mae Cymru yn genedl â photensial enfawr ond yr hyn sydd ar goll yw llywodraeth sydd â'r uchelgais a'r cynllun i'w wireddu."

Bydd Cymru'n pleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai ac ar hyn o bryd mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru'n fwy tebygol nag unrhyw blaid i fod mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth - boed hynny fel gweinyddiaeth leiafrifol neu mewn clymblaid â phlaid arall.

Disgrifiad,

Yn ôl y blaid, y blaenoriaethau "fydd yn diffinio llywodraeth Plaid Cymru" fydd:

  • Torri amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd;

  • Cefnogi teuluoedd gyda chostau gofal plant;

  • Codi safonau mewn addysg;

  • Datgloi potensial llawn economi Cymru;

  • Sicrhau bargen decach gan San Steffan.

Mae'r blaid hefyd yn addo amlinellu ei chynlluniau fwy hir dymor ar gyfer economi Cymru, fel cynyddu canran y busnesau Cymreig sy'n cael eu defnyddio mewn prosesau caffael cyhoeddus.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod cynllun Plaid Cymru yn "ymwneud ag adeiladu gwlad lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, lle mae teuluoedd yn cael eu cefnogi, a lle mae gan bawb y cyfle i adeiladu bywyd da".

'Llwybr newydd'

Ychwanegodd: "Byddwn yn cymryd camau lle mae ei angen fwyaf – torri amseroedd aros y gwasanaeth iechyd, cefnogi rhieni gyda chost gofal plant, codi safonau yn ein hysgolion, a thyfu economi Gymreig gryfach sy'n gweithio i'n cymunedau."

Ond mae'n "fwy 'na mynd i'r afael â'r hyn sydd ddim yn gweithio", meddai, gan addo "Cymru hyderus, yn sefyll ar ei thraed ei hun, ac yn barod i lwyddo".

"Mae'r etholiad hwn yn drobwynt. Gallwn barhau â mwy o'r un peth, neu gallwn ddewis llwybr newydd i'n cenedl."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mae arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru yn brwydro yn erbyn Reform i ddod yn gyntaf yn etholiad y Senedd.

Dydy Plaid Cymru erioed wedi ennill etholiad y Senedd, ond mae hi wedi cefnogi llywodraethau Llafur yn y gorffennol.

Mae Plaid eisoes wedi dweud mai'r gobaith yw ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth leiafrifol - sef llywodraethu ar ben eu hunain ond gyda chefnogaeth pleidiau eraill i basio deddfau yn y Senedd.

Nid oes unrhyw blaid wedi ennill fwy na hanner y seddi yn y Senedd o'r blaen, ond mae'r system newydd fwy cyfrannol yn golygu ei bod hi'n anoddach fyth ennill mwyafrif.

Bydd pleidleiswyr Cymru'n ethol 96 o Aelodau'r Senedd eleni, sy'n gynnydd o'r 60 yn flaenorol, drwy'r system newydd o gynrychiolaeth gyfrannol.

Mae pob etholaeth yn newid hefyd, gyda 16 o etholaethau, a phob un yn ethol chwe aelod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.