Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 12:33 GMT+1 9 Ebrill

    Mae'n llif byw ni'n dod i ben am heddiw, ond fe gewch chi ragor o ddadansoddiad o addewidion Plaid Cymru ar brif dudalen Cymru Fyw gydol y dydd.

    Cofiwch hefyd fod y BBC eisiau clywed pa straeon rydych chi am i ni fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.

    Mae Dy Lais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.

    Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.

    Ewch yma i gyflwyno syniad.

    dy lais
  2. 'Gyda’n gilydd, ac am y tro cyntaf, gallwn roi’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar ein cenedl'wedi ei gyhoeddi 12:31 GMT+1 9 Ebrill

    Wrth siarad ar ôl lansio'r maniffesto, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

    “Yr etholiad ar 7 Mai fydd yr un pwysicaf ers dechrau datganoli.

    “Mae'n etholiad sy'n cynnig gobaith gwirioneddol i ddyfodol Cymru. Cynrychiolir y gobaith hwnnw gan Blaid Cymru - gweithredu pendant o'r diwrnod cyntaf i fynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol sy'n wynebu ein gwlad, gweledigaeth hirdymor ar gyfer adnewyddu ac addewid i sefyll dros Gymru bob amser.

    “Mae’r cyfle hwnnw i newid yn cyferbynnu a record Llafur o ddirywiad rheoledig, a’u gwrthodiad i sefyll dros fuddiannau ein cenedl yn erbyn difaterwch San Steffan.

    “A dyma’r allwedd i atal bygythiad Reform, nad ydynt yn cynnig unrhyw atebion go iawn i’r heriau yr ydym yn eu hwynebu, yn dewis yn hytrach i rannu ein cymunedau.

    “Rwy’n falch o gyflwyno maniffesto Plaid Cymru hwn, ein cynllun ar gyfer Cymru fodern, hyderus – Cymru lle gall ein holl bobl a’n cymunedau gyfrannu at lwyddiant ein cenedl a’i rannu.

    “Byddwn yn torri amseroedd aros y gwasanaeth iechyd, gan ryddhau amser, lle ac adnoddau i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy ac integredig i Gymru – un sy’n gwneud mwy i gadw pobl yn iach, yn hytrach na thrin salwch yn unig.

    “Byddwn yn cefnogi teuluoedd, ac yn rhoi’r dechrau gorau posibl i bob plentyn trwy gynnig gofal plant newydd trawsnewidiol am ddim i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed.

    “Byddwn yn datgloi ein potensial economaidd gan adeiladu ar ein cryfderau i greu swyddi da â chyflog da a lledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru.

    “A chyda cynnig newydd, feiddgar a phenderfynol ar sgiliau rhifedd a llythrennedd, byddwn yn codi safonau yn ein hysgolion, fel bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i lwyddo.

    “Gyda’n gilydd, ac am y tro cyntaf, gallwn roi’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar ein cenedl.

    “Arweinyddiaeth sy’n cymryd ei harweiniad gan bobl Cymru a neb arall.

    “Arweinyddiaeth sy’n credu pan fyddwn yn dewis gobaith dros raniad a difrifoldeb dros anhrefn, y gall Cymru – ac y bydd Cymru - ffynnu."

    rhun ap iorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Denu athrawon newydd a phrydau ysgol am ddim i rai disgyblion uwchraddwedi ei gyhoeddi 12:30 GMT+1 9 Ebrill

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru eisoes wedi siarad am brydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd maes o law - maen nhw'n dweud y byddai prydau am ddim yn cael eu hymestyn i fyfyrwyr blwyddyn saith i 11 mewn aelwydydd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw derfyn incwm.

    Hefyd ar ysgolion, mae'r blaid yn addo ceisio denu athrawon newydd.

    Ond efallai mai'r her fwyaf yw sicrhau bod digon yn gallu siarad Cymraeg a gallai hynny fod yn rhwystr i wireddu'r uchelgeisiau ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau gofal plant ac addysg.

    Mae adolygiad o'r Cwricwlwm i Gymru a'r addewid o ganllawiau cliriach i athrawon yn ymgais i gydnabod pryderon ynghylch sut mae'r diwygiad mawr hwn yn gweithio.

  4. Sut gafodd yr etholaethau newydd eu llunio?wedi ei gyhoeddi 12:29 GMT+1 9 Ebrill

    Cafodd y map newydd ei lunio gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

    Oherwydd diffyg amser cyn yr etholiad nesaf, cafodd y comisiwn gyfarwyddyd i ddefnyddio'r 32 etholaeth a gafodd eu defnyddio yn yr etholiad cyffredinol i San Steffan y llynedd fel sail i'w gwaith.

    Aeth y comisiwn ati wedyn i baru'r etholaethau hynny er mwyn creu 16 etholaeth newydd.

    Roedd yn rhaid i'r comisiwn gyplu etholaethau oedd yn "cydgyffwrdd", ac fe benderfynodd y comisiwn bod hyn yn golygu bod yn rhaid cael cysylltiad ffordd uniongyrchol rhyngddynt.

    Bydd y comisiwn yn gallu edrych eto ar y map yn dilyn yr etholiad, ac ystyried newidiadau ar gyfer etholiad 2030.

    SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  5. 16 etholaeth y tro hwn - y rhestr yn llawnwedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1 9 Ebrill

    Dyma'r rhestr o'r etholaethau newydd yn llawn:

    • Bangor Conwy Môn
    • Clwyd
    • Fflint Wrecsam
    • Gwynedd Maldwyn
    • Ceredigion Penfro
    • Sir Gaerfyrddin
    • Gŵyr Abertawe
    • Brycheiniog Tawe Nedd
    • Afan Ogwr Rhondda
    • Pontypridd Cynon Merthyr
    • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
    • Sir Fynwy Torfaen
    • Casnewydd Islwyn
    • Caerdydd Penarth
    • Caerdydd Ffynnon Taf
    • Pen-y-bont Bro Morgannwg
    Disgrifiad,

    Etholiad 2026: Beth sy'n newid?

  6. 96 o Aelodau'r Senedd eleniwedi ei gyhoeddi 12:17 GMT+1 9 Ebrill

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

    Dyma'r Senedd ar ei newydd wedd - lle i 96 aelodFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma'r Senedd ar ei newydd wedd - lle i 96 aelod

  7. Pwy sy'n cael pleidleisio yn yr etholiad?wedi ei gyhoeddi 12:14 GMT+1 9 Ebrill

    Er mwyn gallu pleidleisio mae'n rhaid i chi:

    • fod yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr Etholiad (y diwrnod pleidleisio)
    • bod wedi cofrestru i bleidleisio
    • bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu'r Gymanwlad, yn ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys
    • byw yng Nghymru
    • bod â hawl gyfreithiol i bleidleisio
    pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Dim sôn am annibyniaeth yn yr araith ond sylw iddo yn y maniffestowedi ei gyhoeddi 12:09 GMT+1 9 Ebrill

    David Deans
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dyw hyn ddim yn syndod, ond wnaeth Rhun ap Iorwerth ddim sôn am annibyniaeth o gwbl yn ei araith.

    Dyw e ddim yn deg dweud fod ei blaid yn gwrthod siarad amdano - mi fyddan nhw'n ateb os ydyn nhw'n cael eu cwestiynu ar y mater - ond yn amlwg dydyn nhw ddim am wneud y pwnc yn rhan fawr o'u hymgyrch.

    Mae Plaid yn ceisio apelio at bobl y tu hwnt i hynny, pleidleiswyr sy'n meddwl efallai bod hi'n well bod Cymru'n parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

    Ond mae'r maniffesto gafodd ei lansio heddiw yn trafod annibyniaeth.

    Mae'r blaid yn dweud na fyddai'n ceisio cynnal refferendwm yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid, ond y byddai'n sefydlu comisiwn cenedlaethol i Gymru a fyddai, ymhlith pethau eraill, yn gosod y sylfeini ar gyfer Papur Gwyn yn y dyfodol ar annibyniaeth i Gymru.

  9. Un bleidlais fydd gan etholwyr y tro hwnwedi ei gyhoeddi 12:01 GMT+1 9 Ebrill

    Yn 2026 dim ond un bleidlais fydd gan etholwyr, a fydd dim cyfle i gefnogi ymgeisydd penodol (heblaw bod yr ymgeisydd yn sefyll yn annibynnol).

    Yn hytrach, bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis plaid.

    Ym mhob un o'r 16 o etholaethau bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

    Bydd y nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu hethol o restr pob plaid yn dibynnu ar y gyfran o'r bleidlais mae'r blaid wedi ei hennill.

    Mater i'r pleidiau eu hunain fydd penderfynu sut maen nhw'n llunio'u rhestrau o ymgeiswyr.

    Pan ddaw'r etholiad fydd etholwyr yn methu dewis a dethol yr unigolion yr hoffen nhw eu hethol.

    gorsaf
  10. Adolygiad o addysg uwch a'r ffordd mae'n cael ei hariannu yn flaenoriaethwedi ei gyhoeddi 11:58 GMT+1 9 Ebrill

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    O ran prifysgolion, mae Plaid Cymru'n dweud y byddai adolygiad o addysg uwch a sut mae'n cael ei hariannu yn flaenoriaeth - mae'n sector sy'n wynebu pwysau ariannu enfawr ar hyn o bryd.

    Maen nhw'n dweud y byddai'n allweddol sicrhau bod mwy o'r arian sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar addysg uwch yn aros yma yng Nghymru.

    Ond does dim sôn penodol am gynllun a drafodwyd yn flaenorol i dorri'r grant costau byw o £1000 ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio y tu allan i Gymru.

    Mae'r safbwynt yma'n gwrthwynebu amcanion rhaglen Seren sy'n cael ei gweld gan rai fel rhaglen sy'n cefnogi'r bobl ifanc mwyaf galluog i fynd i brifysgolion blaenllaw ar draws y ffin yn Lloegr - gan fynd â chyllid gwerthfawr gyda nhw.

    Ychwanegon nhw y byddai'r rhaglen yn ailffocysu ar geisiadau i brifysgolion Cymru ac ar hybu nifer y myfyrwyr o ardaloedd mwy difreintiedig. Ond mae rhai wedi cyhuddo'r cynllun o beidio ag annog pobl i ddilyn eu dyheadau.

  11. Cadw teithiau bws £1 i bobl ifanc a'r pas i bobl dros 60wedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1 9 Ebrill

    Cyn cloi dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd deddfau Plaid Cymru yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i'r gartref diogel a gweddus.

    Ychwanegodd y bydd y teithiau bws £1 yn parhau i bobl ifanc a'r pas bws i bobl dros 60.

  12. Beth yw'r dyddiadau pwysig?wedi ei gyhoeddi 11:49 GMT+1 9 Ebrill

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfri'r pleidleisiau

  13. Toriadau i wariant presennol?wedi ei gyhoeddi 11:46 GMT+1 9 Ebrill

    Felicity Evans
    Gohebydd Ariannol BBC Cymru

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod yr economegydd uchel ei barch, Gerry Holtham, wedi edrych ar ymrwymiadau Plaid a’u canfod yn “fanwl, yn ofalus ac yn gyraeddadwy”.

    Ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd unrhyw doriadau i wariant presennol.

    Gyda thirwedd ariannol heriol ar y gorwel, mae’n bosibl y bydd ymrwymiadau gwariant mawr newydd yn gofyn am doriadau i wasanaethau presennol.

    Mae’r maniffesto'n awgrymu hyn drwy ddweud eu bod am ganolbwyntio ar eu blaenoriaethau allweddol yn lle lledaenu adnoddau'n rhy denau.

    Felly’r cwestiwn yw, beth fydd yn dioddef?

  14. Gitarydd, cyn-ohebydd ... ffeithiau am yr arweinydd, Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 11:40 GMT+1 9 Ebrill

    Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers Mehefin 2023.

    Yn ystod y diwrnodau diwethaf mae Cymru Fyw wedi bod yn dod i adnabod arweinwyr y prif bleidiau yn well.

    Mae Rhun yn gitarydd reit dda, medd Dafydd Iwan a fu'n canu gyda'i dad Edward.

    Roedd e hefyd yn arfer bod yn un o ohebwyr BBC Cymru.

    Mwy amdano yma.

    Rhun ap Iorwerth
  15. Edrych eto ar y rheolau llety twristiaethwedi ei gyhoeddi 11:39 GMT+1 9 Ebrill

    Felicity Evans
    BBC Gohebydd ariannol BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru yn addo “adolygu effeithiolrwydd” y rheolau ar ail gartrefi a llety twristiaeth.

    Un o’r rhai mwyaf dadleuol yw bod rhaid rhentu llety gwyliau hunanarlwyo am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn neu fel arall mae'n cael ei gategoreiddio fel ail gartref ac felly mae'n ofynnol talu treth gyngor arno - mewn rhai achosion ar gyfradd premiwm.

    Roedd y rheol hon yn rhan o gyfres o fesurau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r prinder tai fforddiadwy i bobl leol mewn mannau poblogaidd i dwristiaid.

    Ond mae’n hynod amhoblogaidd gyda gweithredwyr twristiaeth sy’n dweud ei fod yn gyrru llawer ohonynt allan o fusnes.

    Mae Cyngor Gwynedd, un o’r cynghorau yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng tai, hefyd wedi galw am ostwng y trothwy 182.

  16. 'Cenedl heb iaith, cenedl heb galon'wedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1 9 Ebrill

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Un o brif amcanion y blaid fyddai lleihau rhestrau aros, meddai Rhun ap Iorwerth. Mi fydden nhw'n gwneud hynny drwy greu 10 hwb llawfeddygol newydd i gynnig triniaethau yn gynt.

    Mi fyddai hynny yn ei dro yn creu gofod o fewn y gwasanaeth iechyd i'w alluogi i adfer y system a buddsoddi mewn system fwy cynaliadwy.

    Gwella safonau mewn ysgolion yw un o'r blaenoriaethau eraill. Mae'r system bresennol yn "annheg i'r rhai sy'n dysgu a'r rhai sy'n eu dysgu nhw" meddai Rhun ap Iorwerth.

    Mi fydden nhw'n canolbwyntio ar wella llythrennedd a rhifedd sylfaenol a "phroses olrhain cynnydd dryloyw ar gyfer pob myfyriwr".

    Roedd 'na gymeradwyaeth wresog yn yr ystafell wrth i Rhun ap Iorwerth addo peidio gadael i Reform rwygo'r galon allan o Gymru drwy amddiffyn diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg: "Cenedl heb iaith, cenedl heb galon" meddai Rhun ap Iorwerth.

    Rhun a'r dorfFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  17. Ystyried taliad o £10 yr wythnos i blant dan 6 oedwedi ei gyhoeddi 11:28 GMT+1 9 Ebrill

    Felicity Evans
    Gohebydd ariannol BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru eisiau ystyried y posibilrwydd o gael Taliad Plant Cymru o £10 yr wythnos i blant dan 6 oed mewn teuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem barhaus o dlodi plant yng Nghymru.

    Mae hyn yn debyg i'r drefn yn yr Alban, ond mae gan yr Alban fwy o bwerau dros y system fudd-daliadau nag sydd gan Lywodraeth Cymru yma, felly mae angen cwestiynu hyfywedd cynllun o’r fath yng Nghymru.

    Maen nhw hefyd yn cynnig cynllun peilot i archwilio ymarferoldeb y cynllun, ond efallai y bydd angen cefnogaeth gan lywodraeth y DU i'w gyflwyno’n effeithiol a does dim sicrwydd y bydd cefnogaeth o’r fath.

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  18. Addo rhyw fath o reolaeth rhentiwedi ei gyhoeddi 11:28 GMT+1 9 Ebrill

    Gareth Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru'n addo rhyw fath o reolaeth rhenti, heb ddweud hynny'n uniongyrchol.

    Mae’r blaid eisiau ‘gosod rhent teg’ a fyddai’n cyfyngu cynnydd rhent blynyddol i’r isafswm o ran twf cyflogau, y mesur chwyddiant CPI neu lefel gyfatebol sydd ‘wedi’i ddiffinio’n glir’.

    Yn gynharach yn yr wythnos, fe addawodd y Gwyrddion y byddan nhwn'n rhewi rhenti cyn gosod rheolaethau rhenti gan awgrymu y byddai’n llinell goch mewn unrhyw drafodaethau ynghylch cytundeb ar ôl yr etholiad.

    Mae gwrthwynebwyr rheolaethau rhenti'n rhybuddio y gallan nhw arwain at leihau’r cyflenwad o ran eiddo rhent.

  19. Cynnig y gofal plant mwyaf cynhwysfawr yn y DUwedi ei gyhoeddi 11:25 GMT+1 9 Ebrill

    Felicity Evans
    Gohebydd ariannol BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru'n addo’r “cynnig gofal plant mwyaf cynhwysfawr yn y DU” ar gost o £400m ychwanegol y flwyddyn erbyn 2030-31.

    Mae hwn yn ymrwymiad mawr o ran gwariant.

    Mae’r blaid yn mynnu bod y maniffesto wedi’i gostio’n llawn, ond gyda thirwedd ariannol fwy heriol yn wynebu llywodraeth nesaf Cymru o gymharu â'r un bresennol, y cwestiwn bob amser yw beth fydd yn cael ei dorri i dalu am flaenoriaethau newydd?

    Mi fydd hyn hefyd yn her ymarferol wrth sicrhau bod y capasiti'n bodoli o ran cael digon o staff cymwys yn y lleoliadau cywir ar draws Cymru.

  20. 50% o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg erbyn 2050wedi ei gyhoeddi 11:21 GMT+1 9 Ebrill

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Un o’r addewidion sydd yn neidio allan i fi yw’r addewid i sicrhau fod 50% o ddisgyblion yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

    O edrych ar ystadegau diweddar, mae’r nifer o blant Cymru sydd mewn addysg Gymraeg o gwmpas 20%.

    A yw sefydlu carreg filltir sydd chwarter canrif i ffwrdd yn mynd i fod yn ddigon i gynyddu’r nifer o blant mewn addysg Gymraeg?

    Bydd angen mwy o fanylion ar ariannu a sut i gynyddu'r nifer o athrawon gan Rhun ap Iorwerth yn hwyrach.