Ffermwyr i gael mwy o amser i wasgaru slyri a mwy o daliad ymlaen llaw

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr wasgaru slyri a thail ar y tir tan 15 Tachwedd, yn ogystal â chynyddu taliadau ymlaen llaw o 70% i 80%.
Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i ymestyn y cyfnod ar gyfer gwasgaru slyri a thail, gyda'r llywodraeth yn dweud y bydd hynny'n rhoi mwy o amser i ffermwyr leihau lefelau storio'n ddiogel ar ôl haf sych.
Bydd taliadau ymlaen llaw i ffermwyr o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r Cynllun Taliad Sylfaenol hefyd yn cynyddu o 70% i 80% o werth amcangyfrifedig hawliad cymwys pob fferm, er mwyn helpu gyda phwysau llif arian.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y mesurau'n ymateb i'r "amodau eithriadol o anodd" mae ffermwyr wedi'u hwynebu eleni, gan gynnwys sychder, tanau gwyllt a phwysau eraill ar y sector.
Mewn ymateb dywedodd Afonydd Cymru fod 2026 wedi bod yn flwyddyn anodd i ffermwyr ac afonydd gyda Chymru ar hyn o bryd yn dal i fod mewn cyflwr o sychder, a bod "mwy o risg" i afonydd os caiff slyri ei wasgaru yn ystod y gaeaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r haf sych wedi lleihau twf glaswellt yn sylweddol ac amharu ar batrymau torri a phori, gan olygu nad yw llawer o ffermydd wedi gallu gwasgaru slyri fel arfer.
Mae hynny wedi arwain at bryderon bod lefelau storio slyri yn uwch na'r arfer wrth i'r hydref ddechrau.
Bydd y newid i'r cyfnod caeedig ar gyfer gwasgaru slyri a thail yn caniatáu i ffermwyr wasgaru hyd at 15 Tachwedd 2026, a bydd yn berthnasol i bob math o bridd a thir.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y newid yn rhoi mwy o amser i ffermwyr leihau lefelau storio'n gyfrifol a lleihau'r risg y bydd storfeydd slyri yn methu yn ystod y gaeaf.
Mae'r llywodraeth yn dweud, gyda lefelau storio yn uwch eleni, mai rhoi amser ychwanegol i ffermwyr ledaenu'n ddiogel a lleihau'r lefelau hynny yw'r "dewis amgylcheddol mwy cyfrifol", er mwyn lleihau'r risg o lygredd o storfeydd sy'n gorlifo neu'n methu.

"Be' 'dan ni ddim am weld ydy bod yr estyniad un tro hyn yn cael ei ychwanegu at y rheolau," medd Richard Garner-Williams o Afonydd Cymru
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, fe wnaeth Richard Garner-Williams "gydnabod ei fod wedi bod yn haf anodd i ffermwyr".
"Ond mae hefyd wedi bod yn dymor arbennig o anodd i afonydd. 'Dan ni'n dal mewn cyfnod o sychder a hynny wedi para ers misoedd erbyn hyn," meddai.
"Dydy o ddim yn rhyfeddod i weld, dim ond yr wythnos diwethaf, 'nath Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi niferoedd poblogaethau eogiaid yn ein hafonydd ni yng Nghymru ac mae pob afon erbyn hyn mewn perygl o golli poblogaeth o eogiaid.
"Ma'r cynefin dŵr croyw yn hynod fregus felly, er bo' ni'n cydnabod bod 'na drafferthion yn y byd amaethol, mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod 'na drafferthion enbyd yn y cynefin dŵr croyw," ychwanegodd Mr Garner-Williams.
'Pwysig cofio mai dros dro yw hyn'
Wrth gael ei holi am y pryder o storfeydd slyri yn gorlenwi ar ôl tywydd sych ac achosi hyd yn oed mwy o niwed atebodd Mr Garner-Williams: "Dyna holl sylfaen y mater sef bod 'na ormodedd o faetholion yn cyrraedd ein hafonydd ni.
"Os yw'r rheolau'n cael eu dilyn yn ôl pob llythyren y rheolau, yna ddylai hynny ddim digwydd.
"'Dan ni'n cydnabod bod 'na le i wasgaru - mae tail o ers talwm wedi cael ei wasgaru yn do? Erbyn hyn 'dan ni'n gwasgaru slyri.
"Gofal biau hi ac os gadwn ni at y rheolau bydd popeth yn iawn. Be' 'dan ni ddim am weld ydy bod yr estyniad un tro hyn yn cael ei ychwanegu at y rheolau.
"Falle bo' 'na le i drafod yn hwyrach, ond ar hyn o bryd rhyddhad un tro ydy hyn a ma'n bwysig pwysleisio hynny," ychwanegodd Mr Garner-Williams.

Mae'r newid yn berthnasol i'r cyfnod taenu hwn yn unig, a bydd mesurau diogelu ansawdd dŵr yn parhau, gan gynnwys uchafswm o 30 metr ciwbig o slyri yr hectar ar unrhyw un adeg ac o leiaf dair wythnos rhwng gwasgariadau.
Nid yw tail dofednod wedi'i gynnwys yn y newid, gan fod modd ei reoli'n ddiogel drwy ddulliau storio amgen.
Nid yw'r newid yn effeithio ar y cyfnod caeedig ar gyfer gwrtaith nitrogen wedi'i weithgynhyrchu.
Mae'r cyfnod caeedig yn cyfyngu ar ddefnyddio tail sydd â lefelau uchel o nitrogen sydd ar gael yn gyflym, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd dŵr.
O dan y newidiadau ariannol, bydd taliadau ymlaen llaw o dan haen gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn cael eu gwneud o 14 Hydref 2026 ar gyfradd o 80% o werth amcangyfrifedig pob hawliad cymwys.
Bydd taliadau'r balans yn cael eu gwneud o 11 Rhagfyr 2026, yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau dilysu angenrheidiol, gan gynnwys gwiriadau busnes, tir ac arolygiadau.
'Wedi gwrando ac yn gweithredu'
Dywedodd Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, ei fod wedi clywed gan ffermwyr a thyfwyr bod angen "sicrwydd, hyblygrwydd a chefnogaeth" arnynt.
Dywedodd Mr Gruffydd fod y llywodraeth yn "gwrando ac yn gweithredu" er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i ffermwyr reoli storfeydd slyri'n ddiogel ac yn gyfrifol wrth i'r hydref ddechrau.
Dywedodd nad yn unig yr oedd y llywodraeth wedi cyflawni ei hymrwymiad i wneud taliad ymlaen llaw o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Hydref, ond ei bod wedi mynd ymhellach drwy gynyddu'r taliadau o 70% i 80%.
"Mae hyn yn adeiladu ar y sicrwydd yr ydym eisoes wedi'i roi i ffermwyr trwy ein biliwn o bunnoedd ar gyfer y cytundeb cyllido aml-flwyddyn, ac yn dangos i ffermwyr, wrth i heriau newydd ddod i'r amlwg, y byddwn yn parhau i ymateb mewn ffordd sy'n ystwyth, ymarferol ac ar eu hochr hwy," meddai.
Mae'r newid i reolau gwasgaru slyri yn dod ar ôl i Mr Gruffydd ddweud ym mis Mai nad oedd y rheolau oedd yn gwahardd ffermwyr rhag gwasgaru slyri dros fisoedd y gaeaf yn "gweithio".
Ar y pryd, dywedodd Mr Gruffydd y dylid symud oddi wrth "ffermio yn ôl y calendr" ac y gallai technoleg chwarae rhan yn y gwaith o reoli gwasgaru slyri'n gyfrifol.
Ers 2024 mae cyfyngiadau wedi bod ar wasgaru slyri rhwng canol mis Hydref a mis Ionawr, fel rhan o reolau ehangach i geisio lleihau llygredd amaethyddol.
Mae ffermwyr wedi cwyno bod y rheolau yn rhy llawdrwm a chostus ac y dylent allu gwasgaru slyri yn ôl y tywydd, tra bod grwpiau natur wedi rhybuddio am effaith llygredd amaethyddol ar afonydd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y cynnydd mewn taliadau ymlaen llaw yn adeiladu ar gytundeb cyllido aml-flwyddyn gwerth £1bn ar gyfer y sector amaethyddol.

Dywedodd CNC eu bod yn cefnogi'r mesur dros dro "gan ei fod yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol"
Cefnogi'r "hyblygrwydd dros dro i ffermwyr" a wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd rheolwr rheoleiddio polisi a dull gweithredu CNC, Eirian Macdonald, fod hon yn "flwyddyn eithriadol i ffermwyr ledled Cymru".
"Rydyn ni'n cydnabod bod llawer wedi gorfod darparu porthiant ychwanegol i dda byw ac anifeiliaid dan do mewn tymereddau uchel, er mwyn galluogi mynediad at ddigon o borthiant a dŵr.
"Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu mwy o slyri ar adeg pan fo llai o daenu slyri yn digwydd oherwydd pridd sych, diffyg twf cnydau a llai o angen maetholion."
Ychwanegodd Ms Macdonald fod CNC yn cefnogi'r mesur dros dro "gan ei fod yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol, gan helpu i leihau'r risg o broblemau'n ymwneud â chapasiti storio slyri yn nes ymlaen yn y flwyddyn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.