Heddlu i gymryd cerbydau sy'n difrodi natur, gan feio cyfryngau cymdeithasol am gynnydd

Fis diwethaf, cafodd tri dyn eu canfod yn euog ar ôl i fideos ohonyn nhw'n achosi difrod i ardal warchodedig gael eu postio ar TikTok
- Cyhoeddwyd
Bydd cerbydau gyrwyr sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, neu'n achosi difrod i ardaloedd gwarchodedig, yn cael eu cymryd oddi arnynt "yn y fan a'r lle", yn ôl yr heddlu.
Dywedodd y Cwnstabl Eryl Lloyd, o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd fod grymoedd newydd yn galluogi i swyddogion i gymryd cerbydau heb orfod rhoi gwybod o flaen llaw.
Rhoddodd yr heddwas rybudd i droseddwyr ei bod hi'n "bell i gerddad adra'".
Mae'r llu a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod difrod wedi'i achosi gan yrwyr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu.
Fe gafodd tri dyn ddirwyon ac fe gafodd ddau ohonynt waharddiad rhag gyrru yn dilyn yr achos yma ym mynyddoedd y Berwyn yn Sir Ddinbych
Fis diwethaf, cafodd tri dyn eu canfod yn euog ar ôl i fideos ohonyn nhw'n achosi difrod i ardal warchodedig mewn cerbydau 4x4 gael eu postio ar TikTok.
Roedd John Robinson, Michael Williams a Joseph Hodgson yn rhan o grŵp a yrrodd y cerbydau o Lerpwl i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Berwyn, Sir Ddinbych.
Cafodd Robinson a Williams ddirwy o dros £2,000 yr un a'u gwahardd rhag gyrru am ddeufis.
Cafodd Hodgson orchymyn i dalu £2,000 ac mi gafodd Orchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) hefyd, yn ei wahardd rhag mynd i Safle Diddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) y Berwyn am dair blynedd.

"Ma'r niwed s'di cael ei 'neud yn fan hyn 'ŵan, mae o'n drist iawn," medd y Cwnstabl Eryl Lloyd
Dywedodd y Cwnstabl Eryl Lloyd mai'r "cerbydau sy'n dod fyny ffor' hyn ydy'r 4x4s 'ma, ond hefyd da' ni'n gweld motobeics".
"Ond eto ma'r niferoedd o e-bikes yn cynyddu, 'dan ni'n cael lot fawr o alwadau ynglŷn â hyn."
"Ma'r niwed sy' 'di cael ei 'neud yn fan hyn 'ŵan, mae o'n drist iawn i weld a 'dan ni'n trio'n gora' fel heddlu, fel tîm cefn gwlad, i stopio hyn rhag digwydd."
Ym marn y cwnstabl, "dwi'n meddwl mai'r social media 'ma" sy'n gyfrifol am y cynnydd yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae ffrithiant o deiars cerbydau yn effeithio ar y mawn ar diroedd fel y Berwyn, meddai Kirsty Roberts o CNC
O dan Ddeddf Troseddau a Phlismona 2026, a ddaeth i rym yn y gwanwyn, mae gan yr heddlu'r pŵer bellach i atafaelu cerbydau gan droseddwyr yn syth.
"O blaen 'oeddan ni'n gorfod rhoi rhybudd iddyn nhw, ond rŵan 'dan ni'n gallu cymryd nhw ar y safle pan ma'r digwyddiad yn digwydd," meddai'r Cwnstabl Lloyd.
"Ma' hynna'n help mawr.
"'Dan ni am ddefnyddio'r pwera' 'ma os 'dan ni'n gweld digwyddiada' fel hyn, pobol yn dod â ceir nhw fyny, motobeics - 'dan ni am gymryd y cerbydau ganddyn nhw.
"Ma' hi'n bell i gerddad adra o fan hyn," rhybuddiodd.
'Mwynhewch, ond parchwch'

Mae'r heddlu a CNC yn dweud bod difrod wedi'i achosi gan yrwyr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynyddu
Dywedodd Kirsty Roberts, swyddog cadwraeth i CNC, eu bod yn "gweld cynnydd yn y niferoedd o ddigwyddiadau ar safleoedd gwarchod dros Gymru i gyd".
"Yn anffodus mae lot yn ymwneud hefo ymddygiad antisocial," meddai Ms Roberts.
Esboniodd bod y cynnydd yma yn cynnwys achosion o gerbydau 4x4, beiciau trydan a "defnydd barbeciws ar ein safleoedd hefyd".
"Mae'n gallu achosi lot o ddifrod ar y safleoedd - mae'n dibynnu ar y math o gynefin sydd yna.
"Ar y Berwyn mae 'na fawndir a rhostir," eglurodd, gan ychwanegu bod ffrithiant o deiars cerbydau yn effeithio ar y mawn yno.
Neges Ms Roberts i'r cyhoedd oedd i fynd yno i "fwynhau gweld y natur, ond i'w barchu fo hefyd".
'Mae o'n brifo'

Mae'r difrod yn sgil gyrru anghyfreithlon yn siom i'r Arglwydd Newborough yn dilyn blynyddoedd o geisio bod "yn geidwaid da" ar eu tir
Yr Arglwydd Newborough o Ystâd Rhug, ger Corwen, sy'n berchen ar y tir ar y Berwyn a gafodd ei ddifrodi gan y gyrwyr fis diwethaf.
Dywedodd fod ardaloedd o'r ystâd wedi cael eu hagor i'r cyhoedd fwynhau, ond bod y mynydd yn "werthfawr iawn ac rydyn ni wedi trio ei ddiogelu a bod yn geidwaid da arno ers nifer o flynyddoedd".
Esboniodd fod difrod i gynefinoedd pwysig gan yrwyr yn digwydd yn amlach: "Dwi'n hollol siomedig, achos mae hwn yn ddifrod sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diweddar.
"Dwi'n eithaf hen fy hun, felly ges i'n magu yn parchu'r mynyddoedd a ddim yn gweld yr ymyrraeth a welwn ni gan y cyhoedd rŵan.
"Felly yndi, mae o'n brifo - y ffaith bod y difrod wedi digwydd.
"Rydyn ni'n monitro'r adar ar y mynydd bob blwyddyn ac rydyn ni'n gwybod bod nythoedd penodol werthfawr yn cael eu difrodi ar bwrpas a nid dyma'r ffordd ymlaen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2020
