Galw am wasanethau agosach i bobl sy'n byw gydag MS yng Nghymru

Mae Eirlys Ryder o Rosmeirch ger Llangefni, yn byw gydag MS ers iddi gael diagnosis 17 mlynedd yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) yng Nghymru yn wynebu teithiau o hyd at chwe awr i dderbyn gofal arbenigol.
Dyna gasgliad adroddiad newydd gan Gymdeithas MS Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysau cynyddol ar wasanaethau ac yn aml y diffyg darpariaeth mewn rhannau o Gymru wledig.
Ond er ei fod yn cael ei ystyried yn broblem ar draws Cymru, mae pryderon ychwanegol dros y sefyllfa yng y gogledd a'r canolbarth, lle mae rhybudd bod mynediad at ymgynghorwyr yn is a llwythi gwaith nyrsys yn uwch.
O ganlyniad, mae prinder staff arbenigol yn y GIG yn arwain at rai yn gorfod aros am amser hir i dderbyn triniaeth a chymorth.
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "bwriadu sicrhau bod pobl â chyflyrau hirdymor fel MS yn cael eu trin yn nes at adref".
'Mae bob diwrnod yn heriol'
Mae Eirlys Ryder, 70, yn byw yn Rhosmeirch ar Ynys Môn.
Ar ôl dechrau cael trafferthion gyda'i golwg, bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w gwaith fel rheolwraig banc. Fe gafodd ddiagnosis o MS 17 mlynedd yn ôl.
Mae'r cyflwr yn un hirdymor lle mae'r system imiwnedd yn ymosod ar nerfau yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, ac mae'n effeithio ar bron i 7,000 o bobl yng Nghymru.

Oherwydd natur y cyflwr mae angen cymorth ar Eirlys i gerdded
"Oeddwn yn mwynhau gweithio, doeddwn i'm yn barod i orffen gweithio ond wnaeth fy iechyd benderfynu doeddwn methu cario 'mlaen," meddai Eirlys.
"[Erbyn hyn] mae bob diwrnod yn heriol i fod yn onest, o drio codi'n y bore.
"Dwi 'di dechrau hefo cryndod a ti'n cael pinnau yn dy ddwylo, dim teimlad yn dy freichiau ac mae cerdded fel trio cerdded drwy fwd neu tywydd gwlyb.
"Bob symudiad ti'n wneud ti'n cwffio yn erbyn rhywbeth."
Gyda'r cyflwr yn effeithio ar ei gallu i gerdded ac i symud o gwmpas yn rhwydd, mae hefyd yn golygu ei bod hi'n blino'n haws.
Felly dydy teithio'n bell i weld ymgynghorwyr arbenigol ddim yn hawdd.
Mae ei harbenigwr wedi'u lleoli yn Lerpwl ond yn ei chwrdd hanner ffordd yn Ysbyty Glan Clwyd, Llanelwy.
"Mae teithio yn ei hun yn flinedig," meddai.
"Am fod rhaid gwneud yr ymdrech i deithio yn y car am 'chydig oriau, mae hynny'n effeithio ar y cyflwr.
"Mae o'n effeithio ar sut 'da chi y diwrnod hwnnw, ac ella am wythnos neu fwy wedyn, felly nid dim ond ar y diwrnod yma 'da chi'n ei deimlo, mae'n gallu eich effeithio am ddyddiau wedyn.
"'Sa'n gallu bod llawer gwell...mae'r staff yn dda iawn ac i gyd o dan bwysau, ond mae'r cyflwr mor wahanol i bawb fod angen mwy o arbenigwyr i fod yn nes aton ni, ella ym Mangor."
Yn ôl Eirlys, oherwydd natur y drefn fel mae hi, mae diffyg darpariaeth ar gael yn y Gymraeg hefyd.
"Saesneg ydy'r nyrsys, maen nhw'n dda ofnadwy ond ti methu siarad yn dy iaith gyntaf am beth sy'n mynd ymlaen," ychwanegodd.
"I mi yn bersonol, fel Cymraes, mae hynny'n bwysig ac yn mynd yn fwy pwysig yr hynaf ti'n mynd dwi'n meddwl."
Byw gyda MS: 'Newidiodd ein bywydau ni dros nos'
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Daf Wyn: MS ‘wedi agor lan sut dwi’n edrych ar y byd’
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
Y gofalwr ifanc sydd eisiau 'newid y byd i bobl fel fi'
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2025
Mae tua 6,900 o bobl yng Nghymru yn byw gyda MS, gyda'r nifer wedi cynyddu 13% ers 2019.
Yn ôl yr adroddiad, mae llwythi gwaith nyrsys MS yng Nghymru tua 30% yn uwch na'r lefel gynaliadwy sy'n cael ei hargymell.
Mae'r gogledd hefyd gyda'r lefel isaf o fynediad at ymgynghorwyr MS - sef 0.8 ymgynghorydd ar gyfer pob 1,000 o gleifion.
Mae cleifion yn wynebu aros dros flwyddyn am gymorth niwroseicolegol, gyda dim ond un arbenigwr o'r fath yng Nghymru.
O ganlyniad, mae Cymdeithas MS Cymru yn galw am gamau brys i sicrhau bod pobl yn gallu cael gofal amserol, cyson ac yn agosach i adref.

Yn ôl Ian Simpson o Gymdeithas MS Cymru, dydy'r ddarpariaeth bresennol "ddim yn dderbyniol"
"Mae'n loteri cod post", meddai Ian Simpson, ar ran y gymdeithas.
"Mae anghydraddoldebau iechyd sylweddol yn dibynnu ar ble rydych chi yng Nghymru — gogledd-de a dwyrain-gorllewin, gwledig neu drefol — ac rydym yn credu nad yw hynny'n dderbyniol.
"Dylai pobl allu cael mynediad at yr un lefel o ofal ble bynnag y maen nhw yng Nghymru.'"
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r weinyddiaeth newydd hon yn bwriadu sicrhau bod pobl â chyflyrau hirdymor fel MS yn cael eu trin yn agosach at adref.
"Rydym yn gweithio i wella mynediad at adsefydlu a chymorth amlbroffesiynol wedi'i deilwra ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth.
"Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda neu sy'n cael eu heffeithio gan gyflwr niwrolegol yng Nghymru yn cael eu cefnogi i fyw eu bywydau gorau, yn ogystal â gwella mynediad at wasanaethau o ansawdd uchel."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.