Seibiant o'r sŵnwedi ei gyhoeddi 14:45 GMT+1

Noa, sydd ag awtistiaeth, yn mwynhau'r babell piws – pabell arbennig i bobl sydd eisiau cyfnod o seibiant rhag sŵn a phrysurdeb yr Eisteddfod.
Y diweddaraf ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn - y tro cyntaf i'r Brifwyl gael ei chynnal am saith diwrnod
Elin Undeg Williams o Fetws Gweful Goch yn ennill Coron Eisteddfod Ynys Môn
Wrth i Brifwyl Môn ddod i ben edrych ymlaen at Eisteddfod Bro'r Wenynen yng Nghasnewydd
Tro'r plant ieuengaf yw hi ddydd Gwener wrth i'r cystadlaethau ganolbwyntio ar Flwyddyn 6 ac iau
'Balchder' a gorfoledd wedi sioe ieuenctid Ffawd a Ffydd
Prif Weithredwr yr Urdd yn diolch i bobl Môn am sicrhau Eisteddfod hynod lwyddiannus

Noa, sydd ag awtistiaeth, yn mwynhau'r babell piws – pabell arbennig i bobl sydd eisiau cyfnod o seibiant rhag sŵn a phrysurdeb yr Eisteddfod.
Eisteddfod yr Urdd
Mae buddugoliaeth Elin yn golygu mai merched sydd wedi ennill y tair prif wobr lenyddol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Mae’r cyntaf, ail a thrydydd yn y prif gystadlaethau llenyddol yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd.
Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.
Bydd gwaith Elin yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfryn gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn syth ar ôl y seremoni.
Gellir prynu copi o’r tri darn llenyddol buddugol o Siop yr Urdd neu siop lyfrau Awen Menai ar y maes, neu mewn siopau llyfrau lleol.
Eisteddfod yr Urdd
Meddai’r beirniaid am y gwaith buddugol: “Myfyrdodau neuadd bentref sydd yma a’r neuadd honno yn edrych ar ddigwyddiadau’r gymuned o’i chwmpas a’r hyn sydd yn mynd ymlaen ynddi.
"Dyma enghraifft glyfar o ‘waliau’n siarad’. Mae yma ddychan, beirniadu, anwylo, craffu gwirioneddol a darlun byw, a gwreiddiol o gymuned amaethyddol.”
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Betws Gwerful Goch ac Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, mae Elin yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio’r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae hi’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled, ac Aelwyd Pantycelyn ac wedi mwynhau canu gyda nhw ddechrau’r wythnos.
Mae Elin yn diolch i’w chyn-athrawon am eu cefnogaeth amhrisiadwy ac yn benodol i Dr Eurig Salisbury o Adran Y Gymraeg Aberystwyth am ei anogaeth, ac i’w theulu am bopeth.
Eisteddfod yr Urdd
Elin Undeg Williams o Fetws Gwerful Goch, Sir Ddinbych sydd wedi ennill coron Eisteddfod Ynys Môn.
Roedd cystadleuaeth y Goron eleni yn gofyn am ddarnau o waith creadigol (dau neu fwy, dilyniant) ar y thema: Lloches
Y beirniaid oedd Llŷr Titus a Sonia Edwards.
Roedd hi'n ofynnol i'r darnau o ryddiaith fod dros 2,500 o eiriau.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Lowri Bebb o Gaernarfon, a Ffion Eleri Thomas o Fangor oedd yn drydydd. Noddwyd y seremoni gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr UrddY beirniad Llŷr Titus yn cadarnhau bod teilyngdod ac yn annog pawb a wnaeth gystadlu i barhau i ysgrifennu.
Camddwr yw ffugenw yr enillydd.
Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith CymruMae'r lliwiau ar y goron yn cyfleu lliwiau traethau Ynys Môn
Y gemydd Myfanwy Jones, sy'n wreiddiol o Lanfairpwll, sydd wedi creu'r Goron eleni.
Ar ôl cwblhau gradd mewn Dylunio Gemwaith ym Mhrifysgol Central Saint Martin yn Llundain, fe wnaeth hi ddychwelyd i Ynys Môn yn 2022 ar ôl 15 mlynedd.
Dywedodd: "Dwi'n mwynhau bod yn ôl adra, ac mae'n wych cael y cyfle i ddylunio Coron Eisteddfod yr Urdd - dwi erioed wedi dylunio coron o'r blaen."
Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith CymruDywedodd Myfanwy Jones bod traethau a symbolau Celtaidd Môn "yn themâu cryf yn nyluniad y goron"
Heddiw cyflwyno'r goron yw prif seremoni'r dydd.
Hyd yma mae llwyddiant wedi bod ymhob prif seremoni a dyma'r enillwyr:
Y Gadair - Lois Medi
Y Fedal Ddrama - Glain Llwyd
Medal y Prif Gyfansoddwr - Heledd Wynn Newton
Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd - Dafydd Llŷr Hughes a Lleucu-Haf Thomas, dolen allanol
Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones - Caerwyn Saunders a Katie Baddiley
Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith CymruDywedodd y beirniaid fod Glain Llwyd yn "ddramodydd hynod gyfforddus ac aeddfed"
Y parafeddygon John a Rhisiart yn barod i roi cymorth.


Mae crwydro'r maes yn brofiad llawer brafiach yn yr haul... ond mae'n bwysig osgoi llosgi.
Dyna pam mae Archie, o Amlwch, yn cael mwy o eli haul gan ei dad, Dan, cyn mynd nôl allan i fwynhau ar y maes.
Mae'n amser cinio, mae'n braf - be' well i Anest a Ceian na picnic ar faes yr Eisteddfod?

Merched y Wawr
Ffynhonnell y llun, Merched y WawrEleni mae Merched y Wawr yn codi arian at ymchwil canser a 'Positifrwydd Pinc' yw'r thema.
Does ryfedd felly fod pinc wedi bod yn liw amlwg iawn gydol yr wythnos.
Dywedodd Iwan Rhys Roberts: Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, Ymchwil Canser Cymru bod aelodau Merched y Wawr ledled Cymru wedi codi’r swm anhygoel o £39,847.29 i Ymchwil Canser Cymru mewn chwe mis.
Mae'r elusen yn agos iawn at galon y llywydd Bethan Picton-Davies sy'n fodryb i’r ddarlledwraig Mari Grug.
Dywed bod profiad Mari a’i chwaer Lisa o ganser wedi dylanwadu ar ei dewis.
Ffynhonnell y llun, Merched y WawrBethan Picton-Davies a welir yma ar y dde yw llywydd Merched y Wawr eleni
Gydol yr wythnos mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn hynod o brysur.
"Mae ein gwirfoddolwyr yn Ynys Môn wedi bod yn anhygoel, o dan arweiniad Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Manon Wyn Williams, medd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau'r Urdd.
"Maen nhw wedi bod yn gefn i ni fel staff ers dros dair blynedd, yn codi arian ac yn sicrhau fod pob plentyn ar yr ynys, ac yng Nghymru gyfan yn cael y cyfle i fwynhau'r Eisteddfod.
"Mae'r Urdd yn gwbl ddibynnol ar ein gwirfoddolwyr, a fedra i ddim diolch digon i bob un sy'n ein helpu i gynnal yr ŵyl."



Merched Trawsfynydd yn mwynhau



Un arall sydd wrth ei fodd yw Ioan, 4, o Bentreberw
Mae'r ddwy fach yma wedi teithio'r holl ffordd o Lundain i'r Eisteddfod!
Mae Elin yn mynd i Ysgol Gymraeg Llundain ac Efa yn mynd i Miri Mawr Llundain.

Na, dydi Archie, sy'n 9 oed, o Ynys Môn, heb fod yn hogyn drwg - cael eistedd yn nghell y car heddlu sydd ar y maes mae o!


Mae'n bwnc llosg - ac wedi bod yn ystod wythnos yr eisteddfod hefyd - felly ai dechrau cynllunio ar gyfer trydedd bont dros Y Fenai mae'r plant yma?
Os felly, efallai y bydd yn barod erbyn y tro nesaf fydd Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn...

Mae Ifan a Non ar y Maes wedi iddyn nhw fod yn perfformio fel rhan o gynhyrchiad Calon ddoe - gan roi blas cyntaf o gynhyrchiad newydd Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Mae tocynnau arbennig £5 ar gael i bobl ifanc - ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod gall oedolion brynu tocyn am bris gostyngedig o £15.
Bydd Calon, sioe gerdd gan Caryl Parry Jones a Non Parry, yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm fis Awst.
Meddai Ifan: “Roedd perfformio Calon ddoe yn brofiad arbennig – roedd yr ymateb gan y gynulleidfa yn anhygoel ac mae’r egni’n gwneud ni hyd yn oed yn fwy cyffrous am y sioeau sydd i ddod.”
Ychwanegodd Non: “Mae gweld Calon yn dod yn fyw ar lwyfan, gyda’r cast a’r gerddoriaeth yn dod at ei gilydd, wedi bod yn emosiynol iawn.”
Gallwch weld oriel luniau o ymarfer cyntaf y sioe fan yma.
Rhai o aelodau cast y sioe yn rhannu eu profiadau hyd yma

Mae'n amser cinio... fel sy'n amlwg o'r prysurdeb yn y lle bwyd.


Tra bod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn dirwyn i ben, mae ‘na rai ar y maes sy'n edrych ymlaen at gystadleuaeth arall yng Nghymru - pencampwriaeth pêl-droed Ewrop UEFA dan 19.
Meddai Tomos Morris o Gymdeithas Bêl-droed Cymru (canol yn y llun uchod): “Mae’n dwrnamaint cyffrous iawn gydag wyth gwlad yn dod i gystadlu - so ma’ gwledydd mawr fel Sbaen, yr Almaen, yr Eidal yn cystadlu - ac yn amlwg Cymru hefyd.
“So ma ‘na bedwar stadiwm wahanol, ac mae ‘na gemau’n cael eu cynnal yn Wrecsam, Bangor, Caernarfon a Dinbych.
“Mae lot o gyffro ar y maes.”