Carcharu dyn am ladd dynes o Wrecsam wedi iddo ffoi rhag yr heddlu

Fe wnaeth Michael Connors, 28, gyfaddef achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei garcharu ddydd Llun am achosi marwolaeth mam i ddau, mewn gwrthdrawiad wrth iddo drio ffoi rhag yr heddlu.
Fe wnaeth Michael Connors ddianc i Iwerddon, ei famwlad, ar ôl lladd Lydia La Polla, 47, yn ardal Wrecsam.
Cafodd Connors ei estraddodi ar warant arestio ryngwladol ac mi gafodd ddedfryd o 13 mlynedd a mis o garchar a'i wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd.
Cyfaddefodd y dyn 28 oed o Ddulyn o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth gyfaddef hefyd ei fod wedi achosi anaf difrifol i ŵr y ddioddefwraig, Robert La Polla, 44 oed, trwy yrru'n beryglus ac i ferch 16 oed oedd mewn car Mercedes arian oedd yn cael ei yrru gan y diffynnydd.

Dywedodd y barnwr fod "bywyd rhagorol Mrs [Lydia] La Polla wedi dod i ben yn ddiangen pan oedd hi'n 47 oed"
Dywedodd y Barnwr Simon Mills wrth Connors yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fod "bywyd rhagorol Mrs La Polla wedi dod i ben yn ddiangen pan oedd hi'n 47 oed, heb fod ymhell o'i phen-blwydd priodas yn 25".
Roedd Connors wedi ffoi o'r lleoliad mewn ffordd "gachgïaidd", meddai'r barnwr.
"Os oes gan y diffynnydd unrhyw synnwyr o foesoldeb o gwbl, mi fydd o'n cario baich yr hyn a wnaeth hyd ddiwedd ei oes.
"Ni ddylech wedi bod yn gyrru'r cerbyd yma ar y ffordd; nid oedd gennych yswiriant, a doedd gennych chi ddim trwydded.
"Nid ydym yn gwybod os oeddech chi o dan ddylanwad canabis neu ddim. Nid ydw i'n cymryd eich bod, ond mi gafodd pedwar pecyn ohono eu canfod yn y cerbyd."
'Peryglus a hollol hunanol'
Ychydig eiliadau cyn y gwrthdrawiad yn Hightown, roedd Connors yn gyrru 71mya mewn ardal 20mya.
Dywedodd y Barnwr Mills wrtho: "Trwy hap a damwain yn unig na chafodd mwy o bobl eu lladd o ganlyniad i'ch gweithredoedd peryglus a hollol hunanol."
Roedd Mr La Polla wedi dioddef "anafiadau oedd yn peryglu ei fywyd".
Cafodd Connors ei ryddhau o'r carchar ar drwydded ar adeg y digwyddiad.
Dywedodd y barnwr wrtho fod ganddo hanes gwael o yrru: "Ar y pryd, nid oedd gennych unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn dilyn rheolau'r ffordd."
Dynes wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar oedd yn dianc rhag yr heddlu
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2025
Yn erlyn, dywedodd David Mainstone fod cwnstabl heddlu wedi gweld y Mercedes a phenderfynu ei ddilyn ar 24 Mawrth 2025.
Roedd Mrs La Polla yn gyrru Toyota Yaris pan aeth y Mercedes i mewn i'w ochr, gan achosi iddo godi i'r awyr, rholio drosodd a tharo wal.
Roedd y Mercedes yn dal i deithio ar gyflymder o 63mya ar adeg y gwrthdrawiad, ac roedd tri theithiwr ynddo.
Roedd DNA Connors ar fag aer ac olion ei fysedd ar gan o Red Bull.
'Bywydau wedi'u dinistrio'
Mewn datganiad, dywedodd Robert La Polla fod eu bywydau wedi cael eu dinistrio mewn eiliad. Bu farw ei wraig yn yr ysbyty ddeuddydd ar ôl y ddamwain.
"Lydia oedd fy mhartner enaid cytûn," meddai. "Mae ein teulu clos wedi cael ei chwalu'n filoedd o ddarnau."
Dywedodd Mr Mainstone fod gan Connors 64 o droseddau ar gofnod, gan gynnwys naw cyhuddiad o yrru'n beryglus yn Iwerddon.
Roedd ganddo naw trosedd yn ymwneud â diffyg yswiriant ac mi gafodd ddedfryd o chwe blynedd am gynllwynio i gyflawni lladrad ym Mhrydain yn 2021.
Dywedodd Jane Miller wrth amddiffyn: "Mae'n ymddangos bod y diffynnydd yn wirioneddol edifarhau.
"Mae wedi cael amser i fyfyrio ar ei ymddygiad," ychwanegodd Ms Miller.
Roedd Connors yn dad i ddau ac yn dioddef o ADHD ac anhwylder personoliaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.