Buddsoddiad £150m yn creu 480 o swyddi newydd yn Airbus Brychdyn

Yn ôl y cwmni bydd cyfanswm o 480 o swyddi newydd wedi eu creu eleni ym Mrychdyn
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Airbus yn buddsoddi £150m ar addasu rhan o'u ffatri ym Mrychdyn, Sir Y Fflint er mwyn ymdopi â'r galw am adenydd awyrennau A321.
Mae'r cwmni'n trawsnewid uned oedd yn arfer cynhyrchu adenydd awyrennau A380 ac yn gobeithio y bydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn diwedd y flwyddyn.
Fe fydd 250 o swyddi'n cael eu creu o ganlyniad, ond yn ôl y cwmni bydd cyfanswm o 480 o swyddi newydd wedi eu creu eleni ar draws y safle cyfan.
Mae hynny ar ben y 6,000 o swyddi ym Mrychdyn eisoes - datblygiad sydd, medd y cwmni, yn tanlinellu "ymrwymiad hir dymor i Gymru".

Mae gwaith wedi dechrau eisoes ar gynhyrchu'r aden gyntaf yn yr adeilad newydd
Mae'r buddsoddiad yn ateb i'r cynnydd sydd wedi bod yn yr archebion am adenydd - ar gyfer cyfres A320 ac yn arbennig archebion ar gyfer adenydd A321.
Fe fydd yr uned ar ei newydd wedd yn cynnwys chwe jig cynhyrchu adenydd, llinell gyflenwi a siop baent.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar gynhyrchu'r aden gyntaf yno ac mae disgwyl i bob jig fod yn weithredol cyn diwedd y flwyddyn.
'Creu swyddi gwerth uchel'
Dywed y cwmni bod y datblygiad yn rhan o strategaeth ddiwydiannol fyd-eang Airbus ac yn sicrhau bod ffatri Brychdyn "yn barod i gwrdd â thargedau cynhyrchu'r dyfodol".
Mae'r buddsoddiad dan sylw "yn bwysig i'r ardal", yn ôl pennaeth Airbus Wing, Jerome Blandin.
"Nid ydym yn sôn am wella yn unig, rydyn ni'n gosod seilwaith i gefnogi," meddai.

Roedd yn rhaid i'r cwmni gymryd camau gan fod archebion am adenydd awyrennau'r gyfres A320, ac yn arbennig adennydd A321, wedi pentyrru
"Ar draws y byd heddiw mae awyren Teulu A320 yn codi neu'n glanio bob dwy eiliad, gydag adenydd wedi'u dylunio a'u hadeiladu yn y DU.
"Mae buddsoddi yn ein capasiti yn cryfhau ein ôl troed diwydiannol, yn creu swyddi gwerth uchel sy'n cefnogi'r sector awyrofod ehangach yn y DU ac yn sicrhau ein bod yn aros yn gystadleuol yn y blynyddoedd sydd i ddod," ychwanegodd.
Croesawu'r buddsoddiad a wnaeth undeb Unite, gyda'r swyddog Rhys McCarthy yn dweud bod ffydd "anferth" yn cael ei dangos "yn sgiliau, ymroddiad ac arbenigedd o safon fyd-eang ein haelodau yng ngogledd Cymru".
Dywedodd Daz Reynolds, cynrychiolydd Unite ym Mrychdyn, fod y "safle'n sicrhau dyfodol hirdymor y ffatri".
Ychwanegodd Mr Reynolds fod y datblygiad yn cryfhau sefyllfa'r DU yn y maes ac yn "darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer cyflogaeth sgil uchel a phrentisiaethau i gymunedau lleol".
"Mae'n dystiolaeth o'r hyn sy'n gallu cael ei gyflawni pan fydd y rheolwyr yn buddsoddi'n uniongyrchol yng ngallu eu gweithlu ym Mrychdyn."

Mae'r cyhoeddiad yn "newyddion gwych i ogledd Cymru", medd Adam Price
Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am fenter, cysylltedd ac ynni, Adam Price, fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych i ogledd Cymru ac yn dangos ymrwymiad hirdymor Airbus i Gymru".
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhoi cefnogaeth gref i'n huchelgais i dyfu gweithgynhyrchu uwch ac ail-ddiwydiannu Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.