Tri wedi'u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Cafodd tri o bobl eu hanafu wedi i gar daro siop yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd yr M4 yng Nghaerdydd.
Dywedodd yr heddlu bod car, oedd yn cael ei yrru gan ddynes 76 oed, wedi taro siop yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd wrth gyffordd yr M4 yn ardal Pontprennau.
Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty, gan gynnwys plentyn wyth oed a dyn 39 oed oedd yn cerdded, yn ogystal â gyrrwr y car.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn deall nad oedd yr anafiadau yn rhai oedd yn peryglu bywyd, a'u bod wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.
Mae'r llu yn apelio at unrhyw dystion i gysylltu â nhw.