'Collais Mam pan o'n i'n fabi, dwi eisiau curo'r drwm dros blant mewn gofal'

Sarah Cooper-Lesadd a'i mam yn fuan ar ôl iddi gael ei geni
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd, a gollodd ei mam pan oedd yn dair wythnos oed, yn addo "parhau i wthio" am "amddiffyniadau cadarn" ar gyfer plant sydd mewn gofal.
Fe gollodd Sarah Cooper-Lesadd ei mam i seicosis ôl-enedigol ac ar ôl byw gyda'i thad geni am chwe mis, fe gafodd ei rhoi mewn gofal cyn cael ei mabwysiadu yn saith oed.
Ers cael ei hethol i'r Senedd fis Mai, mae'r aelod dros Reform yn dweud ei bod eisiau "curo'r drwm" dros blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae hi'n galw ar y llywodraeth i gryfhau'r gyfraith yng Nghymru i gyfateb â Lloegr, a chryfhau amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer pobl ifanc.
Ond, mae hi wedi cyhuddo Plaid Cymru o chwarae gwleidyddiaeth gyda'r mater.
Mae llefarydd ar ran llywodraeth Plaid Cymru'n dweud bod y Siarter Rhianta Corfforaethol gwirfoddol yng Nghymru yn mynd ymhellach na'r ddeddfwriaeth yn Lloegr.
'Wedi cael fy ngadael i fynd ddwywaith'
Mewn araith yn y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Sarah y byddai pethau'n wahanol i'w mam heddiw, ac y byddai wedi cael ei gweld cyn cyrraedd y pwynt o argyfwng, gan ei chadw'n ddiogel.
"Fe syrthiodd drwy bob bwlch oedd yn y system, ac fe gafodd y pris uchaf ei dalu ganddi hi a gan fabi tair wythnos oed, fi, a aeth i ofal gan nad oedd modd achub y fam oedd yn ei charu," meddai.
"Fe wnaeth fy nhad fy nghymryd i mewn am gyfnod, ac yna fe roddodd fi i fyny hefyd. Felly, cyn i mi fod yn ddigon hen i ddeall y byd, roeddwn i eisoes wedi cael fy ngadael i fynd ddwywaith."
Dywedodd Sarah ei bod wedi galaru am ei mam drwy gydol ei hoes er nad oedd hi erioed wedi'i hadnabod, gan ychwanegu: "Mae gen i ddau lun, a chlywais i erioed ei llais."

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei hethol yn yr etholiad diweddaraf
Tra roedd hi mewn gofal, fe gwympodd ar ei hôl hi yn yr ysgol cyn cael ei mabwysiadu.
Dywedodd yr aelod dros Ben-y-bont Bro Morgannwg: "Daeth fy nhrawma ddim i ben ar ôl i mi gael fy mabwysiadu, cafodd e siâp newydd."
Er hyn, mae'n cydnabod bod llawer o bobl wedi ei helpu i gyrraedd ble mae hi heddiw, gan ddweud "dwi ddim yn sefyll yma fel rhywun sydd wedi methu" a bod hynny gan fod eraill heb ei gadael i lawr.
"Ar hyd y ffordd roedd yna bobl, ffrind i'r teulu, athrawon a phobl eraill a gymerodd yr amser i wrando, a gweld bod mwy i'r person na'r ffeil."
Cafodd ei magu yng Nghasnewydd ond aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Roedd hi'n gweithio yn y gwasanaeth sifil cyn cael ei hethol ar gyfer Reform UK.

Cafodd Sarah Cooper-Lesadd ei mabwysiadu yn dilyn cyfnod mewn gofal
Ddydd Mercher mae ganddi ddadl yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r gyfraith sy'n gwarchod plant mewn gofal.
Wrth siarad ar BBC Politics Wales, dywedodd bod "gennym rwymedigaeth foesol" i sicrhau bod y rhai sy'n gadael gofal yn cael yr un warchodaeth ac y byddai rhywun sy'n byw efo'u teulu yn ei gael drwy eu hoes".
Yn Lloegr, fe wnaeth Deddf Llesiant Plant ac Ysgolion 2026 gryfhau'r rhwymedigaethau ar gyrff cyhoeddus i ystyried anghenion plant sydd wedi bod mewn gofal.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, dim ond awdurdodau lleol sy'n cael eu hystyried yn gyfreithiol fel "rhieni corfforaethol" i'r plant, ac mae'r cynnig yn galw ar fwy o gyrff cyhoeddus, fel byrddau iechyd, i ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw hefyd.
Mae'n galw am osod dyletswydd statudol ar y cyrff hynny i "fod yn wyliadwrus o effeithiau andwyol ar lesiant plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal" a sicrhau "amddiffyniadau rhianta corfforaethol sydd o leiaf yr un mor gryf â'r rhai sydd ar gael mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig".
Yng Nghymru mae yna siarter wirfoddol y gall cyrff cyhoeddus gofrestru ar ei chyfer, ond nid oes unrhyw amddiffyniadau cyfreithiol i bobl ifanc os ydyn nhw'n methu â chyflawni'r siarter yna.
Plant mewn gofal yn treulio misoedd mewn cartrefi heb eu cofrestru
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Gofal plant yn 'agor drysau' ym Merthyr - beth am weddill Cymru?
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2025
'Mae'n gwylltio fi': System gofal plant Cymru wedi torri - ymchwil
- Cyhoeddwyd4 Awst 2025
Yn ôl Sarah, yn ymarferol byddai'n golygu pe bai plentyn mewn gofal yn cyrraedd ysbyty, byddai'r bwrdd iechyd yn "gorfod rhoi ystyriaeth ddyledus i liniaru eu hanfantais" ac y byddai'n rhaid iddo fod "ar flaen eu meddwl" wrth ystyried eu triniaeth.
Yn hollbwysig, meddai, byddai gan y plentyn amddiffyniadau cyfreithiol "os nad yw'r bwrdd iechyd yn cyrraedd y disgwyliadau".
"Mae'n iawn cael y siarter wirfoddol hon, ac mae hynny'n anhygoel, ond mae'n gadael y rhai sy'n gadael gofal heb unrhyw ffordd o ddwyn y corff yna i gyfrif os nad ydyn nhw'n gwneud y peth cywir."
Mae hi'n dweud ei bod hi ei hun wedi poeni i ddechrau y gallai cyrff cyhoeddus gael eu llethu gan gamau cyfreithiol ac y gallai'r deddfau hyn fod yn gostus iawn iddynt.
Ond, mae'n mynnu bod Lloegr "wedi taro'r nodyn cywir" rhwng amddiffyn plant mewn gofal a pheidio â gorlwytho cyrff cyhoeddus gyda heriau cyfreithiol.
'Dylai fynd tu hwnt i wleidyddiaeth plaid'
Yn ôl Sarah Cooper-Lesadd pan gafodd y cynnig ei gyflwyno i ddechrau roedd wedi gweld "aelodau o'r gwrthbleidiau yn ei lofnodi, cyn tynnu eu cefnogaeth yn ôl".
Dywedodd ei fod yn "gwbl syfrdanol" nad oedd y llywodraeth eisiau trafod y syniad yma.
"Dwi'n poeni mai'r rheswm eu bod nhw'n amharod i wneud hynny yw oherwydd y teimlad eu bod nhw eisiau gwneud hyn mewn ffordd Gymreig, a bod yn rhaid i'r ffordd Gymreig ddod ar draul popeth arall.
"Y rheswm pam y diflannodd y llofnodion hynny i ddechrau - dwi'n meddwl - yw fod y mater yn ymwneud â Reform.
"Dylai hyn fynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid," meddai cyn pwysleisio ei bod yn rhwystredig nad yw pobl yn gallu "dod at ei gilydd ar faterion fyddai'n gwneud bywydau'r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn well".
Yn y pen draw, mae'r AS ifanc eisiau perswadio'r llywodraeth i gefnogi ei chynnig a newid y gyfraith ond mae'n derbyn, tra ei bod hi mewn gwrthblaid efallai mai'r gorau y gall hi obeithio amdano ar hyn o bryd yw "symud y sgwrs" fel bod y llywodraeth "o leiaf yn ystyried deddfu ar gyfer hyn".
"Rwy'n mynd i barhau i wthio amdano," ychwanegodd.
'Cyfrifoldeb i bawb'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan y llywodraeth, asiantaethau allweddol a chymunedau rôl hanfodol wrth gefnogi plant sydd wedi cael profiad o ofal i lywio eu plentyndod a'r newid i fod yn oedolion.
"Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg mewn bywyd.
"Mae'r Siarter Rhianta Corfforaethol yng Nghymru wedi cael ei ddatblygu gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
"Yn wahanol i'r ddeddfwriaeth yn Lloegr, mae'n mynd ymhellach - nid yn unig yn cwmpasu cyrff y sector cyhoeddus, ond sefydliadau preifat a thrydydd sector hefyd."
Bydd dadl Sarah Cooper-Lessad ar Rianta Corfforaethol yn digwydd yn Siambr y Senedd brynhawn Mercher.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.