Heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ger Arberth

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 09:15 fore Mercher, 19 Awst
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Benfro.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 09:15 ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A40 yn Robeston Wathen ger Arberth.
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-powys fod gyrrwr un o'r cerbydau wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dash-cam all fod o ddefnydd i'w hymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.