'Gwneud synnwyr' i gynnig gradd gyfan milfeddygaeth yn Aberystwyth

Sharon King gyda gwobr cymdeithas filfeddygol y BVA am fentora myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae darlithydd yn gobeithio bydd posib cynnig gradd gyfan mewn milfeddygaeth yn Aberystwyth yn y dyfodol, wrth iddi ddathlu graddio'r myfyrwyr cyntaf i wneud rhan o'u hastudiaethau yno.
Fis Medi 2021 fe agorodd yr ysgol gyntaf erioed yng Nghymru i hyfforddi milfeddygon.
Ar hyn o bryd gall myfyrwyr dreulio dwy flynedd gynta'r cwrs yn yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r tair blynedd olaf yn cael eu dysgu ar gampws yr RVC yn Hawkshead yn Sir Hertford, gyda'r radd yn cael ei darparu ar y cyd gan y brifysgol a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).
Cyhoeddi sefydlu Ysgol Milfeddygaeth gyntaf Cymru
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
Ehangu ysgol filfeddygol sydd wedi 'agor drysau' yn Aber
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024
Eleni wnaeth y myfyrwyr milfeddygaeth cyntaf erioed i astudio yn Aberystwyth – y rhai gafodd eu derbyn yn 2021 – raddio.
Dywedodd eu darlithydd Sharon King bod y 23 myfyriwr wedi graddio mewn seremoni yn yr RVC yn Llundain ond hefyd wedi cael dathliad ar wahân yn Aberystwyth.
"Roedd e'n sbesial - roedd e'n sbesial iawn," meddai.
"Roedden nhw'n ganlyniadau ffantastig ac roedden ni'n ofnadwy o browd ohonyn nhw i gyd."

Dathlu gyda'r myfyrwyr yn Aberystwyth
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, fe ddywedodd Mrs King, sy'n dal i weithio fel milfeddyg un diwrnod yr wythnos, bod dysgu'r pwnc wedi bod yn rhan o gynlluniau'r brifysgol Aberystwyth ers y dyddiau cynnar.
"Os ewch chi nôl i hanes Prifysgol Aberystwyth, ers sefydlu'r brifysgol, roedd yna sôn dylse bod yna ysgol filfeddygol yna," meddai.
"Mae yna sawl un ar hyd y blynyddoedd wedi sôn bod nhw'n mynd i gael un a bod e'n mynd i ddod.
"Wnaeth e byth gyrraedd, ond wrth gwrs, ers 2021, dyna pryd ddaru ni agor ein drysau fel gradd ar y cyd efo'r RVC."
Dywedodd bod y dref, yng nghanol y diwydiant amaethyddol, yn lleoliad delfrydol ar gyfer ysgol milfeddygaeth.
Yn Aberystwyth hefyd sefydlwyd Coleg Amaethyddol Cymru yn 1971, sydd bellach yn rhan o'r brifysgol.
'Dyhead' i gynnig gradd gyfan
Gyda'r myfyrwyr cyntaf i astudio'r pwnc yn Aberystwyth nawr wedi graddio'n llwyddiannus, dywedodd y byddai'n hoffi gweld myfyrwyr yn gwneud eu gradd gyfan yno yn y dyfodol.
"Dyna'r dyhead, yn sicr," meddai.
"Ma' fe'n gwneud synnwyr i ni gael ysgol hollol lawn yna a bod y pum mlynedd yn rhan o gael ei astudiaethau yn Aberystwyth.
"Ma' fe i gyd yn dibynnu ar y diwydiant amaethyddol, y diwydiant milfeddygol ac ariannu, yn anffodus.
"O ran beth mae pobl eisiau gweld, yn sicr ma' fe'n bosib, ond o ran yr ochr ariannol, 'dan ni'n dal yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd."

Roedd Sharon King yn siarad ar raglen Beti a'i Phobol nos Sul 20 Medi
Cyn iddi ddechrau darlithio yn y pwnc, roedd gan Mrs King flynyddoedd o brofiad o weithio fel milfeddyg.
Fe astudiodd ym Mryste cyn gweithio yn Sir Benfro a Dolgellau, ac yn 2009 symudodd yn ôl i'w hardal enedigol yn Bow Street ger Aberystwyth.
Enillodd wobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain 2026 am gefnogi a mentora myfyrwyr a chydweithwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.