Brodyr gafodd lid yr ymennydd fisoedd ar wahân eisiau i fwy nabod symptomau

Cafodd Saul (chwith) a Drew Darlington yr haint o fewn blwyddyn i'w gilydd
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau tymor prifysgol newydd mae dau frawd wedi trafod eu profiadau o ddal llid yr ymenydd (meningitis) yn eu harddegau - a hynny ond fisoedd ar wahân.
17 oed oedd Saul Darlington o ardal Gresffordd ger Wrecsam, pan gafodd ei daro'n sydyn gan y cyflwr tra ar drip yng ngwersyll Glan-llyn yn y Bala.
"O'n i'n syrthio dros y lle, yn oer ac yn ffeindio hi'n anodd i symud", meddai Saul, sydd bellach yn 30 oed.
Pan ddychwelodd adref, sylwodd ei lysdad ar smotiau porffor ar ei groen ac fe alwodd ambiwlans ar unwaith.
Dim ond blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei frawd iau, Drew, ei daro gan yr un straen o'r cyflwr.
Er bod y ddau wedi gwella'n llawn, maen nhw'n ceisio codi ymwybyddiaeth o symptomau llid yr ymenydd i bobl ifanc, a hynny wrth i filoedd o fyfyrwyr ddechrau yn y brifysgol - yn aml yn byw ar eu pennau ei hunain am y tro cyntaf.
Beth yw llid yr ymennydd?

Mae llid yr ymennydd yn cael ei achosi gan facteria, feirysau a phathogenau - mae'r straeniau mwyaf cyffredin yn cynnwys mathau meningococaidd A, B, C, W, X ac Y.
Mae'n gallu effeithio ar unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, pobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc.
Mae'n gallu arwain at septisemia difrifol ac achosi niwed parhaol i'r ymennydd a'r nerfau.
Ond mae llawer o'r symptomau yn gallu ymddangos fel ffliw neu annwyd, gan gynnwys cur pen difrifol, tymheredd uchel a brech ar y corff - rhywbeth sy'n gyffredin iawn ymhlith myfyrwyr yn ystod wythnos y glas.
Gyda diagnosis cynnar a thriniaeth wrthfiotig, mae llawer yn gwella'n llawn.
'Rhaid actio'n syth'
Ar ôl ei brofiad personol, mae Saul yn pwysleisio pa mor bwysig ydy ymateb cyflym.
"Os mae dy lygaid yn brifo gyda golau, os mae dy gefn neu dy wddw'n brifo, neu os wyt ti'n gweld sbotiau porffor, mae'n rhaid actio'n syth," meddai.
Bron flwyddyn yn union ers i Saul gael ei daro'n wael, roedd Drew, 16 ar y pryd, yng nghanol arholiadau TGAU yn Ysgol Morgan Llwyd pan ddechreuodd ddatblygu symptomau.

Roedd Drew (dde), yma gyda'i frawd hŷn Joel, yn ymwybodol o symptomau'r haint yn dilyn salwch Saul
"Mae'n bwysig iawn checio popeth, yn enwedig rashes," meddai Drew, sydd erbyn hyn yn gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.
"Dwi'n cofio bod mewn gwers Saesneg, roeddwn yn teimlo'n oer iawn ac yn crynu trwy'r amser, felly es i adre'n sal o'r ysgol.
"Nes i gael cawod ond dal yn oer iawn ar ôl y gawod. Wedyn wnaeth mam fy ngweld a roedd hi'n gallu gweld bod rhywbeth ddim yn iawn.
"Roeddwn i'n gwybod am rai o'r symptomau gafodd Saul pan gafodd meningitis, felly roeddwn i'n edrych amdanyn nhw hefyd."
Gwelodd ei feddyg teulu, wnaeth ei anfon yn syth i'r ysbyty ar ôl datblygu brech ar ei gorff ac yn ei geg.
'Brechlyn yn achub bywydau' - rhieni myfyrwraig fu farw o lid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf
'Meddwl bod gen i'r ffliw, cyn colli breichiau a choesau i sepsis'
- Cyhoeddwyd16 Medi 2025
Bu farw dau o bobl yng Nghaint ym mis Mawrth pan gafwyd 21 achos o lid yr ymennydd ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc.
O ganlyniad cafodd rhaglen frechu ei lansio yn yr haf ar gyfer pobl ifanc oedd yn gadael ysgol a myfyrwyr prifysgol ac addysg uwch.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru cafodd 19,700 o bobl ifanc eu dos cyntaf drwy'r rhaglen, ac mae 14,459 hefyd wedi cael ail ddos, sy'n angenrheidiol wedi bwlch o bedair wythnos.
Cafodd clinigau eu trefnu mewn prifysgolion yn ystod wythnos y glas.

Dyw hi "ddim yn rhy hwyr i gael eich brechu" meddai Nia Ellis o Brifysgol Aberystwyth
Dywedodd Nia Ellis o Brifysgol Aberystwyth bod sawl clinig wedi'u cynnal yno i frechu myfyrwyr a rhoi cyngor am lid yr ymennydd ac iechyd yn ehangach.
Mae'n ymddangos bod mwy yn gwybod am lid yr ymennydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, meddai.
"Mae 'na lot o sylw wedi bod i'r straen Meningitis B oherwydd dyna beth oedd yn gyfrifol am y marwolaethau mewn sefydliadau eraill. Ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y nifer o fyfyrwyr sydd wedi dod i'r campws eisoes wedi cael eu brechu."
Ychwanegodd nad yw'n rhy hwyr i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf gael eu brechu.
"Un peth allan nhw wneud yw cysylltu â'n tîm lles ni fan hyn ar y campws a wnawn nhw rhoi gwybodaeth iddyn nhw.
"Fe fyddwn ni'n cynnig clinigau brechu ychwanegol yn ystod y flwyddyn academaidd, ac fe ddylai pob myfyriwr gofrestru gyda meddyg teulu yn Aberystwyth. Ond bendant, ddim yn rhy hwyr i gael eich brechu."

Dywedodd Gwenno Roberts fod undeb UMCA ar gael i gefnogi a chynghori unrhyw fyfyrwyr sydd â phryderon
Yn ôl arbenigwyr iechyd mae myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn wynebu risg sydd saith gwaith yn uwch na phobl ifanc o oedran tebyg sydd ddim yn mynd i brifysgol.
Dywedodd Gwenno Roberts, llywydd undeb myfyrwyr UMCA, fod llawer o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf i leddfu unrhyw bryderon.
"Mae'n amlwg fod rhai pobl yn pryderu am y peth gan eu bod nhw'n symud i dref newydd, bywyd newydd mewn ffordd wrth ddod i'r brifysgol, mae na lot o ofidiau.
"Ond dwi'n credu bod negeseuon cyn dod i'r brifysgol wedi lleddfu meddwl pobl, bod nhw'n gwybod bod brechiadau ar gael iddyn nhw a bod nhw'n gallu cofrestru yn hawdd gyda meddygfa teulu yma er mwyn cael eu brechu."
'Pwysig iawn bod pobl yn dysgu amdano'

Hoffai Saul weld mwy o bethau "dydd i ddydd" i ledaenu'r neges am lid yr ymennydd
Mae Saul a Drew Darlington wedi gwella a dy'n nhw ddim yn dangos effeithiau hirdymor llid yr ymenydd. Ond mae'r ddau wedi cael diagnosis o gyflwr genetig prin - diffyg properdin.
Mae'n golygu bod y ddau yn fwy tebygol o ddal heintiau bacteriol difrifol fel llid yr ymenydd, ac felly maen nhw'n cymryd meddyginiaeth i leihau'r peryg hwnnw.
Er bod gwybodaeth ar gael a mwy o sylw i lid yr ymennydd yr haf hwn, mae'r ddau yn credu nad oes digon o addysg ffurfiol mewn ysgolion na cholegau.
"Dwi ddim yn meddwl bod digon o bethau i bobl weld o ddydd i ddydd," meddai Saul.
"Mae'n effeithio pobl ifanc yn sylweddol, felly mae'n bwysig cael y neges allan yn gynnar... mae'n bwysig iawn bod pobl yn dysgu amdano fo ac yn gwybod beth i edrych amdano.
"Ond does ddim llawer o amser i actio efo meningitis."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.