Cannoedd o lyffantod wedi marw ar ôl i gwmni dŵr wagio cronfa

Roedd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith yn gartref bridio i oddeutu 1,500 o llyffantod
- Cyhoeddwyd
Mae cadwraethwyr sydd wedi helpu miloedd o lyffantod gyrraedd eu man bridio mewn cronfa ddŵr ger Wrecsam yn dweud eu bod wedi marw ar ôl i'r dŵr gael ei wagio gan gwmni dŵr.
Cafodd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith yn ardal Llandegla ei gwagio gan gwmni Hafren Dyfrdwy, a ddywedodd eu bod yn gwneud gwaith diogelwch hanfodol.
Dywedodd aelodau o'r grŵp Batrôl Llyffantod Wrecsam y byddai'r llyffantod wedi gadael y safle mewn ychydig wythnosau ar ddiwedd y tymor bridio.
Maen nhw'n dweud bod colli'r llyffantod a'u hwyau yn "drychineb" a bod "ecosystem gyfan" wedi'i difetha.
'O'n i mewn dagrau'
Bob blwyddyn, mae gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser i helpu llyffantod groesi ffordd yr A525 brysur o'u cynefin i'w man bridio traddodiadol yn y gronfa ddŵr.
Mae'r broses yn golygu aros tan mae'n dechrau tywyllu a defnyddio bwced i godi'r llyffantod a'u gosod ochr arall y ffordd.
Mae'n waith "hanfodol" yn ôl Hywel Wyn Griffiths, sy'n un o'r rhai sy'n helpu.
"Ni'n dod yma i helpu'r llyffantod fel bod nhw ddim yn cael eu lladd achos mae yna lawer yn cael eu lladd ac ma' rhifau nhw wedi bod lawr," meddai Mr Griffiths.
Eleni oedd un o'u blynyddoedd mwyaf llwyddiannus wrth i'r gwirfoddolwyr helpu bron i 1,500 croesi'r ffordd - bedair gwaith yn fwy na'r llynedd.
Ond, yn ôl Mr Griffiths, mae'r gwaith caled hynny wedi ei ddifetha ar ôl i'r cwmni dŵr wagio'r llyn.
"Mae o wedi lladd pob un o'r llyffantod, does dim un ar ôl," meddai.
"Roedd y lle yn orlawn yma gyda nhw a'u hwyau a phopeth yn mynd yn dda, ond nawr maen nhw wedi dinistrio fo."

Mae Hywel Griffiths yn un o'r gwirfoddolwyr sy'n helpu llyffantod i groesi'r ffordd brysur rhwng eu cynefin a'r gronfa ddŵr
Disgrifiodd Teri Davies, un o aelodau Grŵp Patrôl Llyffantod Wrecsam, y sefyllfa fel un "hynod siomedig".
"Daeth y newyddion gan ffrind oedd wedi gyrru heibio bod y dŵr yn isel," meddai Teri.
"Es i lawr yno ac roedd y dŵr wedi diflannu a'r llyffantod hefyd.
"O'n i mewn dagrau, yr holl waith o helpu nhw ac roedd dim ar ôl."
Yn ôl gwaith ymchwil gan elusen gadwraeth Froglife y llynedd mae nifer y llyffantod cyffredin yn y DU wedi gostwng 41% yn y 40 mlynedd diwethaf.

Gweddillion grifft llyffant ar ôl i'r dŵr gael ei ddraenio o'r gronfa
Cafodd cronfa ddŵr Nant-y-Ffrith ei chreu gan Gwmni Dŵr Brymbo yn 1871 er mwyn cyflenwi dŵr i bentrefi i'r gorllewin o Wrecsam.
Mae'r ardal yn bwysig i adar, gan gynnwys cornchwiglod, ac mae cadwraethwyr yn pryderu bod eu cynefin nhw wedi cael ei amharu hefyd.
"Nid y llyffantod yn unig sy'n cael eu heffeithio yma ond yr ecosystem gyfan," meddai Becky Wiseman, gwirfoddolwr arall.
"Mae gan bopeth eu lle ac mae'r llyffantod yn chwarae rhan hanfodol yn hynny.
"Mae'r rhain yn anifeiliaid prin sy'n cael eu gwarchod am reswm."
Ychwanegodd: "Mae'n drychinebus bod hyn wedi digwydd, maen nhw wedi difetha ecosystem gyfan, ac mae angen rhyw fath o atebolrwydd i'r rhai sy'n gyfrifol."

Mae Becky, Ella a Teri yn rhan o Grŵp Batrôl Llyffantod Wrecsam
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dŵr Hafren Dyfrdwy eu bod yn deall pa mor "bryderus yw'r sefyllfa hon i'r gymuned leol", gan ychwanegu: "Mae'r gwaith yn Nant-y-Ffrith yn hanfodol i sicrhau bod y gronfa ddŵr bwysig hon yn parhau'n ddiogel nawr ac yn y dyfodol, ac yn bodloni gofynion diogelwch llym."
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "adolygu beth sydd wedi digwydd ar hyn o bryd gyda'n hecolegwyr ar y safle."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill

- Cyhoeddwyd2 Ebrill

- Cyhoeddwyd12 Mawrth
