Yr Arweinwyr: Darren Millar
- Cyhoeddwyd
Wrth i etholiad Senedd Cymru agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad? Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Os ydi Darren Millar am ychwanegu hiwmor a jôcs mewn araith wleidyddol, efallai y bydd yn gofyn am gyngor ei gyd-awdur sgetsys comedi, y Parchedig Ganon Tim Rowlands.
Mae'r ddau wedi bod yn ffrindiau da ers eu harddegau pan oedd awgrym bod dyfodol tu hwnt i wleidyddiaeth yn galw.
"Roedden ni'n gwneud yr holl stwff arferol mae pobl ifanc yn gwneud yn eu hwyr arddegau," meddai'r Parch Tim Rowlands wrth Cymru Fyw.
"Wnaethon ni droi ein llaw at sgwennu comedi... roedden ni'n meddwl fydde ganddon ni ddyfodol disglair yn y maes!
"Roedd ganddon ni ddiddordeb tebyg mewn cerddoriaeth hefyd - roedd Darren bob tro'n hoffi Queen ac Elton John. Dwi'n meddwl bod o'n reit dda am ganu.
"Mae o'n gymeriad bywiog, brwdfrydig a jest yn gyfeillgar iawn. Mae o bob tro wedi bod dipyn o gymeriad."
Ffydd ddaeth a'r ddau at ei gilydd.
Fe wnaethon nhw gyfarfod yn yr eglwys yn Nhowyn ar ddechrau'r 1990au, lle'r oedd tad y Parch Rowlands yn weinidog, a Darren Millar yn aelod.
Roedd y gwleidydd wedi cael yr hyn mae o'n ei ddisgrifio fel "deffroad ysbrydol" a byth ers hynny mae ei Gristnogaeth wedi bod yn rhan ganolog o'i fywyd ac mae o'n dal yn weithgar gyda'r Festival Church, Towyn.
Yr Arweinwyr: Dan Thomas
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Yr Arweinwyr: Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
Yr Arweinwyr: Jane Dodds
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Yr Arweinwyr: Eluned Morgan
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
Yr Arweinwyr: Anthony Slaughter
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

Darren Millar yn cyfarfod y Pab Francis
Dywedodd y Parch Rowlands, sydd bellach yn bennaeth ar yr Evangelical Alliance yng Nghymru: "Mae ei ffydd yn dylanwadu arno - bod angen gwneud y peth iawn, i garu dy gymydog, a'r syniad o gyfiawnder i bawb.
"Mae'r rhain i gyd yn reit bwysig iddo ym mhopeth mae o'n ei wneud."
Fe gafodd Darren Millar ei eni yn 1976 a'i fagu yn Nhowyn, ar arfordir Gogledd Cymru, mewn teulu dosbarth gweithiol oedd yn pleidleisio dros y Blaid Lafur.
Tra'n ddisgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, fe wnaeth ymddiswyddiad dramatig Margaret Thatcher fel Prif Weinidog yn 1990 a'r Etholiad Cyffredinol wnaeth ddilyn ennyn ei ddiddordeb.

Darren ar y dde, gyda'i frawd bach Paul
Darllenodd faniffesto pob plaid wleidyddol a dod i'r casgliad mai gwerthoedd Ceidwadol oedd gan ei deulu. Felly fe ymunodd gyda'r blaid a dechrau ymgyrchu dros eu hymgeisydd, Rod Richards.
Un sy'n ei gofio yn ystod y cyfnod yma ydi ei gyn-athrawes daearyddiaeth Janet Davies.
Mae ganddi atgofion o brosiect lle'r oedd yn rhaid i'r disgyblion fod o blaid neu yn erbyn datblygiad yn yr ardal a dangos sgiliau mewn dadlau a dwyn perswâd.
"Fyddai Darren yn taflu ei hun i mewn i'r math yna o beth ac efo gwir ddiddordeb," meddai'r gyn-athrawes, sy'n byw yn Abergele, o fewn etholaeth ei chyn-ddisgybl.
"Roeddech chi'n gweld yr ochr yna o'r gwleidydd ynddo fo. Mae rhai pobl yn rhy swil i wneud rhywbeth fel yna, a rhai eraill yn rhy llawn o'u hunain - ond roedd o yn y canol - happy medium.
"Roedd o'n eithaf aeddfed yn ei agwedd ac efo synnwyr da o be' sy'n iawn a be' sydd ddim yn iawn ac roedd o'n dda iawn am ddatrys problemau."

Maer ieuengaf Cymru ar y pryd - Darren Millar ar ddechrau ei yrfa gwleidyddol gyda'i nain, Mary Hogan
Yn fuan wedyn daeth y disgybl ifanc yn gadeirydd ar gangen Ceidwadwyr Ifanc Gogledd Orllewin Clwyd ac mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd ym myd gwleidyddol ei ardal ers hynny.
Yn 1999 fe gafodd ei ethol ar Gyngor Tref Towyn a Bae Cinmel, a'r flwyddyn ganlynol daeth yn Faer - yr ieuengaf yng Nghymru - cyn iddo gael ei ethol yn gynghorydd Sir.
Bu'n gweithio fel clerc i gwmni cyfrifwyr yn y Rhyl cyn dod yn gyfrifydd yn y diwydiant adeiladu a chartrefi gofal. Gweithiodd hefyd i'r elusen ryngwladol Open Doors, sy'n cefnogi Cristnogion sy'n cael eu herlid.
Ar ôl methu cael ei ethol i Fae Caerdydd yn 2003, yn 2007 fe gipiodd Gorllewin Clwyd oddi ar Alun Pugh o'r Blaid Lafur, yr unig Weinidog Cabinet yn Llywodraeth y Cynulliad i golli sedd. Mae Mr Millar wedi cael ei ail-ethol tair gwaith ers hynny.

Fe wnaeth y gwleidydd briodi ei wraig Rebekah fis Rhagfyr 1998. Mae ganddyn nhw ddau o blant, Toby a Mary
Trwy'r cyfnod mae wedi aros yn ei gymuned ac yn dal i fyw yn yr ardal lle fagwyd o, ym Mae Cinmel, gyda'i wraig Rebekah a'u dau o blant.
Eu gwas priodas oedd y Parch Rowlands (a'r gwleidydd oedd ei was priodas yntau hefyd) a bu'r ffrind yn rheoli swyddfa'r etholaeth iddo rhwng 2007-2020.
Mae'n dweud bod gwreiddiau dwfn y Ceidwadwr yn ei gymuned a'i ymdeimlad o'i ddyletswydd i wasanaethu ei gymuned wedi bod yn fantais o dan hen system pleidleisio etholiadau'r Senedd.
O dan y drefn honno roedd gan yr etholwyr ddwy bleidlais - un i blaid er mwyn cynrychioli'r rhanbarth ac un i unigolyn fyddai'n cynrychioli'r etholaeth. O fis Mai ymlaen fe fydd etholwyr yn pleidleisio i'r blaid a'u rhestr o ymgeiswyr - ac nid i unigolyn penodol.

Gydag enw fel Blue, mae'n siwr y byddai ci Darren Millar yn rhoi ei groes ym mlwch y Ceidwadwyr petai ganddo bleidlais
Meddai'r Parch Rowlands, sydd hefyd yn frawd i Aelod Senedd y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru Sam Rowlands: "Mae Darren yn caru ble mae o [yn byw]. Dwi'm yn siŵr os fyddai o wedi mynd fewn i wleidyddiaeth os fyddai o methu cynrychioli rhywle sy'n agos i le mae o'n byw a bod yn onest.
"Dyna sy'n ddifyr am y system etholiadol newydd i'r Senedd. Roedd o'n hoffi'r ffaith ei fod o'n atebol yn uniongyrchol i'w etholwyr.
"Byddai pobl yn cael eu denu ato fo fel person, beth bynnag oedd eu gwleidyddiaeth nhw, ac roedd yr hen system yn helpu hynny.
"Fyddai pobl sicr yn rhoi un bleidlais i'w plaid efo'u pleidlais rhanbarth, ond yn rhoi pleidlais bersonol yn yr etholaeth."

Darren Millar yn mynd i fwrw pleidlais tyngydfenol yn erbyn cyllideb ddrafft Llafur wedi iddo dorri ei ffer yn 2011
Yn ystod ei gyfnod yn y Senedd mae Darren Millar wedi derbyn nifer o gyfrifoldebau ar y fainc flaen gan gynnwys y Brif Chwip, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, a Chadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Ers 2016, mae o wedi bod yn "bencampwr rhywogaethau" y Senedd ar gyfer wiwerod coch.
Tu allan i Fae Caerdydd bu'n gweithio mewn rôl rheoli gyda'r Pocket Testament League UK ac yn llywydd a chadeirydd elusen Gristnogol, Sefydliad Evan Roberts - wnaeth arwain at benawdau anffafriol yn sgil cysylltiad ariannol yr elusen gyda gweinidog dadleuol.

Darren Millar ac arweinydd y Ceidwadwyr Kemi Badenoch yn cyfarfod busnesau gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ym Nhrefynwy yn 2025
Tydi ei daith i'r arweinyddiaeth heb fod yn ddi-rwystr chwaith. Ar ddiwedd 2020 roedd yn rhaid iddo adael y fainc flaen dros dro ar ôl iddo fo a thri aelod arall o'r Senedd gael eu gweld yn yfed ar safle Senedd Cymru, yn groes i reolau Covid y cyfnod.
Yn ddiweddarach daeth ymchwiliad i'r casgliad nad oedd yr aelodau dan sylw wedi torri cod ymddygiad y Senedd, rheolau Covid nac unrhyw gyfraith arall.
Ond bedair blynedd yn ddiweddarach, yn dilyn anniddigrwydd gydag arweinyddiaeth Andrew RT Davies o Geidwadwyr Cymru a'i sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol - daeth Darren Millar yn arweinydd yn ddiwrthwynebiad, oedd meddai yn "anrhydedd oes".
Wrth iddo geisio gael ei ethol am y bedwaredd gwaith i Fae Caerdydd, a lansio maniffesto mae'n obeithio wnaiff arwain ato'n dod yn Brif Weinidog Cymru, does 'na'm syndod gan ei gyfaill y Parch Rowlands mai gwleidydd ydi Darren Millar yn hytrach na sgriptiwr, canwr, neu unrhyw swydd arall.
Meddai: "Na, na - dim syndod. A bod yn onest roedd o bob amser yn teimlo mai dyna oedd ei lwybr o."
Dewiswyd trefn cyhoeddi y darnau proffil ar hap - mi fydd yna erthyglau tebyg am arweinwyr pob un o'r brif pleidiau yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a 10 Ebrill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth

- Cyhoeddwyd2 Mawrth

- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
