Disgwyl ethol Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru yn fuan

Rhun ap Iorwerth yn gwenu gyda chefnogwyr a chyd-Asau Plaid Cymru o'i amgylch ar risiau adeilad y Senedd ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai Rhun ap Iorwerth gael ei ethol yn Brif Weinidog yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Gymru gael ei harwain gan Rhun ap Iorwerth, ar ôl i dair o bleidiau'r Senedd awgrymu y gwnawn nhw naill ai ei gefnogi, neu atal eu pleidlais.

Ef fyddai'r Prif Weinidog cyntaf erioed o Blaid Cymru, a gallai gael ei ethol yr wythnos hon wrth i'r Senedd newydd gyfarfod am y tro cyntaf.

Bydd cyfarfod llawn cyntaf y Senedd ers yr etholiad yn digwydd ddydd Mawrth, ond mae hi'n bosib na chaiff Rhun ap Iorwerth ei gadarnhau fel Prif Weinidog tan ddydd Mercher.

Yn gyntaf bydd aelodau'r Senedd yn ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd.

Gallai ethol y Prif Weinidog gael ei wthio ymlaen i ddydd Mercher os na all y Senedd benderfynu ar sut i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd yn eu cyfarfod cyntaf.

Mae'r rheolau yn nodi y dylai un o'r swyddi llywyddol gael ei llenwi gan rhywun o'r llywodraeth a'r llall gan yr wrthblaid, oni bai bod dwy ran o dair o'r Senedd yn cytuno i hepgor y rheol.

Mae BBC Cymru yn deall bod Reform UK wedi dweud wrth Plaid Cymru na fydden nhw'n cytuno i wneud hynny.

Ond mae Plaid Cymru yn dweud y gallai enwebu Dirprwy Lywydd, allai yn ei dro weld Rhun ap Iorwerth yn cael ei gadarnhau'n brif weinidog ddydd Mawrth.

Dan Thomas yn cael ei holi ar gamera yn syth ar ôl cael ei ethol i'r SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd ASau Reform yn enwebu eu harweinydd nhw, Dan Thomas, i fod yn Brif Weinidog ond dyw'r rhifau yn y siambr ddim o'u plaid

O ran ethol Prif Weinidog mae arweinydd dros dro Llafur, Ken Skates, wedi awgrymu y byddai ei grŵp yn atal eu pleidlais.

Mae unig aelod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn y Senedd, Jane Dodds, hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu atal ei phleidlais hithau.

Ond fe fydd y Blaid Werdd yn cefnogi Rhun ap Iorwerth, sy'n golygu nad oes gan y pleidiau eraill y rhifau i rwystro'i enwebiad.

'Profiad hir a dwfn'

Mae Reform wedi dweud y bydden nhw'n enwebu eu harweinydd nhw, Dan Thomas.

Fe fydd y Ceidwadwyr yn penderfynu beth yw eu cynlluniau nhw mewn cyfarfod yn ystod y dydd - beth bynnag wnawn nhw does ganddyn nhw ddim y rhifau i rwystro Plaid Cymru.

Ond cyn y bleidlais dyngedfennol, mae'n rhaid i'r Senedd ethol Llywydd newydd.

Mae Paul Davies o'r Ceidwadwyr wedi dweud ei fod eisiau ymgymryd â'r rôl.

Mae Aelod Llafur Huw Irranca-Davies hefyd wedi cadarnhau ei fod wedi cynnig ei enw i olynu Elin Jones fel Llywydd.

Dywedodd y cyn-ddirprwy Brif Weinidog fod ei "brofiad hir a dwfn" yn y Senedd ac yn San Steffan wedi "rhoi iddo yr ystod o sgiliau a'r gallu i ymgymryd â'r swydd bwysig".

Fe rybuddiodd Rhun ap Iorwerth ddydd Sul ei fod yn barod i 'fynd â'r frwydr' at Lywodraeth y DU a'u dwyn i gyfrif os nad ydyn nhw'n "gwneud y peth cywir dros Gymru"

Beth bynnag y trefniadau a'r cyffro ym Mae Caerdydd wrth i Blaid Cymru baratoi i ffurfio llywodraeth leiafrifol, gwella'r gwasanaeth iechyd yw'r prif flaenoriaeth i lawer o etholwyr.

Daeth hynny'n amlwg wrth holi pobl ym Mhwllheli, waeth pa blaid gafodd eu cefnogaeth yn yr etholiad ddydd Iau diwethaf.

Valerie Griffiths yn cael ei holi am ganlyniad etholiad y Senedd
Rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1207/10/5
Disgrifiad o’r llun,

Fel un a bleidleisiodd dros Blaid Cymru, roedd canlyniad yr etholiad "yn dda iawn", medd Valerie Griffiths, ond mae hi eisiau mwy o gefnogaeth i'r GIG ac i fusnesau er mwyn "helpu i gadw siopa' i fynd" achos "mae'n reit ddistaw 'di mynd" yn rhannau o Bwllheli

Merfyn Roberts yn cael ei holi am ganlyniadau'r etholiad ym Mhwllheli ddydd Sul (Rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1229/10/5)
Disgrifiad o’r llun,

Reform gafodd pleidlais Merfyn Roberts, sy'n teimlo bod angen i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd a "sortio pobl sydd ar benefits"

Gerallt Wyn Griffiths yn cael ei holi ym Mhwllheli ddydd Sul am ganlyniad yr etholiad - rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1204/10/5
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad, mae Gerallt Wyn Griffiths hefyd eisiau blaenoriaethu gwasanaethau ysbyty a "rhoi mwy o arian iddyn nhw - stopio'r waiting lists 'ma"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.