Lluniau: Canlyniadau Etholiad 2026

- Cyhoeddwyd
O Gaergybi i Gaerdydd, roedd y canolfannau cyfrif yn berwi gyda chyffro ar gyfer yr etholiad fwyaf arwyddocaol yn hanes Senedd Cymru hyd yma.
Dyma rai o'r golygfeydd o amgylch Cymru.

Bocs o ffurflenni pleidleisio'n cael ei wagio ar fwrdd yng nghanolfan cyfrif Llandysul

Gweithiwr yn cael trefn ar y ffurflenni yng Nghasnewydd

Cefnogwyr Reform yn disgwyl am ganlyniad yn y Velodrome, Casnewydd

Aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn edrych ar cyfri yng Nghasnewydd

Ymgeiswyr yn ymgasglu ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni gan aros yn eiddgar am y canlyniad cyntaf

Un wyneb allai fod yn gyfarwydd i rhai o wylwyr Gogglebox Cymru oedd yn ymgeisydd Llafur ym Mhrycheiniog Tawe Nedd, Elliot Wigfall.

Cyfri'r pleidleisiau yn Ysgol Bro Teifi, Ceredigion

Rhai o'r bocsys efo pleidleisiau yn cael eu sortio yn Venue Cymru, Llandudno

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn cofleidio cefnogwr wrth gyrraedd y ganolfan pleidleisio yn Llandudno

Dan Thomas yn hapus i fyd yn y cyfri. Roedd ar frig y rhestr i Reform UK yng Nghasnewydd Islwyn

Anthony Slaughter, arweinnydd y Blaid Werdd yng Nghymru. Enillodd y blaid ddwy sedd yn yr etholiad - y tro cyntaf iddynt gael gynrychiolaeth yn y Senedd

Jane Dodds; yr unig gynrychiolydd fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd yn y tymor newydd

Darren Miller, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, a gafodd ei ail-ethol

Arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Eluned Morgan, yn gwrando ar y canlyniadau yng Ngheredigion Penfro

Eluned Morgan yn cael ei holi wedi iddi golli ei sedd

Rhun ap Iorwerth yn cofleidio ei wraig, Llinos

Rhun ap Iorwerth gyda'i dad, Edward Morus Jones
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
