Derbyn Fishlock a Coleman i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru

Cafodd Mickey Thomas, Alan Curtis, Chris Coleman a Brian Flynn i gyd eu derbyn i'r Oriel Anfarwolion nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten pêl-droed Cymru, Jess Fishlock a rheolwr tîm y dynion yn ystod ymgyrch bythgofiadwy Euro 2016, Chris Coleman ymhlith y rhai sydd wedi eu derbyn i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Mae Fishlock - sydd wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol (165), ac wedi sgorio mwy o goliau (48) nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru - wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o'r gamp ar ddiwedd y tymor.
Mae hi'n cael ei chydnabod fel y chwaraewr gorau yn hanes tîm menywod Cymru.
Wrth gyflwyno'r wobr i Fisholck, oedd methu bod yno ar y noson, dywedodd Is-Lywydd UEFA Laura McAllister "nad oes geiriau i ddisgrifio Jess, mae hi wedi ennill ymhobman y mae hi wedi mynd, mae hi'n fodel rôl a hi yw'n chwaraewr gorau erioed".

Fe fydd Fishlock yn ymuno â thîm hyfforddi Rhian Wilkinson ar ôl ymddeol ym mis Tachwedd
Dyw'r Oriel Anfarwolion ddim fel arfer yn derbyn pobl cyn iddyn nhw ymddeol, ond drwy anrhydeddu Fishlock fe aethon nhw'n groes i'r arfer hynny.
Joe Calzaghe yw'r unig athletwr arall i gael ei dderbyn cyn ymddeol.
Mae Fishlock, 39, yn dal i chwarae i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau a dyna pam yr oedd rhaid iddi ymateb i dderbyn y wobr drwy neges fideo.
Dywedodd fod cael ei derbyn yn "anrhydedd enfawr" gan ychwanegu mai cyrraedd Euro 2025 gyda Chymru oedd uchafbwynt ei gyrfa.

Cafodd Nia Jones (chwith), a chwaraeodd bêl-rwyd a phêl-droed i Gymru, ei hanrhydeddu ar y noson hefyd
Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Iau, cafodd nifer o enwau cyfarwydd eu derbyn i'r Oriel Anfarwolion.
Roedd y rhain yn cynnwys cyn-ymosodwr Abertawe, Alan Curtis, cyn-reolwr tîm dan-21 Cymru, Brian Flynn, cyn-asgellwr Cymru, Mickey Thomas yn ogystal â'r diweddar Dai Davies, Leighton James a Joey Jones.
Cafodd gwobr Jones ei dderbyn ar y noson gan ei ffrind agos, Mickey Thomas.
Roedd Chris Coleman yn enw amlwg arall gafodd ei anrhydeddu am ei waith wrth arwain Cymru i Euro 2016.
Yn gyn-amddiffynnwr i Gymru gyda 32 o gapiau, fe gododd Cymru o safle 117 yn rhestr detholion Fifa i'r wythfed safle dan ei arweinyddiaeth.
Derbyn gwobr yn 'dipyn o sioc' i Ian Gwyn Hughes
Cafodd Ian Gwyn Hughes ei anrhydeddu nos Iau hefyd, a hynny am ei waith yn y cyfryngau, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac am hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast dywedodd fod derbyn y wobr yn gwbl annisgwyl.
"O'n i wedi mynd fyny i gyhoeddi ein bod ni'n lansio yn swyddogol Cymdeithas Cyn-chwaraewyr Rhyngwladol i'r dynion a'r merched, a wnaethon nhw ofyn i fi aros ar y llwyfan cyn cyflwyno hwn i fi," meddai.
"Mi oedd o'n dipyn o sioc, ond mi oedd 'na falchder achos o'n i'n nghanol 'stafell gyda llawer o bobl o'n i'n cydweithio gyda nhw yn y BBC, wedi sylwebu gyda nhw, wedi sylwebu arnyn nhw, wedi rhannu profiadau gwych gyda nhw a llawer hefyd o'r gymdeithas bêl-droed, pobl o'n i wedi tyfu fyny efo a hefyd o'n i'n parchu felly oedd hi'n braf cael yr anrhydedd a bod yn eu canol nhw."
Ychwanegodd fod y pwyslais sydd wedi cael ei roi ar y Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel pennaeth cyfathrebu'r gymdeithas wedi bod yn ddatblygiad naturiol.
"'Dan ni'm yn gwthio dim ar ein chwaraewyr a'n hyfforddwyr, mae o'n rhan naturiol o'r hyn dan ni'n ei wneud.
"Mae hanes, iaith, diwylliant, popeth - 'dan ni'n gweld o fel un peth gyda'i gilydd.
"Mae o'i gyd yn rhan o bwy ydyn ni wedi bod yn y gorffennol a pwy fysan ni'n licio bod yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi

- Cyhoeddwyd9 Hydref

- Cyhoeddwyd5 Hydref
