Menywod Morgannwg yn bencampwyr Adran 2 y Vitality Blast

Bethan Gammon yn dathlu cipio un o wicedau Sir GaerloywFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Gammon yn dathlu cipio un o wicedau Sir Gaerloyw wrth i Forgannwg eu trechu yng Ngerddi Sophia ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Tîm criced merched Morgannwg yw pencampwyr Adran 2 cynghrair y Vitality Blast ar ôl trechu Sir Gaerloyw yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Ar ôl galw'n gywir a dewis i fatio'n gyntaf yng Ngherddi Sophia, fe sgoriodd Morgannwg 154 o rediadau am chwe wiced mewn 20 pelawd.

Bethan Gammon, (67 o rediadau) a Megan Sturge (36) oedd y prif sgorwyr wrth osod targed o 155 i'r gwrthwynebwyr.

Ond 17 pelawd o'r 20 yn unig oedd ei angen i gael chwaraewyr yr ymwelwyr allan i gyd gyda sgôr o 122 , sef 32 o rediadau'n brin o'r nod.

Dyma'r tlws cyntaf yn hanes y tîm merched - cam y mae'r clwb yn ei ddisgrifio fel "y man cychwyn perffaith wrth i ni anelu at fod yn dîm proffesiynol y flwyddyn nesaf".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig