'Ofnadwy o falch i fod y Cymro ieuengaf i nofio'r Sianel'

Roedd Owen yn codi arian er mwyn gallu "rhoi rhywbeth yn ôl" i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 17 oed o'r Felinheli yn dweud ei fod o "dal ddim cweit yn gallu coelio" ei fod bellach yn un o'r Cymry ieuengaf i nofio'r Sianel erioed.
Ddydd Llun, 14 Medi fe wnaeth Owen 'Owi' Williams gwblhau'r daith o dde Lloegr i Ffrainc mewn 10 awr a 45 munud.
Roedd yn codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl - a hynny gan ei fod yn byw gyda chyflwr haemoffilia ac wedi derbyn gofal a chefnogaeth ganddynt dros y blynyddoedd.
Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod yn "ofnadwy o falch" o fod wedi cwblhau'r her, ac yn "hapus iawn" i allu "rhoi rhywbeth yn ôl" i'r ysbyty.
Mae'n sicr bod Owen ymhlith y bobl ieuengaf i gwblhau'r her, ond mae ei deulu yn credu mai fo ydy'r Cymro ieuengaf erioed i wneud hynny.
Nofio'r Sianel i brofi bod posib 'bownsio nôl' wedi iselder
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2025
Nofio’r Sianel: ‘Profiad gorau ac anoddaf fy mywyd’
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
Medal arian i Gymraes ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd
- Cyhoeddwyd22 Medi 2025
Mae Owen yn nofiwr llwyddiannus a phrofiadol am ei oed, sy'n canolbwyntio yn bennaf ar nofio'n gystadleuol yn y pwll.
Ond mae nofio'r Sianel rhwng Lloegr a Ffrainc yn rhywbeth sydd "wastad wedi bod ar y radar".
"Nofio'r sianel ydi'r Everest o nofio dŵr agored... mi oedd mêt fi wedi 'neud o flwyddyn ddiwethaf, a dyma fi'n meddwl 'mae hi'n amser i fi 'neud o'."
Ychydig dros 3,000 o bobl sydd erioed wedi llwyddo i gyflawni'r her, ac mae hanner y bobl sy'n rhoi cynnig arni yn methu cyrraedd y pen.

Dechreuodd Owen nofio am 01:30 fore Llun
Dechreuodd yr her am 01:30 fore Llun, a hynny ar ôl cael 24 awr o rybudd gan y cwmni oedd yn mesur a sicrhau diogelwch y daith.
"O'dd raid i fi neidio oddi ar y cwch a nofio at lan y môr, dod allan o'r dŵr yn gyfan gwbl, wedyn 'sa nhw'n canu corn a dangos goleuadau fel arwydd i fi ddechrau.
"O'dd y tywydd ddim yn grêt, o'dda nhw 'di rhybuddio 'sa hi bach yn rough yn yr hanner cynta' efo tonnau a ballu, ond fel arall oedd hi d'eud gwir.
"Felly o'n i'n meddwl 'reit, ai'n galed drwy'r darn rough, ond nes i gyrraedd hanner ffordd ar pace world record!"
Esboniodd fod yr amgylchiadau yn fwy heriol yn yr ail hanner a'i fod yn mynd trwy gyfnodau o amau ei hun.
"Mi oedd 'na feddylia ar y cychwyn, dwi'm yn gwybod os dwi am allu neud hyn', ond ti'n gorfod gwthio drwy hynny."
Roedd teulu Owen yn ei helpu drwy basio bwyd a diod iddo - dyma fo yn ceisio dal ei afael ar Jelly Babies wrth agosáu at ddiwedd yr her
Wrth iddo agosáu at arfordir Ffrainc, eglurodd fod rhaid iddo ddringo allan o'r dŵr yn gyfan gwbl er mwyn cwblhau'r her yn swyddogol.
"O'dd y dŵr yn rough iawn a ges i fy bashio gwmpas d'eud gwir," meddai.
Ond roedd cyrraedd y lan yn gymysgedd o falchder a rhyddhad.
"O'n i llawn adrenalin i'r pwynt lle o'n i'n numb. Ond o'n i'n gwybod bo' fi'n teimlo'n hapus, a dydw i dal methu coelilo'r peth yn iawn dwi'm yn meddwl."
Yr un her olaf iddo oedd gorfod nofio yn ôl allan at y cwch cefnogi er mwyn teithio adref gyda'i deulu.

Mae Owen yn dweud ei fod yn gobeithio gwneud y daith eto rhyw ddydd er mwyn sicrhau amser cyflymach
Roedd rhieni a chwaer Owen yn teithio gyda'r criw cefnogi ar hyd y daith, ond mae'n debyg bod dechrau'r her yn anoddach i'r criw nac Owen!
"Oherwydd y tywydd mi oedd Martha a fi yn teimlo'n ddiawledig o sâl môr, 'sa well gen i fod wedi bod yn y dŵr, ond fel iddi wawrio o'dd petha'n gwella," meddai Miriam, mam Owen.
Roedd y teulu yn helpu drwy gynnig geiriau o gefnogaeth a helpu gyda phasio bwyd a diod i'w gynnal drwy'r bron i 11 awr o nofio.
"O'dda ni'n neud y feeds drwy hongian dros yr ochr achos doedd o ddim yn cael cyffwrdd y cwch ar unrhyw adeg... mi o'dd 'na gyfleoedd i siarad - ond weithiau o'dd o'n sbio nôl ag o' ti'n gallu dweud bo' ni'n mynd ar ei nerfau o!"
"Ond mi oedd o'n deimlad mor emosiynol ar y diwedd, o'n i mor falch drosto fo - o'dd hi'n anodd gwylio ar adegau pan o'dd o'n strugglo, ond dwi'n gwybod pa mor benderfynol ydi o."

Owen yn dal fyny ar gwsg haeddiannol ar y daith yn ôl o Ffrainc
Yn ogystal â phrofi iddo'i hun ei fod yn gallu cwblhau'r gamp, roedd codi arian i Ysbyty Alder Hey yn rhan bwysig o'r cyfan.
Esboniodd Miriam fod gan Owen haemoffilia cymedrol a'i fod wedi llwyddo i fyw bywyd cyffredin ar y cyfan.
"Mae Ows yn gorfod injectio unwaith neu ddwywaith yr wythnos, ond mae o'n gwneud hynny i gyd ei hun."
Awgrymodd fod nofio ymhlith y campau gorau fyddai Owen wedi gallu ei ddewis o ran rhoi tawelwch meddwl i'w rieni: "Mae o reit low impact o'i gymharu efo chwaraeon eraill... dwi'n falch fod o ddim wedi dewis MMA!"
"Mae'r criw yn Alder Hey wedi bod yn arbennig o dda efo fo, bob tro mor gymwynasgar, yn cynnig digwyddiadau cymdeithasol ac yn y blaen... maen nhw'n arbennig."
Ychwanegodd Owen: "Mae'n teimlo fel bo' nhw wedi bod yno i fi erioed, ac wedi bod yn help massive i fi dros y blynyddoedd.
"Dwi ar fin troi'n 18 a mynd allan o'u gofal nhw, felly roedd hwn yn gyfle i mi roi rhywbeth yn ôl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.