'Y Gadeirlan wedi ei thrawsnewid' - Esgob newydd Bangor

Manon Ceridwen James yw'r 82ain i ymgymryd â rôl Esgob Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae Esgob newydd Bangor yn dweud bod "y gadeirlan wedi cael ei thrawsnewid" a'u bod yn gweithio'n galed i adfer ffydd y cyhoedd.
Cafodd Manon Ceridwen James ei hethol yn Esgob newydd ym mis Mehefin a bydd yn dechrau ar ei gwaith yn swyddogol y penwythnos hwn.
Wedi ei magu yn Nefyn, ym Mhen Llŷn, cafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1994 yn Eglwys Gadeiriol Bangor cyn bod ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio'n offeiriad yn yr esgobaeth yn 1997.
Cafodd ei chysegru'n Esgob mewn gwasanaeth yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf, a chafodd ei sefydlu mewn gwasanaeth yn eglwys gadeiriol Bangor brynhawn Sadwrn.
Roedd swydd Esgob Bangor wedi bod yn wag ers Awst 2025 ar ôl i'r cyn-Esgob Andy John ymddeol yn dilyn cyfnod cythryblus i'r esgobaeth.
Cafodd pryderon eu codi am Gadeirlan Bangor y llynedd, gan gynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
'Adfer ffydd yn cymryd amser'
Ar raglen Dros Frecwast fore Sadwrn, dywedodd Manon James fod y Gadeirlan yn ymdrechu'n galed i adfer ffydd pobl yn y sefydliad.
"Mae'r Gadeirlan wedi cael ei thrawsnewid, a 'dan ni wedi bod yn gweithio ar riw 30 o argymhellion - maen nhw gyd bron iawn mewn lle," meddai.
"'Dan ni'n cael adolygiad yr wythnos nesaf... a gobeithio byddwn ni'n cael adolygiad da ac yn gallu symud 'mlaen.
"Mae adfer ffydd yn cymryd amser, dydi o ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, ond dwi'n gobeithio o wythnos i wythnos ac o fis i fis bydd pobl yn gweld bod y diwylliant yn yr esgobaeth wedi newid, a'n bod ni'n mynd i'r afael efo'r heriau sy'n ein hwynebu.
"Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf i fi yn y Gadeirlan, a rŵan yn yr esgobaeth, ydi bod pobl yn gallu dweud ei dweud a chael gwrandawiad."
Ychwanegodd ei bod am weithio'n agos gyda gwahanol gymunedau yn yr ardal.
"Ella bod pobl yn meddwl am weinidogaeth esgob fel arweinwyr yn y ffrynt, ond yn fy ngweinidogaeth i, fydda i eisiau gweithio efo cymunedau, efo eglwysi i annog nhw i fynd i'r afael a'r heriau yn eu cymdeithasau - fatha riw back room gweinidogaeth mewn ffordd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin

- Cyhoeddwyd16 Mehefin

- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024
