Tudur Dylan wedi'i ethol i fod yr Archdderwydd nesaf

Bydd Tudur Dylan yn dilyn ôl troed ei dad a'i ewythr fel Archdderwydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu Mererid Hopwood yn y rôl.
Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, roedd dau yn y ras y tro hwn - Tudur Dylan a Gerwyn Wiliams.
Ers rhai wythnosau mae aelodau'r Orsedd wedi cael cais i bleidleisio dros un o'r ddau, ac fe gafodd canlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd ddydd Iau.
Bydd Tudur Dylan yn dilyn ôl troed ei dad - y Parchedig John Gwilym Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 - a'i ewythr y Parchedig T James Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.
Mae wedi ennill y Gadair ddwywaith - yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad yn Archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005.
Yn 2007 enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint.

Y Cadeirio ddydd Gwener fydd prif seremoni olaf Mererid Hopwood fel Archdderwydd
Mae etholiad Archdderwyddol wedi bod yn achlysuron prin iawn yn ddiweddar.
Cafodd dau eu henwebu i arwain yr Orsedd yn dilyn marwolaeth yr Archdderwydd Dic Jones yn 2009, sef T James Jones (Jim Parc Nest) a Mererid Hopwood.
Ond bryd hynny fe benderfynodd Mererid beidio â chaniatáu i'w henw fynd ymlaen i bleidlais.
Ers hynny un enwebiad sydd wedi bod, ac felly doedd dim etholiad pan gafodd Christine James, Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon), Myrddin ap Dafydd na Mererid Hopwood eu hethol.

Dywedodd Tudur Dylan y bydd yn "cael y sac ar ôl tair blynedd, a fydd hynna'n siwtio fi'n iawn!"
Yn siarad gyda BBC Cymru ar y maes dywedodd Tudur Dylan bod cael ei ddewis yn Archdderwydd yn "fraint" ond hefyd yn "nerfusrwydd wrth gwrs, achos mae rhywun yn dilyn o'r troed pobl fel Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood".
"Yr unig beth i'w ddweud ydi na'i drio 'ngorau yn y gwaith.
"Dwi'n falch mai dim ond tair blynedd ydy o.
"Mae rhywun yn cael y sac ar ôl tair blynedd, a fydd hynna'n siwtio fi'n iawn!"
Bu Tudur Dylan yn ateb cwestiynau cyflym Cymru Fyw wedi iddo gael ei gadarnhau fel yr Archdderwydd nesaf
Seremoni'r Cadeirio brynhawn Gwener yn Eisteddfod y Garreg Las fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood.
Bydd yr Archdderwydd newydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa'r Pafiliwn ar ddechrau seremoni'r Cadeirio.
Ni fydd yr Archdderwydd Mererid yn trosglwyddo'r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028, a fydd yn digwydd yn haf 2027.
Ychwanegu at draddodiad Eisteddfodol y teulu
Ar raglen Dros Ginio brynhawn Iau, dywedodd tad Tudur, y Parchedig John Gwilym Jones, a fu hefyd yn Archdderwydd yn y 90au, fod y newyddion yn achos "balchder arbennig":
"Dwi'n teimlo bod 'na rhyw fachyn gyda'r gorffennol - yr holl draddodiad Eisteddfodol sydd gyda ni fel teulu.
"Mae rhywun yn cael rhyw fath o foddhad gallu gwneud cyfraniad i fywyd y genedl," ychwanegodd.
"Mae mynd i mewn i'r wisg yn golygu bod gyda chi rhyw fath o awdurdod mewn seremoni neu bwyllgor," ychwanegodd.
"Ond mae'r urddas sy'n perthyn i'r seremonïau yn gymorth mewn gwirionedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
