Dathliad dwbl tad a mab sy'n bencampwyr byd Treialon Cŵn Defaid

David a Jack Howells yn dathlu eu llwyddiant yn y treialon gyda Wyverne Pip a Cydros BossFfynhonnell y llun, Phil Wilkinson
Disgrifiad o’r llun,

David a Jack Howells yn dathlu eu llwyddiant yn y treialon gyda Wyverne Pip a Cydros Boss

  • Cyhoeddwyd

Mae tad a mab o Gymru wedi dod i'r brig yn eu categorïau yn Nhreialon Cŵn Defaid y Byd dros y penwythnos.

David Howells o ardal Cymer yn Sir Castell-nedd Port Talbot enillodd prif wobr y treialon gyda'i gi, Wyverne Pip.

Ei fab 19 oed, Jack, gyda'i gi Cydros Boss ddaeth i'r brig yn y categori Bugeiliaid Ifanc.

Dyma'r tro cyntaf erioed i riant a phlentyn ennill teitlau yn yr yn flwyddyn yn y treialon byd.

Jack a David Howells a'u cŵn yn edrych ar ei gilydd tra'n sefyll ar gau wrth i'r haul fachlud yn y cefndirFfynhonnell y llun, Phil Wilkinson

Roedd yna ragor o lwyddiant i Gymru yn y treialon a ddenodd 300 o gystadleuwyr o 34 o wledydd i ardal Lauder yng Ngororau'r Alban.

Kevin Evans o Aberhonddu, gyda'i gŵn Kemi Ids a Valley View Dan, oedd enillydd y gystadleuaeth Brace, lle mae ffermwr yn trin dau gi ar yr un pryd - y tro cyntaf erioed i'r categori yna fod yn rhan o dreialon y byd.

Ac Angie Driscoll o Lanllawddog yn Sir Gâr oedd yn drydedd i David Howells yn y brif gystadleuaeth gyda Kinloch Carlos. Roedd yna 16 wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Dywedodd Kevin Evans ar y cyfryngau cydeithasol: "Penwythnos gwych i Gymru a diwrnod cwbl anhygoel i Dai, Jack a'r teulu oll. Am gamp!"

Cafodd cynrychiolwyr Cymru eu dewis bron flwyddyn yn ôl yn ystod treialon ar fferm yn ne Meirionydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol