Llywodraeth Cymru'n cefnogi cap o 6% ar log benthyciadau myfyrwyr

MyfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i gapio cyfraddau llog benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 a 3 ar 6% o'r flwyddyn academaidd 2026/2027.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells, y byddai'r cynllun yn diogelu benthycwyr yng Nghymru.

Fodd bynnag, bydd unrhyw benderfyniad terfynol yn fater i'r llywodraeth nesaf ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Dywedodd gweinidogion y DU fod y newid wedi'i anelu at amddiffyn graddedigion rhag y risg o chwyddiant cynyddol oherwydd rhyfel Iran.

Mae benthyciadau Cynllun 2 yn cynnwys y rhai ar gyfer cyrsiau israddedig a thystysgrifau addysg ers 1 Medi 2012 yng Nghymru, tra bod Cynllun 3 ar gyfer cyrsiau meistr a doethuriaeth.

Mae cyfradd llog Cynllun 2 yn seiliedig ar fesur chwyddiant mynegai prisiau manwerthu - neu retail price index (RPI) - ynghyd â hyd at 3% yn ychwanegol yn dibynnu ar enillion.

Y trothwy ad-dalu ar hyn o bryd yw £28,470.

Ym mis Chwefror dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan na fyddai Cymru'n dilyn cynlluniau Llywodraeth y DU i rewi trothwyon ad-dalu cynllun 2 yn Lloegr ar £29,385 am dair blynedd yn dechrau o fis Ebrill 2027.

Beth mae'r pleidiau'n dweud?

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio i "ddiogelu myfyrwyr Cymru sydd â benthyciad" trwy'r cap arfaethedig ar gyfraddau llog.

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells y bydd "angen i lywodraeth nesaf Cymru wneud penderfyniad terfynol ar gymhwyso'r cap ar gyfraddau llog gyfer benthycwyr Cymru, yn dilyn etholiad y Senedd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod "capio cyfraddau yn dal i adael graddedigion yn talu llog uwch na chwyddiant".

Ychwanegodd y blaid y byddent yn "dileu llog uwch na'r mynegai prisiau manwerthu yn gyfan gwbl er mwyn creu system decach a symlach i bobl ifanc".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru fod "gormod o bobl ifanc yn cael eu llethu â dyled ar gyfer graddau nad ydynt o reidrwydd eu hangen".

Ychwanegodd fod angen rhoi "mwy o bwyslais ar gysylltu addysg â chyfleoedd economaidd".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod y system bresennol yn "cosbi" myfyrwyr yn hytrach na'u cefnogi, a bod "angen ailfeddwl ar draws y system".

Ychwanegodd y byddai'r blaid yn "comisiynu adolygiad annibynnol o gyllid addysg uwch yng Nghymru" pe bai mewn llywodraeth.

Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, nad yw'r cyhoeddiad yn mynd i'r afael â system sydd "wedi torri'n sylfaenol".

Ychwanegodd fod cap o 6% yn parhau'n "rhy uchel ac yn fargen waeth na llawer o fenthyciadau banc masnachol".

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru eu bod yn "cytuno â'r cynnig i gapio cyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr yng Nghymru", ond nad yw hynny'n "mynd yn ddigon pell".

Ychwanegodd fod y blaid yn "cefnogi addysg uwch am ddim a diwedd i ddyled myfyrwyr ormodol", ac yn galw am "ostyngiad ffioedd dysgu a thrafodaethau â Llywodraeth y DU i ganslo rhannau o ddyled o fewn pŵer datganoledig".