Diabetes yn cynyddu'n gynt na'r disgwyl yng Nghymru

Gwen Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwen Edwards wedi colli ei golwg mewn un llygad yn sgil diabetes math 1

GanMeleri Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y bobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru yn cynyddu'n gynt na'r disgwyl, yn ôl data newydd y gwasanaeth iechyd.

Roedd disgwyl y byddai 260,000 o bobl yn byw â'r cyflwr erbyn 2035, ond mae twf diweddar yn awgrymu y gallai Cymru gyrraedd y ffigwr hwnnw yn gynt.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhybuddio fod un o bob pump o bobl yma yn byw â diabetes neu gyflwr cyn-diabetes (prediabetes), ond mae'n bosib bod degau o filoedd yn rhagor heb gael diagnosis.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.

Mae data diweddaraf y gwasanaeth iechyd yn dangos bod tua 230,300 o bobl yn byw â diabetes yng Nghymru.

Mae'r twf yn cael ei yrru gan diabetes math 2, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n aml yn cael ei gysylltu â gordewdra a lefelau uwch o dlodi.

Mae'r ffigyrau hefyd yn cynnwys y niferoedd sy'n byw â math 1 y cyflwr, sy'n golygu nad yw pobl yn gallu cynhyrchu inswlin, sef hormon sy'n rheoli lefelau siwgr yn y gwaed.

Os nad yw'r cyflwr yn gael ei reoli - math 1 a 2 - mae'n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol gyda golwg, clefyd yr aren, niwed nerfol neu glefyd cardiofasgwlaidd sydd, yn ei dro, yn gallu rhoi straen ar y gwasanaeth iechyd.

'Colli golwg mewn un llygad'

Mae Gwen Edwards, 28, yn byw â diabetes math 1 ers yn blentyn ac wedi profi cymlethdodau.

"Dwi didm yn siarad dros bawb yn amlwg, mae pawb yn wahanol. Ond dwi 'di colli fy ngolwg yn un llygad, dwi wedi cael anhwylder bwyta efo'r diabetes," dywedodd.

"O'n i'n gw'bod bod 'na gymlethdodau gyda diabetes. Do'n i ddim yn disgwyl eu cael nhw mor ifanc."

Er mai cynnydd yn y niferoedd sy'n byw â diabetes math 2 yw pryder mwyaf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Gwen yn poeni y gallai hyn gael effaith ar y system ac ar feddyginiaeth yn y dyfodol.

"Fel ma'r galw yn dod i fyny'n uwch, rŵan bod 'na bobl yn cael diabetes, yn hirdymor, fe fydd 'na broblemau ella efo'r inswlin, er enghraifft?"

"Mae'n scary, achos dwi 'mond yn 28. Mae'n anodd."

Dr Amir Ghanghro
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Amir Ghanghro yn feddyg teulu yng Nghaerdydd

Wrth ystyried twf math 2 y clefyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn rhybuddio ei fod yn effeithio'n anghymesur ar bobl o gefndiroedd De Asiaidd, Affricanaidd Du a Charibïaidd Du.

Mae Dr Amir Ghanghro yn feddyg teulu â diddordeb arbennig mewn diabetes a dywedodd, yn genedlaethol, y byddai meddygfeydd cyffredin yn disgwyl gweld tua 5% o gleifion â diabetes.

Fodd bynnag, mae gan ei glinig ei hun yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol Caerdydd o ran cefndir tua 10% o gleifion â diabetes.

"Maen nhw'n datblygu diabetes mewn grŵp oedran iau, gyda BMI is neu bwysau is ac mae'r clefyd maen nhw'n ei gael yn fwy ymosodol," meddai.

Ffionwen Carling
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffionwen Carling yn fyfyriwr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Ffionwen Carling, 22, wedi treulio cyfnod yn y feddygfa fel myfyriwr meddygaeth yng Nghaerdydd, a dywedodd ei bod wedi gweld pobl ifanc yn cael diagnosis.

"Dydyn ni ddim 'di gweld llawer o gelifion eto, ond ry'n ni wedi gweld claf ddoe oedd yn 17 mlwydd oed, oedd yn new diagnosis o diabetes," meddai.

"Roedden nhw 'di dod i'r feddygfa oherwydd roedd ganddyn nhw infection newydd a doedd e ddim yn mynd.

"Felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn checio os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau, pethau fel os yw nhw'n mynd i'r tŷ bach mwy, neu os yw nhw angen mwy o ddŵr, neu infection, er enghraifft."

David Taylor
Disgrifiad o’r llun,

David Taylor o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n annog pobl i fod yn ymwybodol o'u risg o gael diabetes

Tra bod diabetes math 1 yn gyflwr sy'n para oes a does dim modd ei atal, mae modd gostwng y risg o gael diabetes math 2 trwy fwyta'n iach, ymarfer corff a chynnal pwysau iach.

Dywedodd Cyfarwyddwr Trawsnewid Iechyd Cyhoeddus Cymru, David Taylor, fod angen ymateb yn gyflym i'r cynnydd yn y niferoedd.

"'Dyn ni'n bryderus iawn o'r broblem o diabetes achos mae'r ffigyrau'n cynyddu mwy na'r disgwyl yn wreiddiol," dywedodd.

"Mae'n ddrud iawn i'r GIG i ymdopi â'r broblem.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn dod at ei gilydd i alw ar bobl i adnabod eu risg, i weithredu nawr, i ac i weld eich meddyg."

Mae gan Diabetes UK adnodd arlein, dolen allanol lle all pobl wirio beth yw eu risg, ond dywedon bod angen buddsoddiad hefyd i atal cymhlethdodau.

'Anelu at greu poblogaeth iachach'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai un o'u camau cyntaf ers ffurfio llywodraeth oedd creu Gweinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol newydd.

Ychwanegodd bod "ffocws wedi'i dargedu ar gefnogi'r amgylchedd a mynediad at ddewisiadau iachach i leihau'r risg o gyflyrau cronig fel gordewdra a diabetes math 2".

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal yn gynnar er mwyn gwella iechyd y cyhoedd, a sicrhau bod holl bolisïau'r llywodraeth yn anelu tuag at y nod o greu poblogaeth iachach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig