Carrie Sauce yn ennill ail gyfres Y Llais

Carrie SauceFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw mai Carrie Sauce yw'r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau'r gyfres

  • Cyhoeddwyd

Carrie Sauce sydd wedi ennill ail gyfres rhaglen Y Llais ar S4C.

Y gred yw mai Carrie Sauce yw'r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau'r gyfres, ers y cychwyn yn 2010.

Roedd yr hyfforddwyr - Bronwen Lewis, Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd ac Aleighcia Scott - wrth eu boddau â pherfformiadau Oliver Martin, sy'n perfformio fel Carrie Sauce, drwy gydol y gyfres.

Fe hawliodd y fuddugoliaeth fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel.

Y tri arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni oedd Chuts o Gricieth, Cas Jones o Ben-y-bont Fawr a Lywis o Abertawe.

'Teimlo'n anhygoel'

Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth, dywedodd Carrie Sauce: "Mae'n teimlo'n anhygoel – byswn i byth wedi dychmygu hyn ond dyma'r sypreis gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano.

"Dwi methu aros i weld beth sy'n dod nesaf.

"Mae fy nhaith wedi bod yn amrywiol! Jest drwy edrych ar y dewis o ganeuon – wedi mynd o Eurovision, i sioeau cerdd, i Cher, i rai caneuon gwreiddiol Cymraeg hyfryd – mae wedi bod yn anhygoel!"

Bydd Carrie Sauce yn cael y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya'r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.

Bryn Terfel a Carrie SauceFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carrie Sauce yn rhan o dîm Syr Bryn Terfel

Mae dros chwarter cystadleuwyr dwy gyfres gyntaf Y Llais yn ddysgwyr neu'n bobl sy'n ailgydio yn yr iaith.

Mae Carrie Sauce, sy'n wreiddiol o Wlad yr Haf, hefyd yn ddysgwr balch ac wedi mwynhau'r profiad o ganu yn y Gymraeg.

"Mae'n hynod bwysig," meddai.

"Mae wir yn dod â ffocws i'r iaith Gymraeg ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn adfywio'r iaith.

"Mae'n rhan mor brydferth o'n diwylliant a dydyn ni methu fforddio i'w cholli hi.

"Dwi eisiau gallu parhau i berfformio, parhau i ddysgu Cymraeg, parhau i fwynhau'r wlad anhygoel yma.

"Dwi wedi byw yma ers saith mlynedd ac yn gobeithio bydda i'n byw yma am weddill fy oes."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig