Crynodeb

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 GMT+1

    Dyna ni o sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw - y seithfed a gymerwyd gan Rhun ap Iorwerth, a'r olaf cyn toriad yr haf.

    Diolch am ddilyn - mae gweddill straeon y dydd ar hafan Cymru Fyw.

  2. Cymorth i fusnesau bach a chanolig yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 14:34 GMT+1

    Mae Carmelo Colasanto, AS Reform, yn holi ynghylch cymorth i fusnesau bach a chanolig yn Sir Gaerfyrddin.

    Dywed Rhun ap Iorwerth bod "busnesau bach a chanolig eu maint wrth wraidd economi Sir Gaerfyrddin [sy'n cael] eu cefnogi drwy Fusnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, a rhaglenni adfywio canol trefi".

    Ychwanegodd bod "cyfleoedd i gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau mawr fel Pentre Awel, a bod cyllid wedi'i dargedu i helpu busnesau i arloesi, ehangu a chreu swyddi ledled y wlad".

    Mae canllaw i fusnesau bach, dolen allanol yn amlinellu ffynonellau cymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a phresennol yng Nghymru, ac yn dangos sut i gysylltu â nhw.

  3. Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 14:31 GMT+1

    Mae AS Reform Joe Martin yn gofyn i'r prif weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.

    Mae'r prif weinidog yn cyfeirio at ddatganiad llafar y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, lle nododd flaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, meithrin parch, undod a thegwch.

    Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru.

    Dywed Martin fod y targed y dylai 20% o holl weithwyr newydd y llywodraeth ddod o grwpiau lleiafrifoedd ethnig "yn hiliol" ac yn "gwahaniaethu yn erbyn pobl wyn".

    Mae ap Iorwerth yn ateb bod yr aelod yn "dewis canolbwyntio ar liw croen" tra byddai ef yn dewis canolbwyntio "ar y ffaith bod llawer o bobl nad oes ganddynt gyfleoedd oherwydd eu bod yn byw mewn tlodi, oherwydd eu bod yn digwydd dod o gefndir nad yw cyfleoedd wedi bod ar gael iddyn nhw - yn wahanol i rywun mor freintiedig â minnau".

    Joe MartinFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Joe Martin

  4. Colli Bonnie Tyler ac Ann Widdecombewedi ei gyhoeddi 14:21 GMT+1

    Bonnie TylerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins, ei geni yn Sgiwen, Castell-nedd

    Mae Darren Millar hefyd yn rhoi teyrnged i Bonnie Tyler, yn dilyn ei marwolaeth yn 75 oed, gan ei galw yn "eicon Cymreig" ac yn "gantores ag enwogrwydd a dylanwad byd-eang, artist unigryw gyda llais unigryw".

    Mae hefyd yn sôn am farwolaeth syfrdanol y cyn-wleidydd Ceidwadol a Reform Ann Widdecombe, gan ei galw'n "gymeriad gwleidyddol lliwgar" a "chymeriad gwerthfawr i bobl ledled y Deyrnas Unedig".

    Mae ap Iorwerth yn anfon ei "gydymdeimlad at anwyliaid Bonnie Tyler, trysor cenedlaethol a oedd yn rhan o fy mywyd cyhyd ag yr wyf yn cofio" a "fydd yn cael ei chofio'n annwyl gan bob un ohonom yma yng Nghymru ac ymhell, ymhell y tu hwnt".

    Ynglŷn ag Ann Widdicombe, mae'n dweud "rydym yn rhannu galar ei hanwyliaid, ond hefyd yr ofn ynghylch diogelwch gwleidyddion a ffigurau cyhoeddus".

    Ann WiddicombeFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafwyd hyd i Ann Widdecombe, 78, cyn-weinidog Ceidwadol a drodd yn llefarydd ar ran Reform, yn farw yn ei chartref yn Nyfnaint ddydd Iau.

  5. Cynllun dychwelyd ernes ar gyfer gwydr - cost i fusnesau?wedi ei gyhoeddi 14:10 GMT+1

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, yn dweud, "diolch i aelodau'r cyhoedd ledled Cymru, mae ein gwlad bellach yn ailgylchu mwy o wastraff cartref nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae ein cyfradd ailgylchu gwydr ymhlith yr uchaf yn Ewrop.

    "Ac eto er gwaethaf hyn, mae eich llywodraeth eisiau dilyn cynlluniau'r llywodraeth Lafur flaenorol i wyro oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig a mynnu cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes o fis Hydref ymlaen. Rydym yn gwybod y bydd yn gwthio costau ar fusnesau, gweithgynhyrchwyr a defnyddwyr."

    Mae'n gofyn: "Pa asesiad y mae eich llywodraeth wedi'i wneud o gostau ychwanegol y cynllun hwn, a beth ydych chi'n mynd i'w wneud i liniaru yn ei erbyn?"

    Atebodd Rhun ap Iorwerth: "Pam y pleidleisiodd y Senedd ddiwethaf dros gynnwys gwydr, rhywbeth y mae'r llywodraeth hon yn ei barchu ac yn symud y mater hwn ymlaen? Mae hynny oherwydd ei fod yn mynd ymhellach nag ailgylchu. Ailddefnyddio ydyw.

    "Mae'n ymwneud â'r cyfrifoldeb amgylcheddol hwnnw. Mae hefyd yn ymwneud â bod yn arloeswr oherwydd bod cytundeb mewn egwyddor mewn rhannau eraill o'r DU i symud ymlaen, gyda gwydr, gallwn ni ddangos y ffordd i eraill."

    ailgylchu
  6. Cefnogaeth i fusnesau a pherchnogion tai yn sgil 'tanau gwyllt a gwres eithafol'wedi ei gyhoeddi 14:04 GMT+1

    Mae arweinydd dros dro Llafur Cymru, Ken Skates, yn cyfeirio at y tanau yng ngogledd Cymru.

    Mae'n gofyn: "A allwch chi sicrhau pobl ledled Cymru y bydd eich llywodraeth yn cefnogi busnesau a pherchnogion tai sy'n cael eu heffeithio gan danau gwyllt a gwres eithafol?"

    Atebodd Rhun ap Iorwerth: "Bydd fy llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ac yr ydym eisoes wedi gwneud, i gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y tanau hyn.

    "Mae fy niolch yn gyntaf i'r bobl a ymatebodd iddynt. Mae fy meddyliau gyda'r bobl sydd wedi'u heffeithio ganddynt."

    tan conwy
  7. Cynnig gofal plant - y costau cychwynnol?wedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1

    Mae Dan Thomas hefyd yn gofyn "beth yw costau cychwynnol cynnig gofal plant Plaid Cymru?"

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Mae'r cynnig gofal plant yn cynnwys cronfa benodol o £55 miliwn a fydd yn rhannol mewn cyfalaf, yn rhannol mewn adnoddau, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni, fel cam cyntaf, gyflwyno gofal plant wedi'i gostio o 12.5 awr ar gyfer plant dwy oed. Dyna sy'n cael ei wneud."

    plantFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Arosiadau dwy flynedd yn y gwasanaeth iechydwedi ei gyhoeddi 13:51 GMT+1

    Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, yn gofyn "erbyn pa fis y bydd arosiadau dwy flynedd [yn y GIG] wedi'u dileu o'r diwedd yng Nghymru, fel y maent yn Lloegr?"

    Atebodd Rhun ap Iorwerth bod "yr holl gamau gweithredu a gymerwyd gan y llywodraeth hon o fewn y 100 diwrnod cyntaf - comisiynu'r gwaith hwnnw ar sefydlu'r canolfannau llawdriniaeth, ar sicrhau ein bod yn rhoi'r buddsoddiad hwnnw drwy'r gyllideb atodol yr ydym am ei phasio heddiw fel y gallwn, o ran gwariant cyfalaf ac o ran gwariant adnoddau, wneud y buddsoddiad hwnnw i ostwng yr arosiadau dwy flynedd hynny.

    "Mae'r camau gweithredu y mae'r llywodraeth yn eu cymryd yn cyd-fynd â gostwng y cyfraddau dwy flynedd hynny cyn gynted ag y gallwn. Rydym am ei wneud mewn misoedd."

    Dan ThomasFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Dan Thomas

  9. Amseroedd aros y GIG yn Sir y Fflint a Wrecsamwedi ei gyhoeddi 13:42 GMT+1

    Mae Nigel Williams, AS Reform, yn gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau i gleifion yn Sir y Fflint a Wrecsam?"

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Cyhoeddon ni £145 miliwn ychwanegol i gefnogi dull dan arweiniad clinigol i ganolbwyntio ar ddarparu ateb cynaliadwy i leihau amseroedd aros a gyrru trawsnewid llwybrau. Rydym wedi sefydlu panel arbenigol i edrych ar ddatblygiad canolfannau llawfeddygol ac yn comisiynu adolygiad annibynnol o berfformiad a'r effaith y mae aros yn ei chael ar gleifion."

    Cipolwg

    • Roedd tua 529,100 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth y GIG ddiwedd mis Mawrth 2026. Oherwydd bod rhai pobl yn aros am fwy nag un driniaeth, roedd cyfanswm nifer y llwybrau cleifion yn uwch, sef 666,700.
    • Roedd rhestrau aros wedi bod yn gostwng am 19 mis yn olynol, ond nid oedd yr un o’r targedau gwreiddiol ar gyfer adfer gofal a gynlluniwyd, a osodwyd yn 2022, wedi’u cyflawni erbyn diwedd y Chweched Senedd.
    • Gyda thua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn dal i aros am driniaeth, mae amseroedd aros y GIG yn parhau i fod yn un o’r pwysau mwyaf ar y gwasanaeth iechyd wrth i’r Seithfed Senedd gychwyn.
    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Unrhyw arbedion cost diriaethol mewn unrhyw adran'?wedi ei gyhoeddi 13:37 GMT+1

    Cai Parry-JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru

    Daw'r cwestiwn cyntaf gan Cai Parry-Jones, AS Caerdydd Ffynnon Taf dros Reform, sy'n gofyn "a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw arbedion cost diriaethol mewn unrhyw adran yn ystod y Senedd hon hyd yn hyn?"

    Dywed Rhun ap Iorwerth: "Ein gwaith ni yw gwneud i bob punt weithio mor galed â phosibl. I bobl Cymru, mae hynny'n golygu canolbwyntio adnoddau ar y blaenoriaethau sydd bwysicaf i bobl a chyflawni'r ymrwymiadau y cawsom ein hethol i'w cyflawni.

    "Rydym yn adolygu gwariant ar draws llywodraethau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu cyfeirio lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf, boed hynny'n torri rhestrau aros, mynd i'r afael â thlodi plant neu gryfhau ein heconomi. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i bwyso ar San Steffan, wrth gwrs, am y cyllid teg y mae Cymru yn ei gael."

    Dywed Cai Parry-Jones: "Elfen allweddol o wariant gweinyddol Llywodraeth Cymru yw'r ystâd y mae'n berchen arni ac yn ei rheoli... mae'r rhan fwyaf o staff yn parhau i weithio o bell. Gallai rheolaeth ddoethach o'r ystâd, brif weinidog, arbed dros £10 miliwn y flwyddyn. Fy nghwestiwn yw pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud yr effeithlonrwydd amlwg hyn?"

    Atebodd y prif weinidog: "Yr hyn yr wyf am ei wneud yw gwneud y gorau o'r bobl sydd gennym, boed hynny'n gweithio yn y gwasanaeth sifil, boed hynny'n gweithio ar draws y sector cyhoeddus, mewn iechyd ac addysg ac ym mhopeth y mae'r llywodraeth hon yn ei wneud, gan gynnwys annog pobl i gael y cydbwysedd cywir rhwng gweithio o bell a gweithio yn y swyddfa."

    arianFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Y sesiwn ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 13:25 GMT+1

    Mae sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar fin dechrau yn y Senedd.

    Mae modd gwylio'r cyfan trwy glicio ar yr eicon "Gwylio'n Fyw" ar frig y llif byw.

  12. Llywodraeth Cymru yn dal i chwilio am gytundeb ar gyfer y gyllideb atodolwedi ei gyhoeddi 13:22 GMT+1

    Mae llywodraeth Plaid Cymru yn dal i chwilio am gytundeb ar gynllun i wario £300m cyn pleidlais yn y Senedd yn hwyrach ddydd Mawrth.

    Mae angen cefnogaeth plaid arall er mwyn i'r Senedd basio cyllideb atodol Llywodraeth Cymru.

    Mae Llafur wedi bygwth pleidleisio yn erbyn os nad ydy'r llywodraeth yn cytuno i'w galw i wario mwy ar addysg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

    Nos Lun fe wnaeth y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth "gynnig terfynol" i geisio ennill cefnogaeth Llafur.

    Mae Reform UK a'r Ceidwadwyr yn dweud nad oes trafodaethau'n digwydd rhyngddyn nhw a'r llywodraeth ac mae disgwyl i'r ddwy blaid bleidleisio yn erbyn.

    lldrthFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
  13. Croesowedi ei gyhoeddi 13:12 GMT+1

    Croeso i Gwestiynau i'r Prif Weinidog - dyma'r cyfle olaf cyn toriad yr haf i arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill i holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

    Mae'r rhan fwyaf o gwestiynau yn cael eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a'u dewis drwy falot.

    Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

    Ar ôl cwpl o gwestiynau sydd wedi'u cyflwyno ymlaen llaw, byddwn yn clywed gan Dan Thomas o Reform, Ken Skates o'r blaid Lafur a Darren Millar o'r Ceidwadwyr.

    Senedd