Proses gwneud cais

Esbonio proses gwneud cais am brentisiaeth y BBC, cam wrth gam

Rydych chi’n gobeithio gwneud cais am brentisiaeth yn y BBC, ond yn gweld y broses ymgeisio braidd yn frawychus. Gadewch i ni drafod pob cam o'r broses ymgeisio. A gobeithio, erbyn diwedd y fideo, y bydd pethau'n llawer cliriach ac y byddwch chi'n barod i gyflwyno’ch cais.
Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau.
Y peth cyntaf i’w wneud yw llenwi ffurflen gais. Mae dau bwrpas i’r ffurflen hon. Yn gyntaf, mae angen i ni gasglu ychydig o wybodaeth amdanoch chi i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun rydych chi'n gwneud cais amdano. Yn ail, bydd y ffurflen yn gofyn i chi pam mae gennych chi ddiddordeb yn y brentisiaeth. Mae'n bwysig iawn i chi wneud rhywfaint o ymchwil, i wneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud cais am y cynllun sydd fwyaf o ddiddordeb i chi ar yr adeg yma yn eich gyrfa. Edrychwch ar lefel y brentisiaeth rydych chi'n gwneud cais amdani, ac a yw'n addas i chi. Hefyd, mae'n bwysig edrych ar y rolau y mae pobl fel arfer yn eu gwneud ar ôl cwblhau'r brentisiaeth rydych chi'n gwneud cais amdani. Ydy hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi neu'n eich cyffroi?
Does dim angen i chi lanlwytho CV na llythyr eglurhaol yn rhan o'ch cais ar gyfer prentisiaeth gyda ni.
Ar ôl i ni weld eich ffurflen gais, cewch eich gwahodd i wneud asesiad rhyngweithiol byr. Bydd yr asesiad yn amrywio yn ôl y brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Dydyn ni ddim yn poeni faint o brofiad sydd gennych chi; eich cryfderau a'ch sgiliau sydd o ddiddordeb i ni. Bydd cyfle i chi ymarfer ymlaen llaw, felly peidiwch â phoeni am hynny.
Bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd cam tri y broses ymgeisio yn cael eu gwahodd i gyflwyno set newydd o wybodaeth drwy lwyfan digidol. Ar y cam hwn yn y broses, rydyn ni eisiau gwybod mwy amdanoch chi – beth rydych chi’n hoffi ei wneud, beth rydych chi’n dda am ei wneud, a beth sy’n eich cymell a’ch ysgogi chi. Bydd gofyn i chi gyflwyno ymatebion ysgrifenedig ac ymatebion fideo wrth ateb ein cwestiynau. Ond peidiwch â phoeni: byddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo â'r llwyfan a recordio eich ymatebion, a gallwch ailrecordio eich ymatebion gynifer o weithiau ag y bydd angen. Peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim yn rhoi sgôr i’ch perfformiad – nid cyfweliad ydy hwn. Ond efallai y byddwch chi eisiau meddwl am eich lleoliad ffilmio. Cofiwch, beth rydych chi’n ei ddweud sy’n bwysig i ni, felly peidiwch â phoeni os ydych chi’n nerfus am fod ar gamera.
Ar gam pedwar, bydd angen i chi wneud cyfweliad neu sesiwn canolfan asesu. Ar-lein mae’r rhain yn cael eu cynnal fel arfer, ond gallent gael eu cynnal wyneb yn wyneb ar gyfer rhai o’n cynlluniau. Bydd angen i chi hefyd gwblhau tasg asesu ymlaen llaw a fydd yn gysylltiedig â'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y brentisiaeth rydych chi wedi gwneud cais amdani. Bydd hyn yn golygu eich bod chi, a ninnau hefyd, yn gallu penderfynu ai dyma'r cynllun iawn ar gyfer yr hyn rydych chi'n gobeithio ei gyflawni.
Bydd cyfle i gwrdd â staff y BBC a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi hefyd. Efallai mai un o'r cwestiynau sydd ar eich meddwl ar hyn o bryd yw beth ddylech chi ei wisgo ar gyfer eich sesiwn canolfan asesu neu gyfweliad. Yr ateb yw beth bynnag rydych chi’n teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus ynddo. Does dim angen i chi wisgo siwt oni bai mai dyna y byddech chi’n ei wisgo fel arfer, ond peidiwch â chyrraedd yn eich pyjamas chwaith.
Ac os byddwch chi’n llwyddiannus ar y cam olaf – cam pump – byddwn yn anfon cynnig atoch i ymuno â ni. Rhwng hynny a'ch dyddiad dechrau, bydd ein tîm cynlluniau yn cysylltu â chi i ddweud popeth y mae angen i chi ei wybod cyn eich diwrnod cyntaf. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu â’r bobl eraill sydd ar eich cynllun, ac i gael ateb i unrhyw gwestiynau.
Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni’n falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Mae cynhwysiant yn bwysig i ni, ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir yn cael y cymorth neu’r addasiadau sydd eu hangen arnynt.
Os oes angen i ni wneud addasiadau rhesymol ar eich cyfer yn y broses ymgeisio neu os ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am anghenion mynediad, gallwch wneud hynny drwy ein ffurflen gyswllt ar-lein, sydd ar gael ar ein gwefan Gyrfaoedd Cynnar. Byddwn yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod y ffordd orau o’ch cefnogi drwy gydol y broses ymgeisio.

 

Trosolwg

Drwy gydol y broses recriwtio, rydyn ni eisiau dysgu mwy am eich sgiliau, eich diddordebau a’ch potensial, yn ogystal â sut rydych chi’n dangos gwerthoedd ac ymddygiad y BBC.

Mae’r broses recriwtio wedi ei theilwra i bob cynllun prentisiaeth, felly gall y camau amrywio yn dibynnu ar y rôl rydych chi wedi gwneud cais amdani. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth pan fyddwch chi’n gwneud cais ac yn eich tywys drwy bob cam o’r broses.

Isod ceir trosolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl fel arfer yn ystod y broses ymgeisio.

 

Cam 1 – Cais ar-lein

Cam cyntaf y broses yw llenwi ffurflen gais. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau eich bod chi'n gymwys ar gyfer y cynllun a dysgu mwy am eich cymhelliant dros wneud cais.

Cyn dechrau eich cais, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n treulio ychydig o amser yn ymchwilio i’r cynlluniau sydd ar gael ac yn nodi’r rôl sy’n cyfateb orau i’ch diddordebau, eich sgiliau a’r cam rydych chi arno ar daith eich gyrfa.

Ar gyfer rolau prentisiaeth y BBC, does dim angen i chi gyflwyno CV na llythyr eglurhaol fel rhan o’ch cais. Yn hytrach, byddwn yn ystyried yr wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn y ffurflen gais ei hun.

 

Cam 2 – Ymarferion ar-lein

Os ydych chi’n bodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y cynllun rydych chi wedi gwneud cais amdano, byddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau asesiad rhyngweithiol ar-lein. Yn dibynnu ar y rôl, gall hyn gynnwys cwestiynau sy’n seiliedig ar gryfderau, ymarferion barnu sefyllfa, neu asesiadau sy’n benodol i’r swydd fel tasgau codio.

Rydyn ni eisiau i chi deimlo’n barod a’ch bod chi’n gallu perfformio ar eich gorau, felly byddwch yn cael cyfle i ymarfer cyn cwblhau’r asesiad. Bydd hyn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r fformat a deall beth i’w ddisgwyl. Byddant yn cymryd tua 60 - 90 munud i’w cwblhau. Defnyddir canlyniadau eich asesiad i benderfynu sut i symud ymlaen i’r cam nesaf.

 

Cam 3 – Cyfweliad fideo

Ar y cam hwn, rydyn ni eisiau dysgu mwy amdanoch chi, eich cryfderau a’ch cymhelliant dros wneud cais am brentisiaeth yn y BBC.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau, gofynnir i chi gwblhau cyfweliad fideo, lle byddwch chi’n cofnodi ymatebion i gyfres o gwestiynau. Mae’n bosibl y bydd rhai cwestiynau’n gofyn am ymateb ysgrifenedig yn lle hynny. Byddwn yn rhoi cyfle i chi ymarfer ac ymgyfarwyddo â’r platfform cyn i chi ddechrau, a byddwch yn gallu ail-recordio eich ymatebion os oes angen.

Sylwch y gall rhai cynlluniau prentisiaeth ddefnyddio dulliau asesu amgen ac mae’n bosibl na fydd angen cyfweliad fideo.

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu gan aelodau’r tîm a’u hasesu ar sail y meini prawf ar gyfer y rôl.

 

Cam 4 – Canolfannau asesu

Canolfan asesu rithwir yw cam olaf y broses recriwtio fel arfer. Bwriad hyn yw rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau, eich cryfderau a’ch potensial, yn ogystal â’ch cymhelliant dros ymuno â’r BBC, y rôl a’r cynllun prentisiaeth.

Mae’r ganolfan asesu fel arfer yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, fel ymarfer grŵp a chyfweliad. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â chydweithwyr yn y BBC a gofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych am y rôl, y tîm neu’r sefydliad.

Yn dibynnu ar y cynllun, mae’n bosibl y gofynnir i chi gwblhau tasg cyn-asesu cyn y ganolfan asesu, neu mae’n bosibl y cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir annibynnol fel rhan o gam olaf y broses.

 

Cam 5 – Cynnig

Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwn yn cynnig i chi ymuno â’r BBC. O’r adeg y byddwch chi’n cael eich cynnig hyd at eich dyddiad dechrau, bydd ein tîm yn cadw mewn cysylltiad ac yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf.

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gysylltu â phrentisiaid eraill sy’n ymuno â’r BBC, gan eich helpu i adeiladu eich rhwydwaith, dod i adnabod eich carfan yn y dyfodol, a gofyn cwestiynau cyn i chi ddechrau ar eich prentisiaeth.


Cymorth gyda’ch cais

Ein huchelgais yw i’r BBC fod yn gynhwysol a darparu gwerth i bawb. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd drwy gydol y broses recriwtio.

Rydyn ni’n cymryd hygyrchedd a chynhwysiant o ddifri ac rydyn ni am sicrhau bod ymgeiswyr ag anableddau, cyflyrau iechyd hirdymor, neu ofynion mynediad yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd rhan lawn a pherfformio ar eu gorau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein proses enwebu mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.

Os oes angen addasiadau arnoch chi i'ch helpu i gwblhau eich cais neu gymryd rhan mewn asesiadau neu gyfweliadau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gymorth a dewis 'Addasiadau Rhesymol' fel y pwnc. Rhowch wybod i ni pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, a byddwn yn hapus i drafod y dewisiadau sydd ar gael.

Mae nifer o ffyrdd y gallwn eich cefnogi, gan gynnwys addasu ein prosesau ymgeisio a dethol i sicrhau eich bod chi’n gallu perfformio ar eich gorau drwy gydol y daith recriwtio.


Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y broses recriwtio

Yn y BBC, rydyn ni’n gwybod bod adnoddau fel deallusrwydd artiffisial yn gallu eich helpu i baratoi, rhoi trefn ar eich meddyliau a theimlo’n fwy hyderus wrth wneud cais am un o’n cyfleoedd i bobl ar ddechrau eu gyrfa. Ond chi sydd o ddiddordeb mawr i ni.

Rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau, eich sgiliau, eich potensial a’r hyn sy’n eich cymell. Y ceisiadau cryfaf yw’r rhai sy’n adlewyrchu eich meddwl, eich cyflawniadau a’ch persbectif eich hun. Felly, er bod croeso i chi ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i gael cymorth, rydyn ni’n eich annog i wneud yn siŵr bod eich cais yn adlewyrchu eich llais eich hun ac yn adrodd eich stori.

 

Pryd y gall AI helpu eich cais:

Gall adnoddau deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol pan gânt eu defnyddio’n foesegol ac yn dryloyw. Er enghraifft:

  • Prawfddarllen a gwirio gramadeg - helpu i sicrhau bod eich cais yn glir ac yn hawdd ei ddeall
  • Paratoi ar gyfer cyfweliadau neu weithgareddau asesu ar-lein - defnyddio AI i ymarfer cwestiynau cyffredin neu fagu hyder
  • Egluro gwybodaeth am gynlluniau a rolau yn y disgrifiad swydd - gofyn i AI esbonio termau neu ofynion anghyfarwydd
  • Ymchwilio i yrfaoedd, teitlau swyddi a’r diwydiant – eich helpu i ddysgu mwy am y rôl, y tîm neu’r sector
  • Rhoi trefn ar eich meddyliau - eich helpu i strwythuro syniadau cyn ysgrifennu eich ymatebion eich hun

Mae'r rhain yn eich helpu i gyflwyno eich hun ar eich gorau, nid fersiwn rhywun arall ohonoch.

  

Pryd na ddylid defnyddio deallusrwydd artiffisial:

Gofynnwn i chi osgoi defnyddio AI mewn ffyrdd sy’n cuddio eich gwir lais neu’n camliwio eich galluoedd:

  • Llunio ymatebion i gwestiynau cais nad ydynt yn adlewyrchu eich profiadau, eich sgiliau neu’r hyn sy’n eich cymell
  • Cyflwyno atebion a ysgrifennwyd gan AI ar unrhyw gam o’r broses ymgeisio
  • Defnyddio AI i gwblhau asesiadau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i werthuso eich sgiliau, eich barn neu’ch potensial eich hun
  • Defnyddio AI i ddynwared eich llais, eich delwedd neu eich ymatebion mewn cyfweliadau fideo, sain neu fyw
  • Dibynnu ar AI i ffugio cyflawniadau, sgiliau, cymwysterau neu brofiadau

Os ydyn ni’n amau bod AI wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnwys cais neu asesu, gall effeithio ar sut mae eich cais yn cael ei asesu.

 

Beth rydyn ni’n ei werthfawrogi fwyaf:

Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n dod â chwilfrydedd, gonestrwydd a gwreiddioldeb i’w gwaith. Mae hynny’n dechrau gyda sut rydych chi’n gwneud cais. Defnyddiwch AI i gefnogi eich paratoadau, nid i greu eich cais ar eich rhan. Gadewch i’ch llais go iawn ddisgleirio, oherwydd dyna pwy rydyn ni eisiau dod i’w adnabod.


Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: