Gyrfaoedd Cynnar

Ydych chi’n barod i gychwyn ar eich gyrfa gyda’r BBC? P’un a ydych chi’n gadael yr ysgol, yn newid gyrfa, newydd ddechrau ym myd gwaith, neu wedi graddio, gallai ein cyfleoedd lefel mynediad fod yn llwybr i yrfa y byddwch chi’n ei mwynhau.

Gwelwch brentisiaethau sy’n agored
Info: Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd

Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau Medi 2027 yn agor ddiwedd hydref 2026.

Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn cael ei diweddaru gyda manylion cynlluniau 2027 pan fydd y ceisiadau’n agor. Sylwch fod y cynlluniau a’r lefelau yn newid bob blwyddyn.

Ein prentisiaethau

  • Baner “Prentisiaethau wedi’u hegluro” gyda dau brentis BBC y tu ôl

    Egluro prentisiaethau’r BBC

    Popeth mae angen i chi ei wybod am brentisiaethau’r BBC, o gymhwysedd a buddion i hyd rolau a beth i’w ddisgwyl.
  • Grŵp o brentisiaid BBC yn sefyll y tu allan i Broadcasting House

    Busnes

    Diddordeb mewn adnoddau dynol, rheoli prosiectau, busnes, y gyfraith, cyllid neu farchnata? Bydd prentisiaeth yn un o’r pynciau hyn yn eich helpu i ddysgu’r sgiliau sy’n helpu’r BBC i weithredu fel busnes.
  • Dau gydweithiwr BBC yn gweithio gyda’i gilydd gyda gliniaduron mewn swyddfa

    Technoleg Ddigidol a Data

    Ydych chi’n cael eich cyffroi gan ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg a datrys problemau? Mae ein prentisiaethau Technoleg Ddigidol a Data yn cynnig rolau ymarferol mewn deallusrwydd artiffisial, datblygu apiau a chodio.
  • Prentis BBC yn gweithredu camera mewn stiwdio

    Peirianneg a Gweithrediadau

    Ydych chi’n chwilfrydig am sut mae pethau’n gweithio ac wrth eich bodd yn datrys problemau technegol? Helpwch i ddarparu cynnwys y BBC ar draws teledu, radio a digidol.
  • Prentisiaid BBC yn cynnal cyfweliad gyda meicroffon BBC

    Newyddiaduraeth

    Ydych chi wrth eich bodd â newyddion ac adrodd straeon? Mae ein cynlluniau Newyddiaduraeth yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a dysgu cynhyrchu cynnwys gwych gyda hyfforddiant arbenigol.
  • Prentis BBC yn gweithredu camera fideo

    Cynhyrchu

    Yn llawn syniadau, yn wych am drefnu, neu’n ymddiddori mewn cynhyrchu? Mae ein cynlluniau Cynhyrchu yn cynnig amrywiaeth o rolau ar draws teledu, sain a chynnwys digidol.
  • Testun “Proses ymgeisio” dros brentis BBC yn defnyddio gliniadur

    Y broses gwneud cais

    Dysgwch fwy am sut rydym yn recriwtio ar gyfer ein cynlluniau gyrfaoedd cynnar, beth i’w ddisgwyl o’r broses, ein hawgrymiadau defnyddiol, a sut i baratoi.
  • Testun “Cwestiynau Cyffredin” dros brentis BBC yn gweithredu camera stiwdio

    Cwestiynau cyffredin

    Mae ein cwestiynau cyffredin yn ymdrin â sut i wneud cais a chymhwysedd, i hyfforddiant, cyflog, a sut beth yw bywyd fel prentis gyda’r BBC.
  • Cyfeiriadur prentisiaethau’r BBC (PDF)

    Canllaw cyflawn i’n rolau prentisiaeth (o brentisiaethau 2026 - cofiwch fod y cynlluniau a’r lefelau rydym yn eu cynnig yn newid bob blwyddyn).

  • Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Dilynwch ni @BBCGetIn ar Instagram a @LifeAtTheBBC ar TikTok am y newyddion gyrfaoedd diweddaraf.

Mwy o gyfleoedd

  • Grŵp o brentisiaid BBC yn sefyll mewn stiwdio newyddion

    Cynlluniau talent

    Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynlluniau datblygu ar gyfer talent greadigol y DU ar draws cynnwys, ysgrifennu, perfformio a newyddiaduraeth.
  • Prentisiaid BBC mewn digwyddiad grŵp

    Diwrnodau Blasu Get In

    Cyfle i gael gwybod mwy am y gwahanol lwybrau gyrfa sydd gan y BBC i’w cynnig a chael profiad ymarferol mewn canolfan yn eich ardal chi.
  • Silwét o gydweithiwr BBC yn gweithredu camera o flaen logo’r BBC

    Profiad gwaith rhithwir

    Dysgwch fwy am y gwahanol lwybrau gyrfa yn y BBC ac fe gewch dystysgrif i ddangos eich cyflawniad (mewn partneriaeth â Springpod).

“Mae’r BBC wedi bod yn ddechrau delfrydol i’m gyrfa. Ymunais fel cynorthwyydd golygu gan ddysgu sut mae’r Uned Hanes Naturiol yn gwneud eu rhaglenni dogfen hyfryd. Es i ar daith ffilmio i Goedwig Law’r Amazon – ges i’r profiad gorau erioed!”

Marcos, Prentis Cynhyrchu

Pam y BBC?

Rydyn ni ymhlith y 10 Cyflogwr Prentisiaethau gorau ac yn arweinwyr y diwydiant ym maes gyrfaoedd cynnar, gan gyflogi dros 200 o brentisiaid newydd bob blwyddyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a doniau y tu mewn a’r tu allan i’r BBC. Fel un o’r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch ddysgu gan rai o’r gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes. 

O’r chwith i’r dde: Ymhlith 100 Cyflogwr Prentisiaethau Gorau 2026 (HIGHERiN a’r Adran Addysg), y 1af ar restr Target Jobs UK 300, Gwobrau Recriwtio Graddedigion The Times 2026.

Mae cyfleoedd di-ri yn y BBC. Ond oes 'na le yma i bobl fel chi a fi?
Rydw i ar fin mynd ar yr awyr i ddarllen y newyddion 1 o'r gloch. Dim ond un o blith nifer o swyddi yw fy swydd i, yr un mae’r gwylwyr yn ei gweld. Mae cymaint o rolau gwahanol yma yn y BBC.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn deallusrwydd artiffisial, data neu ddysgu peirianyddol, byddwch yn gwneud mwy na dim ond rhagweld tueddiadau. Byddwch yn helpu i drawsnewid y ffordd mae miliynau o bobl yn rhyngweithio â’r BBC.
Neu efallai mai codio sy’n mynd â’ch bryd. Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth am wahanol rwydweithiau a systemau, neu hyd yn oed gychwyn gyrfa ym maes seiberddiogelwch.
Os mai rhifau sy’n eich diddori, gallech ymuno ag un o dimau cyllid y BBC. Y timau cyllid sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhaglenni’n cadw at y gyllideb, a bod pawb yn cael eu talu. Mae hynny’n bwysig iawn.
Neu beth am ymuno ag un o’n timau Adnoddau Dynol? Byddech yn helpu i greu diwylliant lle gall pawb ffynnu a gwneud eu gwaith gorau.
Gallech fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr systemau cyfryngau sy’n helpu’r BBC i ddarparu cynnwys ar deledu, radio, a llwyfannau digidol. Neu gallech fod yn un o’n swyddogion technegol. Beth am roi cynnig ar gyfarwyddo neu weithredu un o’n camerâu yn y stiwdio? Gyda’n gilydd, ni sy’n sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiant.
Felly, os ydych chi eisiau gweithio ym maes cynhyrchu, gallech fod yn ymchwilydd, yn gydlynydd cynhyrchu, neu'n rheolwr llawr fel fi a gweithio ar y newyddion. Dyna rydw i’n ei wneud heddiw.
Ydych chi’n frwd dros adrodd straeon a allai siapio’r penawdau y mae pobl yn eu trafod yn lleol, yn genedlaethol, hyd yn oed yn fyd-eang? Felly beth am ystyried gyrfa ym myd newyddiaduraeth?
Prynhawn da. Croeso i raglen News at One.
Ac nid dim ond yn Gymraeg a Saesneg rydyn ni’n gweithio. Rydyn ni’n creu cynnwys mewn dros 40 o ieithoedd. Gyda chanolfannau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, mae angen eich talent chi ym mhobman.
Gall unrhyw un lwyddo yn y BBC. Pwy bynnag ydych chi, mae lle i chi, ac mae eich llais chi'n bwysig.
Yn tydi, Pudsey?


Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Mae gennym ddiddordeb yn y pethau sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Beth yw eich diddordebau a’ch gwerthoedd? Dydyn ni ddim yn chwilio am bobl sydd â phrofiad helaeth. Rydyn ni eisiau clywed eich llais chi a’ch syniadau chi yn ein timau, gan ein helpu ni i sicrhau bod y BBC yn cynrychioli’r holl gynulleidfaoedd a chymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Byddwn yn eich cefnogi i gyflawni eich potensial. Mae prentisiaid y BBC yn cael cyflog sy’n uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac mae gennym amrywiaeth o gymorth, mentrau a rhwydweithiau i sicrhau bod gweithwyr yn gallu ffynnu. Os ydych chi’n dod o gefndir dosbarth gweithiol, efallai byddwch chi eisiau darllen mwy am ein hymrwymiad i gefnogi amrywiaeth gymdeithasol ac economaidd, a beth allai hynny ei olygu i chi fel gweithiwr yn y BBC. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r hyn mae pob unigolyn yn ei gynnig. Mae amrywiaeth yn bwysig iawn i ni.


Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: