Prentisiaethau Technoleg Ddigidol a Data

Ydych chi’n cael eich cyffroi gan ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg a datrys problemau? Mae ein prentisiaethau Technoleg Ddigidol a Data yn cynnig rolau ymarferol mewn deallusrwydd artiffisial, datblygu apiau a chodio.

Info: Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd

Bydd ceisiadau ar gyfer cynlluniau Medi 2027 yn agor ddiwedd hydref 2026.

Bydd y wybodaeth ar y wefan hon yn cael ei diweddaru gyda manylion cynlluniau 2027 pan fydd y ceisiadau’n agor. Sylwch fod y cynlluniau a’r lefelau yn newid bob blwyddyn.


Uwchbrentisiaethau/ Prentisiaethau uwch

Lefel 3-5
Gan ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, dysgwch sut i greu a darparu llifoedd gwaith digidol sy’n gwella cynhyrchiant ac yn symleiddio prosesau.
Datblygwch y sgiliau a’r wybodaeth sy’n eich helpu i gasglu, trefnu ac astudio data i ddarparu mewnwelediad a gwella perfformiad busnes.

“Drwy ymuno â’r BBC cefais gyfle i ehangu fy sgiliau codio cefndirol, ac fe wnaeth cefnogaeth ac arweiniad y tîm fy helpu i ymgartrefu’n gyflym. Rydw i wedi mwynhau gweithio ar brosiectau sy’n gwella profiad chwilio iPlayer yn barhaus. Mae’n werth chweil gweithio ar rywbeth rwy’n ei ddefnyddio’n rheolaidd a gweld effaith ein gwaith o safbwynt y gynulleidfa.”

Anya, Prentis Peirianneg Meddalwedd

Prentisiaethau sy’n cyfateb i radd

Lefel 6
Datblygu sgiliau dadansoddeg ystadegol a rhagfynegol, technegau dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth, gwella prosesau a helpu’r BBC i ddarparu cynnwys wedi ei deilwra i’w gynulleidfaoedd.
Helpu i ddylunio a chyflawni cynnyrch a gwasanaethau digidol newydd, gan gynnwys apiau a gwefannau ar draws BBC Sport, BBC iPlayer, a bbc.co.uk.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: