Shwmae, Su’mae?

Part ofWelsh for learnersSongs

Geiriau - Lyrics:

Shwmae, Su’mae?

Mae rhai yn yfed llefrith
Mae rhai yn yfed llaeth
Mae rhai pobl yn ffaelu gwneud e
Mae rhai yn methu chwaith

Rhai yn dweud fe
Rhai yn dweud fo
Mae rhai yn hoffi mynd am wâc
Mae rhai yn mynd am dro

Mae rhai yn cael teisen anferth
Rhai yn cael cacen fawr
Mae rhai yn ei fwyta rŵan
Mae rhai yn ei fwyta nawr

Dim ots os wyt ti yn y gogledd
Dim ots os wyt ti yn y de
Yn y dwyrain neu’r gorllewin
Mae gan bob gair ei le

Mae rhai yn dweud tylluan
Rhai yn dweud gwdihŵ
Mae rhai yn dweud hwrli bwrli
Mae rhai yn dweud halibalŵ

Mae rhai yn dweud gwelyau
Mae rhai yn dweud gwlâu
Mae rhai yn dweud shwmae
A rhai yn dweud su'mae

Mae rhai yn mynd yn fuan
Mae rhai yn mynd yn glou
Mae rhai yn cymryd seibiant
A rhai yn cymryd hoe

Mae rhai yn dweud pry copyn
Mae rhai yn dweud corryn
Mae rhai yn dweud bachgen
A rhai yn dweud hogyn

Dim ots os wyt ti yn y gogledd
Dim ots os wyt ti yn y de
Yn y dwyrain neu’r gorllewin
Mae gan bob gair ei le
Mae gan bob gair ei le!

Cyfieithiad - Translation:

Shwmae, Su’mae? (How are you? / How’s it going?)

Some people drink ‘llefrith’ (‘milk’ in north Wales)
Some people drink ‘llaeth’ (‘milk’ in south Wales)
Some people ‘ffaelu’ do it (‘can’t’ in south Wales)
Some people ‘methu’ do it (‘can’t’ in north Wales)

Some say ‘fe’ (‘him’ in south Wales)
Some say ‘fo’ (‘him’ in north Wales)
Some like to go ‘am wâc’ (‘walk’ in south Wales)
Some like to go ‘am dro’ (‘walk’ in north Wales)

Some have a gigantic ‘cacen’ (‘cake’ in south Wales)
Some have a big ‘teisen’ (‘cake’ in north Wales)
Some eat it ‘rŵan’ (‘now’ in north Wales)
Some eat it ‘nawr’ (‘now’ in south Wales)

No matter if you’re in the north
No matter if you’re in the south
In the east or the west
Each word has its place

Some say ‘tylluan’ (‘owl’ in north Wales)
Some say ‘gwdihŵ’ (‘owl’ in south Wales)
Some say ‘hurly-burly’
Some say ‘hullabaloo’

Some say ‘gwelyau’ (‘beds’ in south Wales)
Some say ‘gwlâu’ (‘beds’ in north Wales)
Some say ‘shwmae’ (‘how are you’ in south Wales)
And some say ‘su’mae’ (‘how are you’ in north Wales)

Some go ‘yn fuan’ (‘quickly’ in north Wales)
Some go ‘yn glou’ (‘quickly’ in south Wales)
Some take a ‘seibiant’ (‘a rest’ in north Wales)
And some take a ‘hoe’ (‘a rest’ in south Wales)

Some people say ‘pry copyn’ (‘spider’ in north Wales)
Some people say ‘corryn’ (‘spider’ in south Wales)
Some say ‘bachgen’ (‘boy’ in south Wales)
And some say ‘hogyn’ (‘boy’ in north Wales)

No matter if you’re in the north
No matter if you’re in the south
In the east or the west
Each word has its place
Each word has its place!

More on Songs

Find out more by working through a topic