Geiriau - Lyrics:
Misoedd
Ym mis Ionawr bydda i'n gwisgo siwmperi
Ym mis Chwefror bydda i’n dal yn rhewi
Ym mis Mawrth bydda i’n canu geiriau
Dewi Sant a Hen Wlad fy Nhadau
Ym mis Ebrill bydda i’n gweld y gaeaf yn diflannu
Ym mis Mai bydda i’n clywed y gwcw’n canu
Ym mis Mehefin bydda i’n gwrando ar y gwenyn
yn gwneud mêl yn eu cynefin
Ym mis Gorffennaf bydda i’n ymlacio ar y tywod
Ym mis Awst bydda i’n mynd i’r Eisteddfod
Ym mis Medi bydda i'n clywed y carw
yn rhedeg drwy’r goedwig ac yn galw
Ym mis Hydref bydda i’n gweld dail y coed
yn lliwgar iawn o dan fy nhroed
Ym mis Tachwedd bydda i’n gwylio tân gwyllt
sy’n rhoi lliw i’r gaeaf hyll
Yn mis Rhagfyr bydda i’n gweld y coed Nadolig
Rhai mawr, rhai bach a rhai canolig
Ond cyn hir bydd y gaeaf bron heibio
A bydd hi'n amser i ni ddechrau eto.
Cyfieithiad - Translation:
Misoedd (Months)
In January I’ll be wearing jumpers
In February I’ll still be freezing
In March I’ll be singing the words
of St David and Hen Wlad fy Nhadau
In April I’ll watch the winter disappear
In May I’ll hear the cuckoo singing
In June I’ll be listening to the bees
making honey in their home
In July I’ll be relaxing on the beach
In August I’ll be going to the Eisteddfod
In September I’ll hear the stag
running through the woods and roaring
In October I’ll see the colourful leaves
beneath my feet
In November I’ll be watching the fireworks
that bring colour to the harsh winter
In December I’ll see the Christmas trees
Some big ones, small ones and some medium-sized ones
But before long the winter will almost be over
And it’ll be time for us to start again.
More on Songs
Find out more by working through a topic
- count7 of 15

- count8 of 15

- count9 of 15

- count10 of 15
