Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Creadigedd ac arloesiOffer marchnata

Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Offer marchnata

Mae nifer o wahanol offer sy’n cael eu defnyddio er mwyn marchnata cynnyrch:

  • y cyfryngau traddodiadol
  • y cyfryngau digidol
  • y cyfryngau cymdeithasol
  • eitemau hyrwyddo

Y cyfryngau traddodiadol

Byrddau posteri, baneri, papurau newydd, cylchgronau, radio a theledu ac ati.

Manteision - mae’n bosibl targedu nifer fawr o bobl ac mae rhai o’r technegau yn gallu apelio at fwy nag un o’r synhwyrau, ee gweld a chlywed wrth wylio’r teledu.

Anfanteision - mae’r cyfryngau traddodiadol yn gallu bod yn ddrud iawn ac mewn rhai achosion nid yw pobl yn talu llawer o sylw, ee hysbyseb ar y radio.

Y cyfryngau digidol

Mae hyn yn golygu defnyddio technoleg meddalwedd cyfrifiadur er mwyn targedu cwsmeriaid. Mae’r dulliau yn cynnwys , a hysbysebion ar-lein rhyngweithiol.

Manteision - mae’r dechnoleg hon yn gallu bod yn soffistigedig, ac mae’n bosibl ei defnyddio er mwyn canfod data penodol am gwsmeriaid unigol.

Anfanteision - efallai na fydd gan bob cwmni arbenigwyr mewnol, felly gall hwn fod yn ddewis drud.

Y cyfryngau cymdeithasol

Blogio, trydar, postio ar-lein, rhannu, rhwydweithio, pinio, rhoi nod tudalen, rhannu cyfryngau a gwneud sylwadau ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook, LinkedIn, Pinterest ac YouTube.

Manteision - mae hwn yn ddewis cost isel ac mae’n bosibl ei ddefnyddio er mwyn datblygu perthnasoedd ar-lein rhyngweithiol gyda chwsmeriaid posibl.

Anfanteision - mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn orlawn, ac o ganlyniad, gallai fod yn anodd i gwmni sefyll allan.

Eitemau hyrwyddo

Llyfrynnau, cardiau busnes a nwyddau fel beiros, cylchau allweddi, bagiau ac ati.

Manteision - mae’n bosibl eu defnyddio er mwyn datblygu ac maent yn hawdd i’w cynhyrchu a’u dosbarthu.

Anfanteision - nid oes llawer o le i roi negeseuon ar y rhan fwyaf o eitemau hyrwyddo. Os yw’r eitem o ansawdd gwael, gallai hyn wneud drwg i’r busnes.

Enghraifft bywyd go iawn

Meddylia am gwmni Cadbury a’u Creme Eggs – yr wyau siocled mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae gan Cadbury strategaeth farchnata arbennig, sy’n golygu mai dim ond rhwng Ionawr ac Ebrill bob blwyddyn mae’r wyau’n cael eu gwerthu. Pwrpas hyn yw targedu marchnad y Pasg, yr adeg pan mae rhai pobl yn arfer rhoi wyau siocled yn anrhegion.

Mae Cadbury yn hyrwyddo’r wyau drwy hysbysebion yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r hysbysebion yn cael eu cynllunio i atgoffa cwsmeriaid am y cynnyrch er mwyn iddynt eu prynu. Mae’n ymddangos bod y strategaeth farchnata yn gweithio - mae dros 500 miliwn o Creme Eggs yn cael eu gwerthu bob blwyddyn.

Llun agos o Creme Egg gan gwmni Cadbury ar ôl tynnu’r papur i ffwrdd