Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Creadigedd ac arloesiDadansoddiad SWOT

Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Dadansoddiad SWOT

Bydd gwneud yn dy helpu i weld pa syniadau mae hi’n werth eu datblygu ar gyfer y cam arloesi.

Acronym yw SWOT o’r geiriau Saesneg Strengths (cryfderau), Weaknesses (gwendidau), Opportunities (cyfleoedd) a Threats (bygythiadau).

  • Cryfderau – nodweddion sy’n rhoi mantais.
  • Gwendidau – nodweddion sy’n anfantais o gymharu â rhai eraill.
  • Cyfleoedd – nodweddion mae hi’n bosibl cymryd mantais ohonynt.
  • Bygythiadau – nodweddion a allai achosi problemau.

Mae’n bosibl nodi cryfderau a gwendidau ar gyfer syniad, proses, cynnyrch, gwasanaeth, person neu fusnes.

Mae cyfleoedd a bygythiadau yn ffactorau allanol a allai effeithio ar yr elfennau hyn.