Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Creadigedd ac arloesiMarchnata dy syniad

Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Marchnata dy syniad

Gall meddwl yn greadigol olygu:

  • datblygu ffordd o feddwl am rywbeth
  • newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth

Mae’r negeseuon sy’n cael eu cyfathrebu drwy dechnegau marchnata yn aml iawn o ganlyniad i waith meddwl creadigol helaeth.

Beth yw technegau marchnata?

Dulliau o hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau yw technegau marchnata. Mae’r dulliau hyn yn gallu:

  • cyfathrebu gwybodaeth
  • ysgogi diddordeb cwsmeriaid
  • cymell pobl i brynu

Un o rolau adran farchnata mewn cwmni yw gwneud defnydd effeithiol o ddulliau marchnata er mwyn cyflawni nodau ac amcanion busnes.

Mae’n bwysig iawn meddwl am y neges mae angen ei chyflwyno, ac ystyried pwy yw'r gynulleidfa darged.

Weithiau, bydd busnesau yn defnyddio cyfuniad o dechnegau er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd bydd y neges arfaethedig yn cyrraedd y gynulleidfa darged.