Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Creadigedd ac arloesiSyniadau creadigol ac arloesol

Gall meddwl yn greadigol helpu i greu nwyddau a gwasanaethau arloesol. Rhaid i fusnesau ddatblygu cymysgedd marchnata effeithiol ar gyfer y nwyddau hyn er mwyn diwallu anghenion eu cwsmeriaid.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Syniadau creadigol ac arloesol

Mae meddwl yn greadigol yn ffordd o ddatblygu syniadau newydd.

Gallai syniadau creadigol gynnwys:

  • dyfeisio rhywbeth newydd
  • dyfeisio ffordd newydd o wneud rhywbeth
  • datblygu ffordd newydd o feddwl am rywbeth
  • newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth

Meddwl yn greadigol

Mae meddwl yn greadigol yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae’n ffordd o wella cynnyrch, prosesau a gwasanaethau. Mae’n golygu bod modd lleihau costau cynhyrchu, creu cynnyrch a gwasanaethau newydd, neu eu gwella.

Enghraifft bywyd go iawn un

Dechreuodd gwasanaeth tacsi Uber o ganlyniad i feddwl yn greadigol. Roedd sefydlwyr y cwmni yn methu cael tacsi ar y stryd, felly dyma feddwl am syniad syml – pwyso botwm a chael reid.

Dyn ifanc yn dal ffôn ac yn galw tacsi Uber

Enghraifft bywyd go iawn dau

Dynes yn bwyta brecwast yn y gegin ac yn siarad ar ei ffôn clyfar

Lansiodd cwmni Sharp yr Aquos Crystal newydd yn 2014 gan dorri tir newydd ym maes technoleg ffonau symudol. Y ffôn hwn oedd y ffôn cyntaf i gael sgrin ymyl-i-ymyl a thechnoleg sgrin sy’n dirgrynu.

Roedd y dechnoleg hon yn golygu bod y sgrin yn dirgrynu pan oedd mewn cysylltiad â’r glust ac yn trosglwyddo sŵn, yn wahanol i seinydd arferol.

Arloesi

Mae arloesi yn cyfeirio at y broses o droi syniad yn gynnyrch, neu wasanaeth sy’n creu gwerth.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu ail-greu’r cynnyrch am gost dderbyniol, a bod yn rhaid i’r cynnyrch fodloni angen penodol.

Gall arloesi fod yn esblygol neu’n chwyldroadol.

  • Mae yn digwydd pan fydd syniadau’n cael eu creu o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg neu brosesau. Does dim angen i’r canlyniad terfynol fod yn newydd, er enghraifft nid yr iPhone oedd y ffôn clyfar cyntaf.
  • Mae yn llawer mwy anghyffredin. Mae’n cyfeirio at greu rhywbeth cwbl newydd, er enghraifft Kinetic Sand.