Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ffyniant economaiddEffaith y ffyniant hwn ar gymdeithas yn America?

Roedd economi America yn llewyrchus yn y 1920au. Polisi laissez-faire oedd gan yr Arlywyddion Gweriniaethol ond ni wnaeth pawb elwa o'r ffyniant.

Part ofHanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Sut wnaeth y ffyniant hwn effeithio ar gymdeithas yn America?

Grwpiau o bobl ni wnaeth elwa o ffyniant y 1920au.
Figure caption,
Grwpiau o bobl ni wnaeth elwa o ffyniant y 1920au

Grwpiau a sectorau nad oeddent wedi ffynnu

Ffermwyr

Roedd ffermwyr yn cynhyrchu gormod o gnydau ac yn methu eu gwerthu. Felly, fe ostyngodd y prisiau a bu'n rhaid i ffermwyr fenthyg arian gan y banciau er mwyn gallu byw. Aeth mwy a mwy ohonyn nhw i ddyled nes iddyn nhw orfod gwerthu eu ffermydd a gadael. Aeth nifer i grwydro o gwmpas America yn chwilio am unrhyw fath o waith - roedd y crwydrwyr yma'n cael eu galw'n .

Erbyn 1928 roedd hanner holl ffermwyr UDA yn byw mewn tlodi. Gan fod prisiau mor isel fe gollodd cymaint â 600,000 o ffermwyr eu ffermydd yn 1924 yn unig.

Pobl dduon

Dioddefodd y bobl dduon yn economaidd, yn enwedig yn nhaleithiau'r de, lle roedd y mwyafrif yn gweithio ar ffermydd bychain oedd yn eiddo i dirfeddianwyr (landlords) gwyn. Labrwyr neu oedd y bobl dduon gan amlaf ac roedden nhw'n byw mewn tlodi mawr.

Oherwydd deddfau Jim Crow a phresenoldeb y KKK yn nhaleithiau’r de, roedd arwahanu wedi gwneud bywyd hyd yn oed yn anoddach, ac ymfudodd llawer o bobl ddu i ddinasoedd gogleddol fel Efrog Newydd, Detroit a Chicago i ddod o hyd i waith yn y diwydiannau newydd. Roedd yr amodau'n parhau'n galed i'r rhan fwyaf o bobl a ymfudodd i'r gogledd gan eu bod yn byw mewn ghettos. Yn aml, nhw oedd "y rhai olaf i gael eu cyflogi a’r cyntaf i golli eu swyddi". Serch hynny, roedd rhai pobl ddu yn llwyddiannus a daeth sawl cerddor ac actor du yn enwog yn ystod y cyfnod hwn.

Mewnfudwyr

Parhaodd cyfradd diweithdra ymysg mewnfudwyr newydd yn uchel trwy gydol y 1920au. Roedd nifer o'r rhain heb gael addysg ac roedden nhw'n barod i weithio mewn unrhyw fath o swydd am gyflogau bach. Oherwydd hyn, byddai'n rhaid iddyn nhw ddioddef mwy a mwy o ragfarn (prejudice).

Hen ddiwydiannau traddodiadol

Methodd y diwydiannau traddodiadol ag ymateb i ddulliau newydd masgynhyrchu'r 1920au, yn wahanol i gwmni Ford a oedd yn gwneud elw da ac yn gallu talu cyflogau gwych. Hefyd, ers chwalu pwerau'r nid oedd y gweithwyr mewn sefyllfa i fedru hawlio cyflogau ac amodau gwaith gwell yn yr hen ddiwydiannau.

  • Glo - Syrthiodd prisiau glo a bu'n rhaid gwneud miloedd yn ddi-waith am fod y diwydiant yn cynhyrchu gormod o lo a bod dim digon o bobl a gwledydd yn barod i'w brynu.
  • Adeiladu llongau - Diwydiant mawr arall a ddiswyddodd filoedd o weithwyr oherwydd llai o alw am longau newydd.
  • Cotwm - Cafodd ffibrau synthetig newydd eu datblygu, fel reion a ddaeth yn boblogaidd iawn yn lle cotwm. Roedd hi'n bosib cynhyrchu reion mewn ffatrïoedd lle'r oedd angen llai o weithwyr. Roedd yn rhaid i nifer o felinau tecstilau gau.
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddPobl na deimlodd effaith yr ymchwydd
Perchnogion ffatrïoedd nwyddau traulFfermwyr
Gweithwyr ar y llinell gydosodCyfran-gnydwyr (sharecroppers)
Pobl wyn yn y dinasoeddPobl dduon
Hapfasnachwyr ar y farchnad stocPobl yr ardaloedd gwledig
Y mewnfudwyr cynnarGlowyr
Menywod dosbarth canolGweithwyr tecstilau
AdeiladwyrMewnfudwyr newydd
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddPerchnogion ffatrïoedd nwyddau traul
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddFfermwyr
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddGweithwyr ar y llinell gydosod
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddCyfran-gnydwyr (sharecroppers)
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddPobl wyn yn y dinasoedd
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddPobl dduon
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddHapfasnachwyr ar y farchnad stoc
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddPobl yr ardaloedd gwledig
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddY mewnfudwyr cynnar
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddGlowyr
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddMenywod dosbarth canol
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddGweithwyr tecstilau
Pobl a deimlodd effaith yr ymchwyddAdeiladwyr
Pobl na deimlodd effaith yr ymchwyddMewnfudwyr newydd