Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Rôl menywodNewid i ffordd o fyw a statws merched

Newidiodd agweddau tuag at fenywod a thuag at foesau cymdeithasol yn arthurol. Cynyddodd y nifer o fenywod yn y gweithle yn ystod y 1920au a thrawsnewidiodd ffasiwn ac ymddygiad ymysg merched ifanc.

Part ofHanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Sut gwnaeth ffordd o fyw a statws menywod newid yn ystod y cyfnod hwn?

Newidiadau mewn agweddau tuag at fenywod

Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Cyn y rhyfel roedd disgwyl i ferched ymddwyn yn wylaidd a gwisgo ffrogiau hir. Pan fydden nhw'n mynd allan byddai'n rhaid iddyn nhw gael cwmni menyw hŷn neu fenyw oedd wedi priodi.

Roedd yn hollol annerbyniol i fenyw ysmygu mewn lle cyhoeddus. Roedd menywod yn cael eu cyflogi mewn swyddi oedd yn draddodiadol yn gysylltiedig â'r ferch, ee gweithio fel morwynion, gwnïo, ysgrifenyddion, nyrsio.

Yn ystod y rhyfel dechreuodd menywod gael eu cyflogi mewn swyddi eraill, ee gwaith ffatri, gan gymryd lle'r dynion oedd wedi mynd i ymladd yn y rhyfel yn Ewrop.

Roedd mudiadau fel y National American Woman Suffrage Association (NAWSA) wedi bod yn ymladd ers degawdau i gael y bleidlais i fenywod. Gan fod menywod wedi cyfrannu at yr ymdrech rhyfel roedd hi'n anodd eu gwrthod pan oedden nhw'n hawlio cydraddoldeb gwleidyddol. O ganlyniad, daeth 19eg Gwelliant y Cyfansoddiad yn ddeddf yn 1920, gan roi'r hawl i fenywod bleidleisio. Nellie Tayloe Ross o Wyoming oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol yn llywodraethwr talaith yn 1924.

Roedd yna newid o ran gwaith hefyd, gyda chynnydd o 25 y cant yn nifer y menywod oedd yn gweithio yn ystod y 1920au. Erbyn 1929 roedd 10.6 miliwn o fenywod yn gweithio.

Bellach roedd gan fenywod annibynnol y dosbarthiadau canol ac uwch fwy o arian i'w wario hefyd. Oherwydd hyn, dechreuodd cwmnïau hysbysebu dargedu menywod yn benodol i brynu eu nwyddau newydd.