Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ffyniant economaiddAgwedd a pholisi Arlywyddion y Blaid Weriniaethol

Roedd economi America yn llewyrchus yn y 1920au. Polisi laissez-faire oedd gan yr Arlywyddion Gweriniaethol ond ni wnaeth pawb elwa o'r ffyniant.

Part ofHanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Agwedd a pholisïau Arlywyddion y Blaid Weriniaethol

Ffotograff o Warren Harding.
Figure caption,
Warren G Harding

Cafodd yr Unol Daleithiau eu harwain gan dri Arlywydd Gweriniaethol yn ystod y 1920au, sef Warren G Harding, Calvin Coolidge a Herbert Hoover.

Polisïau'r Arlywyddion Gweriniaethol yma oedd peidio â gadael i'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi - hynny yw, polisi . Golygai hyn fod gan fusnesau mawr y rhyddid i allu ehangu heb gael eu rhwystro gan y llywodraeth.

Warren Harding (1921-23)

Ei addewid oedd dychwelyd at normalrwydd. Gostyngodd drethi er mwyn rhoi mwy o arian i fusnesau dyfu ac er mwyn rhoi mwy o arian ym mhocedi Americanwyr cyffredin. Yn 1922, cyflwynodd Harding oedd yn gosod treth ar nwyddau o wledydd tramor. Roedd hyn yn gwneud nwyddau tramor yn ddrutach na nwyddau cartref, ac felly'n hybu Americanwyr i brynu nwyddau Americanaidd yn unig. Yr enw ar y polisi yma oedd diffynnaeth (protectionism).

Calvin Coolidge (1923-29)

Ffotograff o Calvin Coolidge.
Figure caption,
Calvin Coolidge

Busnes yw busnes America meddai. Cadwodd Coolidge at yr un polisi â Harding. Er nad oedd yn gwneud llawer, ei lysenw oedd Silent Cal, credai Americanwyr ei fod yn Arlywydd da gan fod yr economi mor gryf. Roedd ganddo barch mawr at ddynion busnes a glynai at y polisi laissez-faire. Rhoddodd ryddid i ddynion busnes wneud elw a chyfoeth.

Roedd hyd yn oed papur newydd y Wall Street Journal yn canmol y polisi yma: Nid oes unrhyw lywodraeth erioed o'r blaen, yma nag yn unrhyw wlad arall, wedi llwyddo i uno mor llwyr â byd busnes.

Herbert Hoover (1929-32)

Ffotograff o Herbert Hoover gyda Marie Curie.
Figure caption,
Herbert Hoover (gyda Marie Curie)

Daeth yn Arlywydd yn 1929 yn dilyn ei addewid i roi cyw iâr ym mhob crochan, a char ymhob garej. Credai Hoover mewn laissez-faire, ond hefyd mewn . Ystyr hyn oedd na ddylai pobl ddibynnu ar y llywodraeth am gymorth - fe ddylen nhw ateb eu problemau trwy weithio'n galetach. Byddai Hoover yn colli'r etholiad Arlywyddol nesaf yn 1932 oherwydd yr agwedd yma - roedd yn rhy llym - yn enwedig ar ôl Cwymp Wall Street a'r Dirwasgiad.

ArlywyddTermau allweddol
Warren Harding (1921-23)"Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth
Calvin Coolidge (1923-29)"Busnes yw busnes America", laissez-faire
Herbert Hoover (1929-32)Unigolyddiaeth grymus
ArlywyddWarren Harding (1921-23)
Termau allweddol"Dychwelyd at normalrwydd", Ddeddf Fordney-McCumber, Diffynnaeth
ArlywyddCalvin Coolidge (1923-29)
Termau allweddol"Busnes yw busnes America", laissez-faire
ArlywyddHerbert Hoover (1929-32)
Termau allweddolUnigolyddiaeth grymus