Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ffyniant economaiddAchosion ffyniant economaidd yr 1920au

Roedd economi America yn llewyrchus yn y 1920au. Polisi laissez-faire oedd gan yr Arlywyddion Gweriniaethol ond ni wnaeth pawb elwa o'r ffyniant.

Part ofHanesUDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929

Beth oedd achosion y ffyniant economaidd yn ystod y 1920au?

Asedau a datblygiad America

Roedd gan Unol Daleithiau America storfa angenrheidiol o adnoddau naturiol megis coed, haearn, glo, mwynau, olew a thir. Sicrhaodd fewnfudwyr weithlu mawr a rhad i ddefnyddio'r adnoddau hyn. Galluogodd hyn i America i ddatblygu i fod yn bwer diwydiannol enfawr ar ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd yr adnoddau yma'n sylfaen bwysig i'r economi.

Er bod economïau Ewropeaidd yn dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd UDA yn profi twf sylweddol. Benthycodd banciau’r Unol Daleithiau arian i Ewrop ac roedd busnesau'n gwerthu nwyddau yr oedd galw mawr amdanyn nhw. Roedd y rhyfel hefyd yn sbardun ar gyfer dyfeisiadau mewn cynhyrchu, deunyddiau a hysbysebu. Yn syth ar ôl y rhyfel, cafwyd ychydig o gwymp, ond o 1922 ymlaen, profodd America ffyniant economaidd na welwyd mo’i debyg erioed.

Yn araf y datblygodd trydan cyn y rhyfel, ond yn ystod y 1920au gwelodd y diwydiant trydan mawr. Erbyn 1929 roedd gan fwyafrif y tai yn America drydan ac roedd 70 y cant ohonyn nhw'n ei ddefnyddio i oleuo'r ty. O ganlyniad i ddatblygiad y ffatrïoedd i gynhyrchu nwyddau ar gyfer pobl America, dyblodd y galw am drydan. Cyflwynwyd pwer trydan mewn ffatrïoedd i yrru'r peiriannau, ac felly daeth hi'n bosibl i gyflwyno mewn nifer o ddiwydiannau a ffatrïoedd, ee cynhyrchu oergelloedd, peiriannau golchi, sugnwyr llwch a setiau radio.

Y diwydiant ceir yw'r enghraifft orau o fasgynhyrchu yn ystod y cyfnod. Roedd Henry Ford yn arloeswr gyda'i ddelfryd o gynhyrchu ceir fforddiadwy i bobl America. Aeth ati i wireddu ei freuddwyd trwy gynhyrchu ei geir cynnar mewn gweithdai bach. Roedd ganddo grwpiau o ddynion yn gweithio iddo ac yn raddol cafodd y ceir eu hadeiladu.

Henry Ford a'i fab Edsel mewn Model T Ford
Image caption,
Henry Ford a'i fab yn eistedd mewn car, y model F Ford, yn 1905

Fe wnaeth holl waith Henry Ford ddwyn ffrwyth. Wrth iddo gynhyrchu mwy a mwy o geir, roedd yn gallu gostwng eu prisiau. Erbyn 1925 roedd ceir yn costio $290, oedd yn llawer rhatach na'u pris yn 1908, sef $850. Barn Henry Ford oedd ei bod yn well gwerthu mwy o geir am elw bach, gan fod hynny'n cyflogi mwy o weithwyr.

Erbyn 1929 roedd Americanwyr yn berchen ar 23 miliwn o geir. Roedd y gweithwyr yn cael cyflogau da ($5 y dydd), cafodd miloedd o swyddi eu creu, adeiladwyd ffyrdd, a chodwyd gorsafoedd petrol, gwestai a thai bwyta. Felly, cafodd yr holl economi hwb sylweddol diolch i'r diwydiant ceir.

Er mwyn cynorthwyo'r Americanwyr i brynu'r nwyddau newydd oedd ar gael, fe ddatblygwyd systemau . Golygai hyn y gallai pobl brynu rhywbeth trwy dalu'n fisol amdano. O ganlyniad i hyn roedd mwyafrif yr Americanwyr yn medru fforddio nwyddau drud. Er mwyn annog Americanwyr i fanteisio ar y cynllun, cafodd eu gosod ar ochr ffyrdd, ar y radio, mewn papurau newydd ac yn y sinemâu.

Yn yr un cyfnod, ymddangosodd siopau cadwyn am y tro cyntaf, ee J C Penney. Daeth siopa catalog yn ffasiynol am fod hyn yn ffordd gyfleus o brynu nwyddau.

Rhesymau dros ffyniant economaidd

Rhesymau dros ffyniant y 1920au yn America.